
Dathlu Cwblhau Prosiect Treftadaeth Pwysig yn Eglwys Ganoloesol Sant Mihangel, Ceredigion
Ym mis Mai 2019, ysgrifennodd y Comisiwn Brenhinol lythyr o gefnogaeth i Eglwys a Grŵp Cymunedol Llanfihangel-y-Creuddyn ar gyfer eu cais i Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol am grant i atgyweirio a gwella Eglwys Sant Mihangel, Ceredigion. Bedair blynedd yn ddiweddarach, roeddem wrth ein bodd o gael mynychu’r dathliad a gynhaliwyd i nodi bod y gwaith wedi’i gwblhau ac i ddiolch i’r sefydliadau a roddodd gyllid a chefnogaeth i’r prosiect.

Gyda grant o £187,000 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, ynghyd â chyllid ychwanegol gan Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Eglwysi, Cyngor Sir Ceredigion, Sefydliad Wolfson, Ymddiriedolaeth Headley, Yr Eglwys yng Nghymru a’r gymuned leol, mae atgyweirio’r eglwys wedi datrys problemau lleithder difrifol drwy atal dŵr rhag gollwng i mewn i’r eglwys drwy’r tŵr a thrwy osod system wresogi newydd yn lle’r hen un. Mae mynediad wedi’i wella hefyd drwy osod grisiau er mwyn darparu mynediad cyhoeddus diogel ar ffurf ‘Teithiau i’r Tŵr’, sy’n galluogi pobl i fynd i fyny’r tŵr canoloesol i’r clochdy. Mae ardal hanes newydd wedi’i chreu hefyd yn y transept deheuol lle gellir gweld panelau dehongli ac eitemau sydd ar ddangos.



Roedd angen i loriau’r tŵr gael eu hatgyweirio’n helaeth er mwyn sicrhau eu bod yn gallu cymryd pwysau’r grisiau newydd. Roedd pen draw rhai o drawstiau’r lloriau, a oedd yn 500 mlwydd oed, wedi dechrau pydru lle’r oeddent yn sownd yn waliau’r tŵr. Cafodd y darnau hynny eu torri allan a chafodd darnau newydd o dderw eu rhoi yn eu lle, cyn bod estyllod newydd o dderw’n cael eu gosod i greu’r lloriau (Llun: Louise Barker).
Mae’r Comisiwn Brenhinol wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r grŵp cymunedol yn ystod y prosiect. Gwnaethom gynnal arolwg o dŵr yr eglwys drwy ei sganio â laser cyn i’r gwaith ddechrau, a helpodd hynny i lywio’r gwaith o ddylunio’r grisiau newydd ar gyfer y tŵr. Gan gydweithio â Labordy Coed-ddyddio Rhydychen, aethom ati hefyd i ddyddio’r cylchoedd pren yn nho’r eglwys, lloriau’r tŵr a’r ffrâm glychau. Rydym yn gwybod yn awr bod un o’r prosiectau adnewyddu estynedig cyntaf wedi’i gyflawni yn ystod degawdau cynnar y 1500au OC, pan gafodd to’r eglwys ei wella a phan gafodd y tŵr ei adnewyddu. Gan ddefnyddio derw a gafodd eu cwympo rhwng 1502 a 1538, cafodd crymdoeau ffasiynol a drud eu gosod gan grefftwyr yng nghorff yr eglwys a’r transeptau, a chafodd tri llawr newydd eu gosod yn nhŵr yr eglwys. Ar dop y tŵr, cafodd ffrâm glychau i ddal tair cloch ei gosod yn 1537-8. Mae rhaglen mor uchelgeisiol o waith yn dangos ffyniant plwyf Llanfihangel er gwaetha’r cyfnod o ansefydlogrwydd a arweiniodd at y Diwygiad.

Dyma a ddywedodd Elin Jones, Aelod o’r Senedd dros Geredigion a Llywydd y Senedd, yn ei hanerchiad yn y digwyddiad ac wrth ddadorchuddio plac coffa:
“Mae’n fendigedig gweld y gwaith sydd wedi’i wneud yn yr eglwys hon a gweld y modd y mae’r gymuned, gyda chymorth sefydliadau a chrefftwyr medrus, wedi adfer yr eglwys fel addoldy ac fel canolbwynt treftadaeth ddiwylliannol y gymuned ac wedi hyrwyddo’r eglwys ar yr un pryd fel atyniad treftadaeth i ymwelwyr. Mae adfywio adeiladau hynafol yn sensitif yn elfen werthfawr o ddatblygu cynaliadwy, ac yn arwydd o gymuned fywiog sy’n ymwneud â’i threftadaeth ac sy’n falch ohoni ond sydd hefyd yn barod i fentro wrth edrych i’r dyfodol.”

Erbyn hyn, mae’r eglwys ar agor i ymwelwyr. Caiff gwasanaethau eu cynnal yno’n rheolaidd, ac mae’r adeilad ar agor bob penwythnos drwy gydol y flwyddyn ac o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng y Pasg a diwedd mis Hydref. Bydd Teithiau i’r Tŵr ar gael yn ddiweddarach yn ystod haf eleni. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://eglwysllanfihangel.church/
Louise Barker, Uwch Ymchwilydd (Archaeoleg)
15/08/2023