CBHC / RCAHMW > Newyddion > Dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched: Amy Dillwyn (1845 – 1935)
Ffotograff du a gwyn yn dangos grŵp teulu tu allan Tŷ Penllergaer, a dynnwyd gan Mary Dillwyn, circa 1860.

Dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched: Amy Dillwyn (1845 – 1935)

Ymgyrchydd, awdur ac un o ddiwydianwyr benywaidd cyntaf Prydain – menyw Gymreig ysbrydoledig!

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched byddai’n anodd maeddu enghraifft well o fenyw arloesol na Elizabeth Amy Dillwyn o Gilâ, Abertawe a oedd yn enghraifft wych o fenyw aml-ddawnus fel diwydiannwr, ymgyrchydd, dyngarwr ac awdur. Roedd yn aelod un o deuluoedd pwysicaf yn hanes datblygiad diwydiannol Abertawe a Chymru a dangosodd gwaddol Amy Dillwyn ei bod wedi rhoi ergyd farwol i’r rheini a oedd yn amau gallu menyw i lwyddo mewn busnes a diwydiant.  Yn ystod ei hoes roedd Amy Dillwyn wedi torri trywydd arloesol mewn sawl ffordd.  Adlewyrchwyd hyn yn ei chyfraniad i gymdeithas ac yn ei hymddangosiad.  Roedd Amy Dillwyn (1845 – 1935) yn fenyw arloesol yn ei chyfnod am ei bod wedi gwrthryfela a herio’r disgwyliadau a’r hualau cymdeithasol, traddodiadol a welai hi a oedd yn cyfyngu ar ryddid, unigolyddiaeth a hawliau menywod ei hoes.  Amlygodd ei hun fel ymgyrchydd egnïol dros wahanol achosion cymdeithasol ac ymgyrchydd cydraddoldeb i ferched, fel cefnogwr brwd i’r National Union of Women’s Suffrage Societies (NUWSS) a diwydiannwr galluog, rheolwr a chyfarwyddwr, sgiliau gwaith a oedd yn ddieithr i’r mwyafrif o ferched ar y pryd ac yn cael ei ystyried yn faes gwrywaidd ei natur. 

Ganwyd hi yn Sgeti, Abertawe yn 1845, i deulu’r Dillwyn, sef teulu blaenllaw nid yn unig yn hanes Abertawe ond hefyd hanes Cymru yn ystod y 19eg ganrif.  Cartref y teulu oedd Tŷ Hendrefoilan, yn ardal Cilâ, Abertawe, a adeiladwyd yn benodol ar gyfer Lewis Llewelyn Dillwyn yn 1853, ac fel sy’n cael ei ddangos mewn ffotograff cynnar iawn a dynnwyd gan fodryb Amy, sef Mary Dillwyn tua 1855.

Copi o ffotograff cynnar, wedi ei ddyddio circa 1855, a dynnwyd gan Mary Dillwyn, yn dangos Tŷ Hendrefoilan, Abertawe.
Copi o ffotograff cynnar, wedi ei ddyddio circa 1855, a dynnwyd gan Mary Dillwyn, yn dangos Tŷ Hendrefoilan, Abertawe.

Roedd yn un o bedwar o blant a anwyd i Lewis Llewelyn Dillwyn, Aelod Seneddol Rhyddfrydol Abertawe ac Elizabeth Dillwyn (cyfenw De la Beche cyn priodi), ac roedd yn wyres i’r diwydiannwr adnabyddus Lewis Weston Dillwyn. Tad ei mham oedd Henry De la Beche, y daearegwr a’r paleontolegydd a benodwyd yn Gyfarwyddwr cyntaf Archwiliad Daearyddol Prydain Fawr, sef sefydliad a fu’n arloesol mewn dulliau cynnar archwiliadau daearyddol.  Ef hefyd oedd Llywydd cyntaf y Gymdeithas Baleontoleg.  Roedd Elizabeth neu Bessie, fel yr adnabyddwyd hi, wedi cyfrannu at gynlluniau celf cwmni Crochenwaith Cambrian a oedd yn berchen i’w gŵr.  Roedd tad Amy hefyd yn ddaearegwr, Radical yn ei dueddiadau gwleidyddol,  ac roedd brawd ei thad, sef John Dillwyn-Llewelyn, perchennog plasty ysblennydd Penllergaer, Abertawe (bellach wedi ei ddiddymu) yn arloeswr adnabyddus ym maes ffotograffiaeth gynnar yng Nghymru ac yn cael ei gydnabod fel un o ffotograffwyr cynharaf Cymru.[1]

Roedd Mary Dillwyn, chwaer i’w thad a modryb Amy, yn cael ei hystyried fel ffotograffydd benywaidd cyntaf Cymru yn ogystal â bod ymhlith ffotograffwyr benywaidd cyntaf Prydain. [2]. Roedd teulu’r Dillwyn yn Grynwyr o ran eu crefydd ac yn deulu a oedd hefyd yn hyrwyddo ysbryd annibyniaeth, rhyddid meddwl a chreadigrwydd. 

Ffotograff du a gwyn yn dangos grŵp teulu tu allan Tŷ Penllergaer, a dynnwyd gan Mary Dillwyn, circa 1860.
Ffotograff du a gwyn yn dangos grŵp teulu tu allan Tŷ Penllergaer, a dynnwyd gan Mary Dillwyn, circa 1860.

Yn erbyn y cefndir hwn, magwyd Amy Dillwyn ac felly yn hanu o dras amryddawn ei diddordebau a sgiliau ond a oedd hefyd yn meddu’r arian a’r cyfoeth i feithrin, i weithredu a hyrwyddo’r trywyddau gwahanol hynny.  Mae ei llythyron a’i dyddiaduron yn dangos y gwrthdynnu a deimlai fel aelod o deuluoedd cefnog, diwydiannol Morgannwg, a oedd yn berchen ar ystadau mawr yn y sir, fel Margam a Phenllergaer ac yn troi mewn cylchoedd uchel-ael, tra ei bod hefyd yn teimlo’r dynfa i roi cymorth a chefnogaeth i’r dosbarth gweithiol, a weithient yn y diwydiannau ac a oeddent yn byw yn yr un ardal. Yn sicr, roedd gwrthdrawiad rhwng yr Amy oedd â chydwybod gymdeithasol a’r cylchoedd cymdeithasol roedd hi’n troi ynddynt fel aelod un o deuluoedd pwysig diwydiannol Abertawe.

Ffotograff du a gwyn yn dangos ochr gorllewinol Castell Margam (Thomas Lloyd).
Ffotograff du a gwyn yn dangos ochr gorllewinol Castell Margam (Thomas Lloyd).
Golygfa o’r 19eg ganrif yn dangos Plasty Penllergaer o gyfeiriad yr ardd. (Casgliad Tirwedd Hanesyddol, Archaeolegol a Diwylliannol Penllergaer).
Golygfa o’r 19eg ganrif yn dangos Plasty Penllergaer o gyfeiriad yr ardd. (Casgliad Tirwedd Hanesyddol, Archaeolegol a Diwylliannol Penllergaer).

Bu farw ei dyweddi, Llewelyn Thomas, Llwyn Madog, yn 1864 ac ar farwolaeth ei mham yn 1866 ymgymerodd Amy gyda dyletswyddau edrych ar ôl y tŷ a bod yn gwmni i’w thad mewn gwahanol achlysuron cymdeithasol pwysig.  Dyma’r cyfnod pan benderfynodd chwilio rôl newydd a phenderfynu felly ymwneud â gweithgareddau cymdeithasol yn y gymuned fel helpu gyda chodi arian i wahanol elusennau lleol, gwirfoddoli yn yr ysgol leol yng Nghilâ, dysgu yn yr Ysgol Sul yng Nghilâ, a helpu sefydlu Ystafelloedd Darllen i ddynion dosbarth gweithiol yng Nghilâ.

Roedd ei gwaith llenyddol fel awdur yn adlewyrchu ei ‘chydwybod gymdeithasol’ ble disgrifiai fywyd caled y dosbarth gweithiol mewn arddull di-flewyn ar dafod a realistig, er enghraifft, roedd ei nofel gyntaf am Derfysgoedd Rebecca, The Rebecca Rioter: A Story of Killay Life (1880), wedi ei ysgrifennu o bersbectif y protestwyr ac roedd ei hail nofel, Chloe Arguelle (1881), yn disgrifio gwrthdaro rhwng y dosbarthiadau tra ar yr un pryd yn dychanu’r meistri. Bu’n adolygydd i gylchgrawn enwog The Spectator a chyfrannodd gynnyrch llenyddol i gylchgrawn The Red Dragon: The National Magazine of Wales yn ystod y 1880au a’r 1890au.  Roedd hefyd fel awdur yn defnyddio ei llenyddiaeth i ddadlau dros annibyniaeth i’r ferch ac i wrthryfela yn erbyn y gydymffurfiaeth roedd disgwyl i ferched o bob dosbarth ufuddhau iddo a dilyn. Mae ei dyddiaduron a’i gweithiau llenyddol eraill, fel A Burglary (1883) a Jill (1884) yn cael eu hystyried yn gamau pwysig yn natblygiad llenyddiaeth lesbiaidd ac yn adlewyrchu ei phrofiadau hi fel menyw hoyw yn y cyfnod.  Cwympodd mewn cariad gyda Olive Talbot (1843-1894), merch y miliwnydd lleol a pherchennog Castell Margam, C.R.M Talbot a chyfeiriai Amy Dillwyn yn aml at Olive fel ei ‘gwraig’.  Er bod y ddwy yn agos a’r ddau deulu yn gyfeillion a chymdogion agos nid oes tystiolaeth bod Olive Talbot yn teimlo’r un fath.

Ar farwolaeth ei thad yn 1892 etifeddwyd y tŷ gan fab ei chwaer, John Dillwyn Nichol (fel roedd trefniadau’r cyfnod) a bu’n rhaid i Amy adael Hendrefoilan a rhentu tŷ yn ardal West Cross, Abertawe. Yn ôl adroddiadau un o bapurau newydd ar y pryd,roedd ewyllys Lewis Llewelyn Dillwyn, yn nodi ei fod yn gadael dodrefn gwerth £500 yn y tŷ i Amy o’i dewis hi. Ond, mi etifeddodd busnes sinc ei thad ar ei farwolaeth, a leolwyd yn Llansamlet, ar lan yr afon Tawe, Abertawe.[3] Roedd y busnes mewn cyflwr truenus ar y pryd, gyda thua 300 o weithlu ac mewn perygl dybryd o fynd yn fethdalwr gyda dyledion o bron £100,000.  Er gwaethaf y ddyled ofnadwy, llwyddodd i wrthdroi llewyrch y cwmni drwy ddyfalbarhad a gwaith caled.  Erbyn 1899 roedd wedi talu pob un o gredydwyr y cwmni ac yn 1902 cofrestrwyd y busnes yn Nhŷ’r Cwmnïau o dan yr enw Dillwyn & Co. Yn ôl y trefniadau hyn, hi oedd a’r nifer mwyaf o gyfranddaliadau yn y cwmni ac roedd hefyd yn un o dri chyfarwyddwr y cwmni. 

Yn fuan iawn cododd gwerth cyfranddaliadau’r cwmni a thrawsnewidiwyd y cwmni i fod yn un o gynhyrchwyr sinc fwyaf y Deyrnas Unedig gydag elw blynyddol gwerth tua £10,000.  Enghraifft o gymeriad penderfynol Amy oedd ei thaith yn 1905, a hithau’n 59 mlwydd oed, i Algeria er mwyn chwilio ffynonellau ac adnoddau o sinc ar gyfer ceisio sicrhau parhad y cwmni.  Ar ddechrau’r 20fed ganrif penderfynwyd uno Dillwyn & Co. Cyf. gyda chwmni Metallgesellschaft o Frankfurt.  Disgrifia erthygl o dan y pennawd, ‘Lady Director’s Shares’, yn The Cardiff Times yn Nhachwedd 1905, Amy Dillwyn yn gwerthu ei chyfarwyddiaeth yn y cwmni ac felly ei siâr rheoli ond yn parhau i fod yn gyfranddalwr.[4]Roedd Amy Dillwyn, wedi arwain y busnes teuluol o drothwy cyflafan ariannol i fod yn gwmni rhyngwladol. Dirywiodd y gwaith wedi’r Rhyfel Byd Cyntaf ac fe gaeodd yn 1926 ac yn 1962 chwalwyd y safle yn 1962. Yn sicr mae’n sefyll ymhlith y menywod cyntaf ym Mhrydain am adael ei marc ym maes diwydiant.[5]

Delwedd Aerofilms o weithfeydd National Smelting, Llansamlet, a gomisiynwyd gan Imperial Smelting Corporation (1933).  Roedd yn un o bedair o weithfeydd sbelter yn Llansamlet a oedd yn cynnwys Dillwyn & Co. a reolwyd gan Amy Dillwyn.
Delwedd Aerofilms o weithfeydd National Smelting, Llansamlet, a gomisiynwyd gan Imperial Smelting Corporation (1933). Roedd yn un o bedair o weithfeydd sbelter yn Llansamlet a oedd yn cynnwys Dillwyn & Co. a reolwyd gan Amy Dillwyn.

Tua’r un adeg a chofrestru’r cwmni, symudodd i Dŷ Glyn, y cartref cyntaf a berchnogai ers gadael Hendrefoilan 10 mlynedd yn gynt.  Yn cyd-redeg gyda’i menter yn y byd diwydiannol, roedd Amy wedi ymdrochi ei hunan mewn gwaith cymunedol yn ardal Abertawe. Ym mhapur newydd The South Wales Daily Post, Gorffennaf 13, 1899, cofnodwyd bod un o lysoedd yr Ancient Order of Foresters (cymdeithas gyfeillgar) yn Abertawe wedi cael ei enwi ar ei hôl, ‘She has come prominently to the fore as a female Forester, and has done much to help on the female branch of the society in Swansea….she [sic] throws herself heart and soul into the work in a manner characteristic of her’.  Yn 1900 etholwyd hi fel aelod o Fwrdd Ysgol Abertawe, bu’n Gadeirydd Pwyllgor Ysbyty Abertawe, yn ogystal ag yn aelod o Siambr Fasnach Abertawe a nodwyd yn yr un erthygl yn y papue newydd hwnnw yng Ngorffennaf 1899 mai hi oedd yr unig aelod benywaidd o’r Siambr ar y pryd. [6] Bu hefyd yn aelod o Fwrdd Gwarchodwyr Abertawe ar gyfer ardal Castle Ward ac ym mhapur newydd, The Cambrian, Mawrth 29, 1907, nodwyd ei bod wedi ei hail-ethol i’r swydd honno ‘In whose re-election for the Swansea Board of Guardians the Castle Ward voters displayed good sense’. Yn sicr felly roedd ei hail-ethol yn dystiolaeth o’r parch uchel iddi oddi fewn y gymuned.[7]

Yn 1911 rhoddodd ei chefnogaeth i streic gwniyddesau ffrogiau, ac er bod y streic wedi cychwyn oherwydd teimlai’r gweithlu bod un ohonynt wedi cael ei diswyddo yn annheg troeodd yn brotest yn erbyn materion ehangach roeddent yn dioddef, sef amodau gwaith a chyflogau.  Cynrychiolwyd y gweithlu o fenywod gan yr NFWW (National Federation of Women Workers) ac roedd Amy Dillwyn, yn un o’r siaradwyr pan orymdeithiodd cangen newydd Abertawe drwy’r dre yn 1911. Ymhlith siaradwyr eraill y brotest honno oedd Margaret Bondfield, y fenyw gyntaf i fod yn aelod o Gabinet Llywodraeth.  Amlygodd ei hun fel cefnogwr llafar a blaengar i roi’r bleidlais i ferched drwy ddod yn Gadeirydd cangen Abertawe o’r NUWSS. Er hynny, er bod ganddi ddyheadau i gael ei hethol i swyddi yng nghylchoedd gwleidyddol yr ardal, sef Bwrdd Harbwr Abertawe a Bwrdd Cyngor Abertawe, methodd cael ei ethol.

Dangosodd ei amharodrwydd i gydymffurfio gyda disgwyliadau cymdeithas ynghylch statws menywod yn y ffordd roedd yn gwisgo ac yn ymddwyn.  Byddai’n ysmygu sigâr yn gyhoeddus ar adeg pan oedd arfer o’r fath yn cael ei wgu arno, yn enwedig os oeddech yn aelod o’r dosbarth canol ac uwch a disgrifiwyd ei gwisg fel un ‘gwrywaidd’ ei olwg.  Disgrifiwyd hi mewn erthygl a gyhoeddwyd mewn papur newydd fel un a oedd yn ‘…strong advocate of the equality of the sexes…by wearing a mannish coat and collar, and a skirt whose length is more consistent with comfort than with elegance, while on her head she wears a hat of the “crushed bowler” variety…’ [8].

Byddai’n mynd draw i Monte Carlo i gamblo ac roedd yn aelod o Gymdeithas Diwygio Galaru (Mourning Reform Society)  a oedd yn dadlau bod angen llai o bwyslais ar wario arian a’r defodau galaru a oedd mor boblogaidd yn Oes Fictoria.  Does dim amheuaeth ei bod yn gweld ei ffordd o wisg fel her allanol i ddisgwyliadau a syniadau cymdeithas y cyfnod am rôl a statws y ferch.  Bu farw yn Rhagfyr 1935 a chladdwyd lludw ei gweddillion yn Eglwys St. Paul, Sgeti.

Mae’r ymadroddion a ddefnyddiwyd i’w disgrifio ‘A Notable Welshwoman’ ‘Pioneer’ yn adlewyrchu ei phersbectif a chyflawniadau ei bywyd.  Disgrifiwyd hi ym mhapur The South Wales Daily Post yn 1899 fel menyw busnes ddawnus a oedd wedi, ar farwolaeth ei thad yn 1892, ‘took over his interest, and to this day has carried on the business in a thoroughly capable manner.[9]

Gadawodd waddol  ar ei hôl a oedd wedi gosod cynsail ar gyfer trywydd i ferched eraill ei ddilyn yn y dyfodol ym maes diwydiant ac roedd hi’n eithriad arloesol mewn maes dieithr i fenywod ar y pryd.  Ennill hawliau cydradd i fenywod oedd prif amcan Amy Dillwyn a sicrhau eu bod yn medru cael rhyddid i fyw a gweithio fel y mynnent yn rhydd o gyfyngiadau a disgwyliadau patriarchaidd cymdeithas. [10] [11]

Gellir cael gwybodaeth pellach am dreftadaeth diwydiannol Abertawe yn ein cyhoeddiad diweddaraf, Swansea Canal and its Early Railways ac eine-gyhoeddiad A Guide to the Industrial Archaeology of the Swansea Region. Mae’r ddau ar gael i’w prynu oddi ar ein siop ar-lein.

Bethan Hopkins-Williams, Swyddog Ymgysylltu â’r Cyhoedd

 

Troednodiadau

  1. Llyfr ffotograffau LlGC 900 – Llyfrgell Genedlaethol Cymru
  2. Albwm Llysdinam Mary Dillwyn – Llyfrgell Genedlaethol Cymru
  3. Y Werin, ‘Ewyllys y Diweddar Mr Dillwyn’, Awst 6, 1892, tud.3  /  The Western Mail, , ‘The Will of the Late Mr. Dillwyn, M.P’, Gorffennaf 28, 1892, tud.5. 
  4. The Cardiff Times, Tachwedd 18, 1905, tud.6
  5. Gweithiau Sbelter Llansamlet | Coflein
  6. The South Wales Daily Post, ‘Miss Dillwyn Sketched by “M.A.P” ‘, Gorffennaf 13, 1899, tud.4 
  7. The Cambrian, ‘Miss Amy Dillwyn’, Mawrth 29, 1907, tud.3
  8. The South Wales Daily Post, ‘Miss Dillwyn Sketched by “M.A.P” ‘, Gorffennaf 13, 1899, tud.4 
  9. The South Wales Daily Post, ‘Miss Dillwyn Sketched by “M.A.P” ‘, Gorffennaf 13, 1899, tud.4 
  10. Y Bywgraffiadur Cymreig, ‘Elizabeth Amy Dillwyn’, Kirsti Bohata  https://bywgraffiadur.cymru/article/c12-DILL-AMY-1845#?c=0&m=0&s=0&cv=24&manifest=https%3A%2F%2Fdamsssl.llgc.org.uk%2Fiiif%2F2.0%2F4716756%2Fmanife; Amy Dillwyn – Swansea University; The Life and Fiction of Amy Dillwyn – Swansea University
  11. https://amgueddfa.cymru/caerdydd, ‘Amy Dillwyn – ‘The Pioneer’, Professor Kirsti Bohata 

Llyfryddiaeth

08/03/2024

Subscribe
Notify of
guest

Security code *Time limit exceeded. Please complete the captcha once again.

1 Comment
Newest
Oldest Most Voted
Inline Feedbacks
View all comments
jfhfcjgf
jfhfcjgf
2 months ago

Fi yn dwyli arno fe

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

1
0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x