
Dathlu Dros 10,000 O Flynyddoedd o Hanes y Môr Mewn Llyfr Newydd
Datganiad i’r Wasg
Mae’r astudiaeth fwyaf cynhwysfawr erioed o hanes y môr yng Nghymru – a gymrodd dros ddegawd i’w hymchwilio a’i chynhyrchu – yn cael ei chyhoeddi’r wythnos yma. Mae’r gyfrol Cymru a’r Môr: 10,000 o Flynyddoedd o Hanes y Môr yn tyrchu i bob agwedd o gysylltiad Cymru â’r môr, o hanes cynnar i’r presennol: o archeoleg i baentiadau a barddoniaeth, o hanes morwrol i wyliau glan y môr.
Fe gafodd y gyfrol ei chomisiynu gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru mewn cydweithiad gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cadw, Amgueddfa Cymru, a’i hysgrifennu gan rai o haneswyr ac archeolegwyr mwyaf blaenllaw Cymru. Mae Cymru a’r Môr yn cynnwys hen ffotograffau archifol a ddaw yn bennaf o gasgliadau enfawr Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru, ond hefyd o lyfrgelloedd o bedwar ban byd.
Mae darganfyddiadau archeolegol o Gymru – gan gynnwys cychod o’r Oes Efydd, llongau Rhufeinig a’u llwythi, y llong ganoloesol o Gasnewydd a’r iot frenhinol o’r ail ganrif ar bymtheg Mary – yn tystio i hanes cyfoethog Cymru fel gwald fordeithiol. Mae Cymru a’r Môr yn dod â’r cyfan yn fyw: llongau mawr y cefnfor, y llongau a fu’n gosod ceblau oedd yn cysylltu Cymru â gweddill y byd, yr llongau pleser, yr iotiau rasio a’r pierau glan môr, yn ogystal â’r dociau prysur oedd yn cyflenwodd llechi, glo, haearn a dur o Gymru i weddill y byd.
Rhai o arwyr a dihirod y llyfr yw’r bycanîr Henry Morgan, y smyglwr William Owen a’r môr-leidr ysgeler Bartholomew Roberts, neu Barti Ddu, y dwedir iddo gipio 400 o longau mewn cyfnod o ddwy flynedd cyn cael ei saethu gan y Llynges Frenhinol yn 1722. Ceir hefyd ffigyrau fel yr arwres enwog Jemima Niclas a fentrodd allan yn ei chlogyn coch, gyda phicwarch yn ei llaw, i helpu trechu goresgyniad y Ffrancwyr ger Abergwaun ar 24 Chwefror 1797.
Wedi ei ddarlunio’n fendigedig ac yn llawn dros 300 ddelweddau, mae’r gyfrol swmpus 348 tudalen yn edrych ar ddylanwad y môr ar y dychymyg artistig trwy baentiadau morwrol, morluniau, barddoniaeth, caneuon a chofroddion poblogaidd o lan-y-môr. Y nod yw codi ymwybyddiaeth gyhoeddus o ran proffil treftadaeth forol Cymru a dathlu gwaith caled y sawl sydd yn diogelu y dreftadaeth hon ar gyfer y genedl, trwy recordio, amddiffyn safleoedd a gwaith curadu mewn amgueddfeydd.
Yn ei ragair, llongyfarchir cyfranwyr Cymru a’r Môr gan Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, Cynulliad Cymru, Dafydd Elis-Thomas, “am i chi’n hatgoffa ni fod i Gymru hanes morwrol balch”. Mae hefyd yn ein hatgoffa bod moroedd Cymru yn gorchuddio arwynebedd mwy nag arwynebedd ein tir (arwynebedd morol 32,000km² / arwynebedd tir 20,375 km²). “Mae Cymru a’r Môr yn hanes hynod o gynhwysfawr ac ar gael i bawb. Mae’n cynnwys pob agwedd o gysylltiad Cymru â’r môr, o’r adeg pan grewyd tirfas i heddiw,” meddai Nicola Roberts, Swyddog Ymgysylltu a’r Cyhoedd i Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Mae Cymru a’r Môr wedi’i wreiddio mewn ysgolheictod ond fe’i ysgrifennwyd i’w fwynhau, ac mae’n llawn storïau a lluniau sy’n ein hatgoffa o’r rhan allweddol y mae’r môr wedi’i chwarae yn hanes unigryw Cymru.

Teitl: Cymru a’r Môr: 10,000 o Flynyddoedd o Hanes y Môr
Dyddiad cyhoeddi: 24/09/2019
Pris: £24.99
ISBN: 978-1-78461-563-5
Awdur: Amrywiol
Ffôn a ebost: 01970 621248 | nicola.roberts@cbhc.gov.uk
Bydd Cymru a’r Môr yn cael ei lansio yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe, am 2:30yp ar ddydd Iau 24ain o Hydref 2019. Am fwy o fanylion, cysylltwch â Nicola Roberts: Nicola.roberts@rcahmw.gov.uk Mae Cymru a’r Môr (£24.99, Y Lolfa) ar gael nawr (mae fersiwn Saesneg hefyd ar gael: Wales and the Sea: 10,000 Years of Welsh Maritime History)




25/09/2019