Dathlu Dydd Gŵyl Dewi: Llanddewibrefi a Dewi Sant

This image has an empty alt attribute; its file name is DI2013_0865-1024x703.jpg
Llanddewibrefi: lluniad pensil o’r eglwys a’r pentref c.1850.

Mae llawer o eglwysi yng Nghymru wedi’u cysegru i Ddewi Sant, gan gynnwys, wrth gwrs, Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Un eglwys ddiddorol ond gweddol anadnabyddus sy’n gysylltiedig â chwlt Dewi Sant yw Eglwys Llanddewibrefi yn Nyffryn Teifi, Ceredigion.

Mae’r eglwys dyrog hon o’r Canol Oesoedd wedi colli ei thranseptau ond mae’n parhau i sefyll yn falch ar fryncyn yn y pentref tlws. Fe gododd y bryncyn o’r ddaear (yn ôl y chwedl) er mwyn i Ddewi Sant allu pregethu yn Synod Brefi. Mae’n sicr bod anheddiad crefyddol yma ganrifoedd lawer cyn i’r eglwys gael ei hadeiladu yn y drydedd ganrif ar ddeg, yn dyddio’n ôl i’r chweched ganrif efallai.

Mae chwe maen Cristnogol cynnar yn gysylltiedig â Llanddewibrefi, gan gynnwys y maen enwog (NPRN 419613) sy’n coffáu Idnert a gafodd ei ladd (mae’n debyg) wrth amddiffyn eglwys Dewi yn Llanddewibrefi.

This image has an empty alt attribute; its file name is St-Davids-Day-blog-image-3.jpeg
Meini Cristnogol cynnar yn Eglwys Dewi Sant.

Pan gyhoeddodd Samuel Rush Meyrick ei History and Antiquities of the County of Cardigan ym 1808 fe gofnododd rai o’r traddodiadau am Ddewi Sant a oedd yn gyffredin ar y pryd. Roedd y rhain yn cynnwys y ‘foolish tradition’ bod dau ych mawr wedi tynnu’r cerrig yr oedd eu hangen i adeiladu’r eglwys at y twmpath, a bod un ohonynt wedi marw yn yr ymdrech.

Gan mlynedd ynghynt roedd Edward Lhuyd wedi ymweld â’r eglwys ac roedd wedi gweld ‘a great rarity’, sef Matkorn yr ych bannog neu Matkorn ych Dewi. Ystyr mapgorn yw rhan fewnol corn anifail a’r ychen bannog oedd ychen corniog Dewi a oedd wedi dod â’r cerrig ar gyfer adeiladu’r eglwys.

This image has an empty alt attribute; its file name is SWC2012_0237-Cwys-yr-ychen-bannog-central-section-1024x768.jpeg
Cwys-yr-ychenbannog: y gwrthglawdd llinol canoloesol hynod yng Ngheredigion.

Cedwir y traddodiad hwn yn yr enw Cwys-yr-ychenbannog, clawdd a ffos yn yr ucheldiroedd rhwng Llanddewibrefi ac Ystrad Fflur (NPRN 303652). Cofnodwyd yr enw gyntaf ar fap chwe-modfedd 1898-1908 yr Arolwg Ordnans. Cafodd tair rhan o’r clawdd hwn, a oedd i bob tebyg yn derfyn canoloesol, eu cofnodi yn ystod arolwg y Comisiwn Brenhinol o Uwchdiroedd Cymru.

I gael mwy o wybodaeth am y clawdd, a lluniau ohono, gweler NPRN 303652, NPRN 529403, NPRN 529092 a NPRN 529093. Mae rhai ohonom yn edrych ymlaen at archwilio’r nodwedd archaeolegol ddiddorol hon pan ddaw’r Cyfnod Clo i ben…

I gael hanes yr eglwys yn Llanddewibrefi, gweler tt. 180-84 yn y gyfrol Cardiganshire County History, Volume 2: Medieval and Early Modern Cardiganshire, wedi’i golygu gan Geraint H. Jenkins, Richard Suggett ac Eryn M. White, ac wedi’i chyd-gyhoeddi gan Gymdeithas Hanes Ceredigion a CBHC (2019).

I ddarganfod mwy am enwau lleoedd sy’n gysylltiedig â Dewi Sant, chwiliwch ym mynegai ein Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol.

I gael mwy o wybodaeth am feini Cristnogol cynnar, gweler A Corpus of Early Medieval Inscribed Stones and Stone Sculpture in Wales, Volume II: South-west Wales, gol. Nancy Edwards (2007), tt. 150-9. Cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru mewn cysylltiad â CBHC a’i bartneriaid.

Richard Suggett, Uwch Ymchwilydd (Adeiladau Hanesyddol).

03/01/2021

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x