
Dathlu Gŵyl Archaeoleg Prydain yng Nghastell Aberystwyth ac Amgueddfa Ceredigion: 28-29 Gorffennaf, 2012

Castell Aberystwyth
Mae Gŵyl Archaeoleg Prydain yn dathlu’r pethau gorau sy’n digwydd ym maes archaeoleg ym Mhrydain. Wedi’i threfnu gan Gyngor Archaeoleg Prydain, mae’r ŵyl yn cynnwys cannoedd o ddigwyddiadau ar hyd a lled gwledydd Prydain o’r 14 i’r 29 o Orffennaf 2012 sy’n dathlu archaeoleg i bawb. Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ac Amgueddfa Ceredigion yn gweithio gyda’i gilydd i gynnal digwyddiad yng Nghastell Aberystwyth gyda chymorth Cynnal y Cardi. Cynhelir yr ŵyl ar benwythnos yr 28 a’r 29 o Orffennaf a bydd yn dathlu ysbryd Canoloesol y castell yn ogystal â thref glan môr Fictoraidd ac Edwardaidd Aberystwyth.
Dyma’r ŵyl gyntaf o’i bath i gael ei chynnal yng Ngheredigion a bydd yn galluogi pawb i ddarganfod mwy am eu treftadaeth leol ac yn datgelu gorffennol cyfoethog Aberystwyth. Cynhelir y digwyddiad ar diroedd Castell Aberystwyth a bydd yn rhoi cyfle i bobl gael profiad ymarferol o dechnegau archaeolegol, rhoi cynnig ar hen grefftau, a darganfod sut y gallant fynd ati i astudio eu treftadaeth eu hunain. Yn ystod y penwythnos fe fydd yr ymwelwyr yn gallu mynd i’r afael â gweithgareddau megis gwneud basgedi a thurnio, a bydd cyfleoedd i’r plant (neu oedolion!) wisgo a gwneud eitemau crefft y gallant fynd â nhw adref a’u cadw.
Bydd cyfle hefyd i flasu bwyd oes Victoria a gwrando ar chwedleuwyr yn gweu straeon hudol. Fe fydd teithiau cerdded drwy gydol y dydd pryd yr adroddir hanesion diddorol am y Castell. Fel rhan o’r ŵyl bydd Amgueddfa Ceredigion hefyd yn trefnu llwybr trysor archaeolegol i’r plant yn yr amgueddfa ar Ddydd Sadwrn yr 28. Darganfyddwch ragor am eich treftadaeth leol yn y lleoliad eiconig hwn mewn awyrgylch llawn hwyl a bwrlwm!
Bydd yr ŵyl yn ddigwyddiad cyffrous i’r teulu cyfan ac mae mynediad i’r ŵyl, y castell a’r amgueddfa yn RHAD AC AM DDIM. Bydd yr ŵyl yn agor am 10.30 yn y bore a bydd y gweithgareddau’n mynd ymlaen tan tua 4.30 yn y prynhawn.
I gael rhagor o wybodaeth am fynychu’r ŵyl neu am helpu gyda’r digwyddiad cysylltwch â Sarah Rees yn Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed, e-bost s.rees@dyfedarchaeology.org.uk neu ffôn 01558 823121.
I gael rhagor o wybodaeth am Gyngor Archaeoleg Prydain a Gŵyl Archaeoleg Prydain ewch i http://www.archaeologyfestival.org.uk/.
07/26/2012