Dathlu Santes Catrin – Gan Christopher Catling

Wrth ddarllen llyfr gwych newydd Richard Suggett am eglwysi’r Oesoedd Canol diweddar – Temlau Peintiedig – dechreuais feddwl pam mae’r Santes Catrin (Catharine yn Saesneg, ymhlith sillafiadau eraill) mor boblogaidd. Pam mae hi, ynghyd â Sant Christopher, yn cael ei phortreadu mor aml mewn murluniau ac ar wydr lliw canoloesol?

Roedd cyltiau Sant Christopher a’r Santes Catrin wedi’u hen sefydlu yng Nghymru’r Oesoedd Canol diweddar. Yn ei llyfr Feminine Sanctity and Spirituality in Wales (Caerdydd, 2008), mae Jane Cartwright yn ymdrin â’r amrywiaeth o ffynonellau llenyddol sy’n rhoi sylw i’r Santes Catrin, gan gynnwys Buchedd Cymraeg Canol sy’n pwysleisio rhinweddau’r santes, sef doethineb, ffydd a diweirdeb, ac yn adrodd hanes ei merthyrdod, pan gafodd ei chlymu wrth olwyn bigog (digwyddiad sy’n cael ei goffáu yn enw’r tân gwyllt ‘olwyn Gatrin’). Mae Catrin a Catherine yn parhau’n enwau poblogaidd yng Nghymru.

Mae’n hawdd esbonio apêl Sant Christopher yn yr Oesoedd Canol. Ef yw nawddsant y teithiwr, a hyd yn oed heddiw fe fydd llawer o bobl yn cario delwedd ohono, ar ffurf medal neu swynogl, sy’n ei ddangos yn mynd â’r plentyn Iesu ar ei ysgwyddau wrth rydio drwy afon i ddiogelwch yr ochr arall.

Mae’n debyg bod gan bob eglwys ym Mhrydain bortread o ryw fath o Sant Christopher ar ei mur gogleddol, yn wynebu’r brif fynedfa. Mae’n amlwg felly fod mynd i’r eglwys a chyflwyno gweddi fer i Sant Christopher cyn cychwyn ar daith yn cael ei ystyried yn beth doeth i’w wneud.

Yn Eglwys y Grog Fendigedig yn Woodeaton, Swydd Rydychen, mae murlun o Sant Christopher o’r 14eg ganrif ac arysgrif mewn Ffrangeg Normanaidd arno sy’n egluro pam mae ef yno: Ki cest image verra la jur de male mort ne murra, sy’n golygu ‘Pwy bynnag sy’n edrych ar y ddelwedd hon, ni fydd yn dioddef angau cas y diwrnod hwnnw’. Ond sylwer nad yw’r arysgrif yn dweud ‘ni fydd yn marw’. Yn lle hynny mae’n cynnig y gobaith o farwolaeth dda, hynny yw, marwolaeth a fyddai’n gadael i chi edifarhau a derbyn yr eneiniad olaf gan offeiriad er mwyn sicrhau eich bod chi’n mynd o fywyd ar y ddaear i’r nefoedd neu i burdan yn hytrach nag i uffern dragwyddol.

Roedd y Santes Catrin yn boblogaidd am reswm cyffelyb. Yn ôl y Golden Legend, casgliad poblogaidd iawn o fucheddau’r saint a luniwyd tua 1260, byddai gweddïo i’r Santes Catrin adeg eich marwolaeth fwy neu lai’n sicrhau lle yn y nefoedd. Yn yr eiliadau cyn ei merthyrdod, fe weddïodd y Santes Catrin a gofynnodd i Dduw fod yn garedig wrth unrhyw un a apeliai ati hi am gymorth pan oeddynt yn marw. Cadarnhaodd llais o’r nefoedd fod lle yno i unrhyw un a ddangosai barch defosiynol at y Santes Catrin.

Efallai mewn ymgais i atgyfnerthu’r pasbort hwn i Baradwys, fe ddathlodd Robert Wodelarke ddydd gŵyl y Santes Catrin ar 25 Tachwedd 1473 drwy sefydlu coleg o offeiriaid yng Nghaergrawnt, gan orchymyn iddynt weddïo dros eu sylfaenydd bob dydd wrth gwblhau eu hastudiaethau diwinyddol. Mae Coleg y Santes Catrin yn parhau i nodi ei dydd gŵyl drwy gofio menywod a merched sy’n wynebu trais ac erledigaeth ar hyd a lled y byd. Yn 2000, fe gafodd 25 Tachwedd ei ddynodi’n swyddogol gan y Cenhedloedd Unedig yn Ddiwrnod Rhyngwladol ar gyfer Dileu Trais yn erbyn Menywod.

Mynd rownd mewn cylchoedd

Y Santes Catrin yw nawddsant nifer o gymunedau. Mae’r olwyn y cafodd ei harteithio arni ac sydd i’w gweld wrth ei hymyl mewn paentiadau a delweddau gwydr lliw yn esbonio pam mai hi’n nawddsant crefftwyr sy’n gweithio gydag olwyn (crochenwyr, nyddwyr, hogwyr cyllyll, melinyddion, seiri olwynion, gwneuthurwyr les a gwneuthurwyr rhaffau).

Ai syniad rhyw Bab o jôc oedd ei bod hi hefyd yn nawddsant ysgolheigion, addysgwyr, athronwyr, llyfrgellwyr, archifyddion, cyfreithegwyr, cyfreithwyr, pregethwyr a diwinyddion? Nid oedd neb mae’n siwr yn awgrymu bod tuedd i’r proffesiynau dysgedig hyn fynd rownd mewn cylchoedd? Na, mewn gwirionedd roedd Catrin ei hun yn cael ei pharchu am ei hysgolheictod rhagorol: fe drechodd 50 o athronwyr paganaidd mewn dadl a darbwyllodd rai ohonynt i droi i Gristnogaeth hyd yn oed, er bod hynny’n golygu y caent eu lladd.

Er ei bod hi’n wyryf ei hun a ddymunai gael Iesu’n unig yn briod, mae hi hefyd yn nawddsant merched di-briod. Byddai menywod o oedran penodol o’r enw ‘Catherinettes’, a oedd yn dal i obeithio dod o hyd i ŵr, yn nodi ei dydd gŵyl drwy orymdeithio yn y strydoedd yn gwisgo hetiau rhwysgfawr. Ni chedwir y ddefod braidd yn unochrog hon mwyach, ond bydd gwneuthurwyr hetiau yn Ffrainc yn parhau i lansio eu dyluniadau diweddaraf ar y diwrnod hwn a bydd New Orleans yn cynnal gorymdaith hetiau ar y Sul cyn Diwrnod Diolchgarwch (24 Tachwedd) y gall pobl o unrhyw oedran, rhywedd neu statws priodasol (wrth reswm) gymryd rhan ynddi bellach.

O ran y gwneuthurwyr les, mae llyfr o’r enw Cattern Cakes and Lace gan Julia Jones a Barbara Deer, sy’n trafod y bwydydd sy’n gysylltiedig â dyddiadau neilltuol yn y calendr, yn dweud wrthym y byddai cymunedau gwneud les ym Mhrydain ar un adeg yn dathlu gŵyl y Santes Catrin drwy wneud ‘Cattern Cakes’, a gâi eu sbeisio â sinamon a hadau carwe. Mae sawl rysáit ar gyfer y teisennau hyn ar y Rhyngrwyd, ond mae’r rhan fwyaf ohonynt yn methu un cam hanfodol: cyn eu pobi, mae angen torri chwyrlïad ar wyneb y toes â chyllell finiog i sicrhau bod y teisennau’n edrych fel Olwynion Catrin pan ddeuant allan o’r ffwrn.

Llwyddodd Protestaniaid ym Mhrydain i barhau â’r traddodiad hwn ar ôl y Diwygiad Protestannaidd heb gael eu cyhuddo o eilunaddoli. Yr hyn a wnaethant oedd creu’r stori bod y teisennau’n cael eu pobl er anrhydedd i wraig gyntaf Harri VIII, Catharine o Aragon, a oedd, fe honnent, yn cael ei choffáu fel noddwraig hael y fasnach les yn Lloegr.

Yn anffodus, un o effeithiau eraill y Diwygiad oedd i furluniau mewn eglwysi gael eu gwyngalchu ac i ffenestri gwydr lliw gael eu dinistrio. Y cyfan sy’n weddill bellach o’r portreadau peintiedig o’r Santes Catrin, a oedd unwaith mor gyffredin, yw darnau o liw yma ac acw, er bod llyfr Richard yn rhoi cryn sylw i un enghraifft o’r 15fed ganrif yn eglwys Llandeilo Tal-y-bont sydd bron yn gyflawn. Mae’r eglwys wedi cael ei hachub a’i hailgodi yn Amgueddfa Werin Cymru. Yn wyrthiol braidd, mae un portread arall o Santes Catrin, wedi’i beintio ar wydr, wedi goroesi yn Eglwys Sant Pedr, Hen Faesyfed. Mae’r ffenestr hon yn dangos y Santes Catrin mewn cysylltiad â bathodyn Edward IV ac mae’n ddigon posibl ei bod yn dyddio’n ôl i’w deyrnasiad ef (1462-83).

Y Santes Catrin, Eglwys Sant Teilo, Llandeilo Tal-y-bont

Y Santes Catrin, Eglwys Sant Teilo, Llandeilo Tal-y-bont. Portreadir y santes fel menyw ifanc aristocrataidd yn gwisgo coron, fel sy’n gweddu i’w statws fel tywysoges. Mae ganddi glogyn ermin, talcen ffasiynol o uchel, a chudynnau eurgoch hir o wallt sydd heb eu clymu fel arwydd o’i gwyryfdod. Y bwriad oedd ei merthyru ar yr olwyn bigog wrth ei hymyl, ond dywed y Golden Legend wrthym i honno chwalu pan gyffyrddodd â hi. Felly fe dorrwyd ei phen i ffwrdd – a dyna arwyddocâd y cleddyf yn ei llaw dde.
Y Santes Catrin, Eglwys Sant Pedr, Hen Faesyfed

Y Santes Catrin, Eglwys Sant Pedr, Hen Faesyfed. Yn y ffenestr hon o wydr peintiedig fe bortreadir Catrin fel tywysoges eto ac mae hi’n dal olwyn bigog ei merthyru. Amgylchynir ei phen coronog gan rosod gwyn mewn heuladdurn (‘en soleil’), bathodyn brenhinol Edward IV (bu farw 1483).

Lansiad Llyfr

Ymunwch â ni ar-lein am 5pm ar Ddydd Iau, 14 Ebrill 2022, ar gyfer lansiad “Temlau Peintiedig: Murluniau a Chroglenni yn Eglwysi Cymru, 1200–1800 / Painted Temples: Wallpaintings and Rood-screens in Welsh Churches, 1200–1800”. Rydym yn mawr obeithio y byddwch chi’n gallu mynychu. Fe fydd cyflwyniad byr gan yr awdur, Richard Suggett, a dangosir dwy ffilm fideo a gomisiynwyd yn arbennig, y naill am y muriau peintiedig syfrdanol a ddarganfuwyd yn ddiweddar yn Eglwys Sant Cadog, Llancarfan (ger Caerdydd), a’r llall am y murluniau a gafodd eu hachub o Eglwys Sant Teilo yn Llandeilo Tal-y-bont a’u hail-greu yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan. Fe fydd sesiwn Cwestiynau ac Atebion hefyd.


Os hoffech fynychu:


Mae Temlau Peintiedig: Murluniau a Chroglenni yn Eglwysi Cymru, 1200–1800 / Painted Temples: Wallpaintings and Rood-screens in Welsh Churches, 1200–1800 gan Richard Suggett ar gael o’n siop ar-lein am £29.95. Disgownt o 10% i Gyfeillion a phawb sy’n mynychu’r lansiad.*

*Rhoddir y cod disgownt yn y digwyddiad

Christopher Catling, Yr Ysgrifennydd (Prif Weithredwr)

04/05/2022

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x