Coflein

Defnyddio Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru: hanes lleol o’ch cadair freichiau

Mae’r sefyllfa anodd bresennol wedi amharu ar fywydau dyddiol llawer ohonom. Ond mae hefyd yn rhoi cyfle unigryw i bobl wneud ymchwil hanesyddol i’w tŷ, eu teulu neu eu hardal leol. Yn anffodus, fel y mwyafrif o archifau, mae Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (archif Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru) ar gau ar hyn o bryd i ymwelwyr. Ond does dim rhaid i hynny fod yn rhwystr i waith ymchwil: mae digonedd o adnoddau ar gael o hyd.

Dyma’r cyntaf mewn cyfres o flogiau, y bydd pob un ohonynt yn canolbwyntio ar bwnc hanesyddol gwahanol ac yn egluro sut y gellir ymchwilio iddynt drwy fanteisio ar ein hadnoddau ar-lein.
Yr wythnos hon: hanes lleol.

Hanes lleol

Ydych chi’n byw mewn tŷ hanesyddol?  Ydych chi eisiau gwybod mwy am garnedd ar fryn gerllaw? Neu efallai y bu gennych ddiddordeb erioed yn y capel yn eich pentref?

I’r rhai ohonoch sy’n gallu manteisio ar yr amser sydd gennych i gymryd diddordeb o’r newydd yn eich ardal leol, mae’r Comisiwn Brenhinol mewn sefyllfa ddelfrydol i’ch helpu gyda’ch ymchwil. Un o’r pethau sy’n gwneud ein harchif mor arbennig yw bod pob cofnod yn ein casgliad wedi’i geo-gyfeirio. Mae hyn yn golygu bod pob ffotograff, llythyr, adroddiad ac ati yn yr archif wedi’i gysylltu â lle penodol yng Nghymru, boed hwnnw’n gastell, pwll glo, tafarn neu unrhyw fath arall o safle. Felly mae’n berffaith ar gyfer ymchwilio i leoedd yn eich milltir sgwâr.

Coflein
Coflein

Mae dod o hyd i’r wybodaeth hon yn syml ar Coflein, ein catalog ar-lein, sy’n rhestru ein daliadau archifol ac yn dangos pa ddeunyddiau digidol sydd ar gael. Coflein yw ein cronfa ddata o safleoedd hanesyddol hefyd, lle ceir disgrifiadau manwl o 120,000 a mwy o safleoedd yng Nghymru. I ddarganfod ac astudio’r ffotograffau a gwybodaeth sydd gennym am y safleoedd hyn, ewch i adran ‘Safleoedd’ Coflein a chwiliwch yn ôl y math o safle neu leoliad. 

Awgrym:  Os bydd neges gwall yn ymddangos wrth ddefnyddio’r dudalen hon sy’n dweud ‘An AJAX HTTP request terminated abnormally’, dilëwch https://www. o’r URL ym mar chwilio eich porwr a gwnewch y chwiliad eto.

Os yw dull mwy gweledol yn well gennych, mae gan Coflein nodwedd map sy’n caniatáu i chi amlygu ardal sydd o ddiddordeb i chi rywle yng Nghymru; bydd wedyn yn arddangos yr holl safleoedd yn yr ardal honno i chi glicio arnynt a’u harchwilio’n fanylach. 

Coflein – map
Coflein – map

Gwefan arall sy’n seiliedig ar fap yw Cymru Hanesyddol, ond mae hon yn cyfuno’r data o CHCC â’r Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol a chronfeydd data Cadw o adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig.      

Cymru Hanesyddol
Cymru Hanesyddol

Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am y llu o enwau lleoedd diddorol a difyr yng Nghymru, mae ein gwefan Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru yn drysorfa o wybodaeth. Gallwch ddefnyddio’r wefan i gyrchu cannoedd ar filoedd o enwau trefi, pentrefi, caeau, afonydd, ffermydd a mwy – rhai hanesyddol a chyfoes. Adnodd enfawr ydyw sy’n tyfu’n barhaus, felly ewch yno i edrych ar yr enwau yn eich ardal leol a gweld sut maen nhw wedi newid ar hyd y blynyddoedd.

Awgrym:  Ydych chi erioed wedi meddwl beth yw ystyr enw eich pentref?  Mae Geirfa wych ar y wefan a all roi cliw i chi…

Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru
Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru

Cymerwch ran:  Os ydych chi’n gwybod am hen enwau ar adeiladau, caeau ac ati nad ydym wedi’u cofnodi, dewch i gysylltiad – mae llawer o’r enwau hyn yn fyw ar lafar gwlad neu yng nghof pobl yn unig, felly mae’n bwysig iawn i ni gael cofnod ohonynt.

Y Gwasanaeth Ymholiadau

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein hadnoddau neu os angen cyngor arnoch ynghylch ble i fynd nesaf gyda’ch ymchwil, cysylltwch â ni. Mae gennym dîm profiadol iawn o staff proffesiynol, archifyddion a haneswyr i ateb eich ymholiadau. Mae aelodau’r tîm ymholiadau yn gweithio o’u cartrefi ar hyn o bryd, yr un fath â holl staff eraill y Comisiwn Brenhinol, ond maen nhw’n parhau i ateb ymholiadau newydd a gyflwynir drwy e-bost neu dros y ffôn.  Er na allwn gyrchu’r archif bapur, byddwn yn defnyddio ein cyfoeth o ddeunydd wedi’i ddigido a’n hadnoddau ar-lein, a phrofiad eang ac arbenigol ein staff, i ateb eich ymholiadau a’ch helpu i symud eich ymchwil yn ei flaen.

Mae croeso i bawb anfon ymholiadau atom ac ni chodir ffi; codwn dâl am gopïo deunydd archifol, am drwyddedau ac am setiau data, ac rydym yn hapus i drafod hyn gyda chi cyn i chi roi eich archeb.     

Gwybodaeth bellach am ein hadnoddau ar-lein:

Darganfod Gorffennol Cymru Ar-lein: https://rcahmw.gov.uk/discovering-the-welsh-past-online/

Gan Rhodri Lewis, Cynorthwyydd Ymholiadau a Llyfrgell

04/23/2020

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x