
Defnyddio WhatsApp fel Platfform Cymorth Torfol
Grŵp sydd wedi ymroi i rannu a thrafod hanes a llên gwerin Panama yw Folcloristas de Panamá. Gan nad oedd yn gallu cyrchu platfformau cymorth torfol arbenigol drud, mae’r grŵp wedi gwneud defnydd arloesol o dechnoleg sydd bellach yn hollbresennol – y ffôn clyfar.
Gan ddefnyddio’r rhaglen negesydd di-dâl WhatsApp, gall y grŵp anfon negeseuon, rhannu delweddau a chael trafodaethau grŵp heb dalu unrhyw gostau datblygu. Gan fod y drefn hon mor hawdd ac effeithlon mae llawer o bobl wedi gallu cymryd rhan, ac mae’r grŵp wedi codi uwchlaw’r byd digidol i ddod yn gymdeithas ffurfiol.
Bydd Marino Jaén Espinosa, cyfarwyddwr PanamaTipico.com, rhwydwaith digidol sy’n hybu treftadaeth ddiwylliannol a thwristiaeth ym Mhanama, yn dod i gynhadledd Gorffennol Digidol 2017 i drafod ei ddadansoddiad o’r grŵp a’i fethodoleg. Ei nod yw egluro llwyddiant y grŵp fel platfform cymorth torfol a disgrifio ei effaith yn y byd go iawn, ac annog trafodaeth am brofiadau cyffelyb mewn mannau eraill, gan roi sylw i nodweddion tebyg ac annhebyg.
Archebwch eich tocyn Gorffennol Digidol yn awr
Cynhadledd Gorffennol Digidol | Lleoliad | Cofrestru | Sylwadau | Blogs | Arddangosfeydd | Ein Noddwyr
02/04/2017