Dehongli ac ymweld ag archaeoleg Ynys Sgomer

Mae archaeoleg Ynys Sgomer, Sir Benfro, wedi’i chadw’n arbennig o dda. Ar draws yr ynys gellir gweld olion ffiniau wedi’u creu â chlogfeini, waliau cerrig taclus, a sylfeini tai crwn. Dengys y rhain i lawer o’r ynys gael ei ffermio yn ystod yr Oes Haearn a’r cyfnod Brythonaidd-Rufeinig rhwng 2,000 a 2,500 o flynyddoedd yn ôl. Mae maen hir amlwg, Maen Harold, a megalithau eraill yn awgrymu bod pobl yn byw yma yn llawer cynharach na hyn, yn yr Oes Neolithig a’r Oes Efydd Gynnar.

Yn sgil arolygon archaeolegol a chloddiadau newydd gan y Comisiwn Brenhinol, ar y cyd â chydweithwyr o Brifysgol Sheffield, Prifysgol Caerdydd a Cadw, mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru, sy’n rheoli Sgomer, yn gobeithio gwella’r arwyddion ar yr ynys a’r wybodaeth am ei harchaeoleg yn ystod 2016.

Tua diwedd Mai, teithiodd Louise Barker a Toby Driver, archaeolegwyr y Comisiwn Brenhinol, i Sgomer i gyfarfod â Leighton Newman, Swyddog Ymwelwyr Sgomer, a Hannah, gwirfoddolwraig ers blynyddoedd, i siarad am archaeoleg yr henebion cynhanesyddol mwyaf gweladwy. Gobaith Leighton a Hannah yw adnewyddu rhannau o Lwybr Hanes Sgomer, a sefydlwyd gyntaf ar ôl gwaith a wnaed gan yr Athro John Evans yn y 1980au.

Mae un o’r tai crwn cynhanesyddol mwyaf hygyrch a thrawiadol yn Sir Benfro i’w weld yn y Wick, yn agos at un o’r prif wylfannau Palod. Gosodwyd arwydd newydd yno i ddangos safle’r tŷ. Gall ymwelwyr gerdded i mewn i sylfeini’r tŷ crwn, drwy ei borth amlwg, a dychmygu’r olygfa ddomestig o fewn ei furiau ddwy fil o flynyddoedd yn ôl.

Mae’n bosibl bod gan y tŷ wal o blethwaith a choed a tho conig yn wreiddiol. Er bod coed ar gyfer adeiladu yn brin ar Ynys Sgomer yn yr Oes Haearn, gellid fod wedi cludo pyst, polion a defnyddiau adeiladu eraill i’r ynys ar gwch. Mae’r Comisiwn Brenhinol yn parhau i weithio gyda’r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt i godi ymwybyddiaeth o drysorau archaeolegol Sgomer. Os hoffech ymweld ag Ynys Sgomer, ewch i’r wefan:http://www.welshwildlife.org/skomer-skokholm/skomer/

Gan Toby Driver, RCAHMW

06/14/2016

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x