
Deled yr eira – Tirwedd ac Archaeoleg y Gaeaf
Mae eira’n cynnig cyfle arbennig i weld a chofnodi safleoedd yn nhirwedd Cymru. Mae’r gorchudd gwyn yn creu’r amodau perffaith ar gyfer cofnodi gwrthgloddiau, enwedig o’u cyfuno â haul isaf y gaeaf. Yn yr eira mae lliwiau’r dirwedd yn unffurf, felly gellir gweld gwrthgloddiau henebion cymhleth yn fwy eglur a manwl. Ar yr un pryd, gall eira sy’n lluwchio neu’n dadmer, neu farrug sy’n dadmer ar borfa wedi’i gwella, helpu i ddangos mân wahaniaethau yn y dopograffeg a all wneud i olion archaeolegol sefyll allan. Pur anaml y bydd yr amodau tywydd hyn yn para’n hir, felly mae’n hollbwysig mynd ati ar unwaith i dynnu lluniau o’r awyr. Detholiad o luniau o aeafau’r gorffennol a geir yma; gobeithiwn yn fawr y cawn gyfleoedd i wneud mwy o ddarganfyddiadau y gaeaf hwn.
I weld mwy o luniau, ewch i’n horielau ar-lein sy’n ymdrin â gwaith maes, digido a darganfyddiadau diweddar.
Gan Helen Rowe

Awyrlun wedi’i dynnu gan y Comisiwn Brenhinol o gopa’r Wyddfa dan orchudd o eira, yn edrych o’r gorllewin, 2012. NPRN: 32619

Awyrlun wedi’i dynnu gan y Comisiwn Brenhinol yn dangos y dirwedd aeafol o gwmpas Llyn y Fan Fach yn 2009. NPRN: 412896

Awyrlun wedi’i dynnu gan y Comisiwn Brenhinol o Lanerchaeron o dan orchudd o eira yn 2010. NPRN: 302 081

Awyrlun wedi’i dynnu gan y Comisiwn Brenhinol o Fannau Brycheiniog a Phen y Fan yn y gaeaf, 2009. NPRN: 142199

Awyrlun wedi’i dynnu gan y Comisiwn Brenhinol o chwareli Foel Fawr yn yr eira, yn edrych o’r gogledd, 2003. NPRN: 91982
12/19/2016