Deng mlynedd yn y Comisiwn Brenhinol: Myfyrdodau ein gwirfoddolwr hwyaf ei wasanaeth

Rhaid i mi gyfaddef i mi gael fy synnu braidd pan ges i fy atgoffa fy mod i bellach wedi bod yn gweithio fel gwirfoddolwr i’r Comisiwn Brenhinol am ddeng mlynedd. Mae cofnodion y Comisiwn yn dangos mai fy niwrnod cyntaf yn y swyddfa oedd 10 Mai 2008.

 

 

Roeddwn i’n hen gyfarwydd â gwaith y Comisiwn, ac ar ôl ymddeol i Aberystwyth teimlais y gallai gwybodaeth roeddwn wedi’i chasglu am safleoedd diwydiannol hanesyddol yng ngogledd Cymru yn ystod y 1970au a 1980au fod yn gyfraniad defnyddiol i Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydw i wedi bod yn aelod gweithgar o Gymdeithas Melinau Cymru ac fe fydda i’n helpu aelodau eraill i ychwanegu eu gwaith eu hunain at y Cofnod. Fy nghyfraniad personol i fu defnyddio’r casgliad helaeth o fapiau ar-lein a GIS (system gwybodaeth ddaearyddol), gan sganio’r mapiau graddfa fawr hanesyddol ar gyfer Cymru gyfan, i adnabod bron 2,900 o safleoedd melinau gwynt, melinau pŵer dŵr a safleoedd pŵer dŵr eraill, a chynhyrchu mapiau dosbarthiad. Rydw i bellach yn ychwanegu cofnodion newydd at Coflein, catalog ar-lein y Comisiwn o safleoedd hanesyddol, ar gyfer yr holl safleoedd pŵer dŵr nad ydynt wedi’u cofnodi eto. Gallaf hefyd roi gwybodaeth i bobl i’w helpu i gofnodi’r melinau yn eu hardaloedd hwythau.

Mae gwirfoddoli gyda’r Comisiwn wedi rhoi cyfleoedd i mi ddysgu sgiliau newydd, a hynny gyda chylch o gydweithwyr cyfeillgar a chefnogol sy’n gweithio mor frwd dros yr amgylchedd hanesyddol sydd mor bwysig i Gymru. Mae’n rhoi pwrpas i mi – gyda’m gweithgareddau eraill – a theimlad o gyflawni; ac uwchlaw pob dim, mae’n rhoi pleser.

Gan John Crompton

 

Os hoffech wirfoddoli yn y Comisiwn Brenhinol cysylltwch â Sue Billingsley ar 01970 621228 sue.billingsley@cbhc.gov.uk. Ar hyn o bryd mae gennym sawl cyfle i wirfoddolwyr yn ein Llyfrgell arbenigol.

05/23/2018

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x