
Dewch i gyfarfod â’r Comisiwn Brenhinol yn yr Eisteddfod Genedlaethol yr Wythnos Nesaf

Eisteddfod Genedlaethol, 2012
Dewch i gyfarfod â’r Comisiwn Brenhinol yn yr Eisteddfod Genedlaethol yr wythnos nesaf, o’r 4ydd i’r 11eg o Awst ar stondin 511-514. Bydd staff wrth law drwy’r wythnos i ateb cwestiynau ac i arddangos ein cronfa ddata ar-lein, Coflein. Bydd yr arddangosfa newydd eleni yn cynnwys paneli ar dreftadaeth chwaraeon cyfoethog Cymru ym mlwyddyn y Gemau Olympaidd, Y Tu Mewn i Gartrefi Cymru, a delweddau o faes yr Eisteddfod. Dewch i nôl copi di-dâl o lyfryn y Comisiwn Brenhinol ar Forgannwg, y sir sy’n croesawu’r ŵyl eleni. Bydd gostyngiad o 10% ar ein cyhoeddiadau, gan gynnwys ein cyhoeddiad diweddaraf uchel ei glod Cymru Hanesyddol o’r Awyr: Historic Wales From Above gan Dr Toby Driver a Dr Oliver Davies. Bydd y Comisiwn Brenhinol yn cyflwyno dwy sgwrs arbennig yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Ar Ddydd Mawrth y 7fed o Awst, am 11 o’r gloch, bydd Spencer Smith, un o ymchwilwyr y Comisiwn Brenhinol, yn siarad am Cofnodi Treftadaeth Cymru Trwy Gelfyddyd: Gwaith Falcon Hildred. Y diwrnod wedyn, bydd Dr Eurwyn Wiliam, Cadeirydd y Comisiwn Brenhinol, yn rhoi sgwrs ar Morgannwg Hanesyddol o’r Awyr am 1 o’r gloch. Cynhelir y ddwy ddarlith ym Mhabell y Cymdeithasau 2 ar y Maes. Mae croeso cynnes i bawb, felly dewch yn llu a gobeithiwn eich gweld chi yno!
01/08/2012