
Dewch i weithio gyda ni ar brosiect cymunedol cyffrous, a ariennir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol
Ydych chi wrth eich bodd yn ymwneud ag archaeoleg, hanes a gwaith cadwraeth? Ydych chi’n gallu ymdrin â phrosiect cymunedol ac iddo sawl thema, yn Gymraeg ac yn Saesneg? Dyma gyfle cyffrous i gydweithio’n agos ag ysgolion, grwpiau cymunedol a chyrff treftadaeth i rymuso trigolion lleol i ymwneud â Bryngaer Oes Haearn Pendinas ym Mhenparcau, dysgu amdani, ei chloddio, ei dehongli, ei rheoli a’i gwarchod, drwy gyflawni arolygon archaeolegol a gwaith maes, gwella’r dreftadaeth naturiol, dysgu a chreu gweithgareddau.
I gael mwy o wybodaeth, parhewch i ddarllen!
Swyddog Allgymorth Cymunedol ar gyfer Prosiect Bryngaer Pendinas, Penparcau, Aberystwyth
- Amser-llawn: 37 awr yr wythnos
- Cyfnod penodol o 18 mis, o fis Chwefror 2023 ymlaen
- Cyflog cychwynnol: £25,860
- Gweithio yn Gymraeg ac yn Saesneg
- Dyddiad cau: 5pm ar 27 Tachwedd 2022.
Pwpras ac arwyddocâd y swydd:
Mae prosiect Pendinas yn brosiect cymunedol 18 mis i ddysgu mwy am y fryngaer sy’n amlwg iawn yn yr ucheldir uwchben Penparcau. Bydd y prosiect yn ceisio ateb cwestiynau am hanes y fryngaer ar hyd yr oesoedd a thaflu goleuni ar y ffyrdd y bu i’n cyndeidiau ddefnyddio’r safle. Bydd canlyniadau rhaglen o gloddio ac arolwg geoffisegol yn darparu’r deunydd ar gyfer gweithgareddau cymunedol amrywiol, gan gynnwys creu ffilmiau, creu crochenwaith, prosiectau ysgolion, teithiau tywys ac adrodd straeon. Byddwn hefyd yn gweithio gydag arbenigwyr bywyd gwyllt lleol i glirio rhedyn ac eithin a gwella’r safle ar ben y bryn ar gyfer y planhigion prin, yr adar, yr infertebrata a’r trychfilod sydd â chartref ym Mhen Dinas. Bydd y prosiect yn cynnwys gŵyl penwythnos Pendinas ym mis Awst 2024 i arddangos yr holl weithgareddau hyn ac arddangosfa ar ddiwedd y prosiect.
Bydd y Swyddog Allgymorth yn chwarae rhan allweddol wrth gyflwyno prosiect Pendinas, sy’n cael ei gyllido gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Cadw. Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed fydd yn arwain y gwaith archaeolegol a bydd y gwaith allgymorth yn cael ei arwain gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Bydd panel ymgynghorol yn cael ei sefydlu o aelodau o gymunedau Penparcau ac Aberystwyth i’n helpu ni i weithio’n agos gydag ysgolion, grwpiau cymunedol a chyrff treftadaeth i rymuso trigolion lleol i ymgysylltu â, dysgu am, cloddio, dehongli, rheoli a gwarchod bryngaer Pendinas drwy arolwg archaeolegol a gwaith maes, gwella’r dreftadaeth naturiol, dysgu a gweithgareddau creadigol.
Mae rôl y Swyddog Allgymorth yn cynnwys gweithio’n hyblyg ac yn greadigol gyda phobl o bob oedran a chefndir a’u mentoriaid, trefnu a hwyluso gweithgareddau a digwyddiadau’r prosiect yn ogystal â chynorthwyo gyda thasgau gweinyddol, llywodraethu ac adrodd sy’n ofynnol ar gyfer prosiect a gyllidir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.
I gael trafodaeth anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Dr Toby Driver, Uwch Ymchwilydd (Arolygu o’r Awyr), rhif Ffôn: 01970 621 207, e-bost toby.driver@rcahmw.gov.uk neu Nicola Roberts, Rheolwr Cyfathrebu, rhif Ffôn: 01970 621 248, e-bost: nicola.roberts@rcahmw.gov.uk .
Gellir cael mwy o fanylion
Gellir cael mwy o fanylion a ffurflen gais ar ein tudalen swyddi gwag.
27/10/2022