
Dewch i weithio gyda ni ar brosiect hanes cymunedol cyffrous a fydd yn cofnodi treftadaeth Asiaidd yng Nghymru!
Ydych chi’n frwdfrydig ynghylch yr amrywiaeth cyfoethog a geir yng Nghymru? Ydych chi’n dwlu ar hanes, gweithio gyda grwpiau cymunedol, casglu deunydd archifol a chreu arddangosfeydd a deunyddiau dysgu diddorol? Os felly, gallai’r gwaith hwn fod yn berffaith i chi!
Rydym yn chwilio am ddau aelod newydd o staff i arwain a chyflawni ein prosiect ymgysylltu cymunedol newydd a ariennir gan Lywodraeth Cymru: ‘Lleoedd Rwy’n Eu Cofio’. Bydd y prosiect hwn yn dathlu diwylliant Asiaidd Cymru, yn enwedig hanes yr Asiaid Ugandaidd a gafodd eu gyrru allan o Uganda yn 1972 ac a ymgartrefodd i ddechrau yn Nhonfannau yng Nghymru. Bydd y prosiect hwn yn para tan ddiwedd mis Mawrth 2025 a bydd y staff yn gweithio yng Nghomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Bydd y prosiect hwn yn codi ymwybyddiaeth o’r cyfraniadau nodedig y mae cymunedau mudwyr wedi’u gwneud i fywyd yng Nghymru. Bydd yn creu cofnod parhaol o ddiwylliant Asiaidd Cymru ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol, y bydd modd ei ddefnyddio at ddibenion dysgu ac ymchwilio. Bydd yr archif hon yn rhan o Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (ein harchif gyhoeddus) a bydd yn cynnwys ffotograffau, dogfennau, recordiadau sain a fideo a straeon sy’n cysylltu â hanes a diwylliant Asiaid o dras Indiaidd yng Nghymru, gan nodi eu cyfraniad i fywyd yng Nghymru o safbwynt crefyddol, diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd.
Bydd yn cynnwys cofnod ffotograffig a map stori am leoedd o bwys i’r gymuned Asiaidd yng Nghymru – y gwersyll ail-leoli yn Nhonfannau, cartrefi, siopau, caffis, temlau, mosgiau, ysgolion, gweithleoedd, y defnydd o afonydd yng Nghymru ar gyfer defodau angladdol – a’r gweithgareddau sy’n gysylltiedig â nhw – coginio, y paratoadau ar gyfer gwyliau, priodasau, angladdau.
Bydd yr allbynnau hefyd yn cynnwys gwefan ar gyfer y prosiect, llythyrau newyddion a blogiau, anerchiadau, deunyddiau dysgu a chyfres o arddangosfeydd.
Bydd gan y prosiect ddau swyddog, sef Arweinydd Prosiect a Swyddog Allgymorth.
Bydd y ddwy swydd yn golygu gweithio’n hyblyg ac yn greadigol gyda phobl o bob oed a chefndir a’u mentoriaid, gan drefnu a hwyluso gweithgareddau a digwyddiadau’r prosiect, a fydd yn cynnwys creu arddangosfeydd pwysig. Bydd yn hanfodol bod deiliaid y ddwy swydd yn meddu ar ddealltwriaeth o ieithoedd, diwylliant ac arferion crefyddol cymunedau Asiaidd Cymru, ac yn gallu uniaethu â’u profiadau.
Arweinydd Prosiect
Bydd yr Arweinydd Prosiect yn gyfrifol am helpu i ddiffinio cynllun cyflawni prosiect treftadaeth Asiaidd Cymru ac yn gyfrifol am sicrhau bod y prosiect yn cael ei weithredu, ei weinyddu a’i reoli yn effeithiol ac yn brydlon.
- Yn llawn-amser: 37 awr yr wythnos
- Penodiad am gyfnod penodol hyd at 31 Mawrth 2025
- Cyflog cychwynnol: £32,460
- Trefniadau gweithio hybrid/hyblyg
- Mae swyddfa CBHC yn Aberystwyth.
Swyddog Allgymorth
Bydd yr Arweinydd Prosiect yn cael cymorth gan Swyddog Allgymorth a fydd yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gyflawni’r prosiect, a bydd yn gyfrifol am y Swyddog Allgymorth.
- Yn llawn-amser: 37 awr yr wythnos
- Penodiad am gyfnod penodol hyd at 31 Mawrth 2025
- Cyflog cychwynnol: £26,900
- Trefniadau gweithio hybrid/hyblyg
- Mae swyddfa CBHC yn Aberystwyth.
Gwybodaeth am gefndir y Comisiwn Brenhinol
Cafodd y Comisiwn Brenhinol ei sefydlu yn 1908 a chaiff ei noddi gan Lywodraeth Cymru. Y Comisiwn yw’r corff ymchwilio a’r archif genedlaethol ar gyfer amgylchedd hanesyddol Cymru, felly mae ganddo ran flaenllaw i’w chwarae o safbwynt sicrhau bod treftadaeth archaeolegol, adeiledig ac arforol Cymru yn cael ei chofnodi’n awdurdodol ac mae’n ceisio hybu dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o’r dreftadaeth honno’n genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Caiff y prosiect hwn ei gyllido gan Lywodraeth Cymru yn rhan o’i rhaglen i sicrhau Cymru wrth-hiliol.
Amser a dyddiad cau: 5pm ar 14 Mai 2023.
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, mae croeso i chi gysylltu â Nicola Roberts, Rheolwr Cyfathrebiadau, ffôn: 01970 621 248, ebost: nicola.roberts@cbhc.gov.uk neu David Thomas, Pennaeth Gwasanaethau Cyhoeddus, ffôn: 01970 621205, ebost: david.thomas@cbhc.gov.uk.
Mwy o fanylion
Mae rhagor o fanylion a’r ffurflenni cais i’w gweld ar ein tudalen am swyddi sy’n wag ar hyn o bryd.
04/17/2023