
Dewch i Weithio gyda Ni!
Sefydliad uchel ei barch am sawl rheswm yw’r Comisiwn Brenhinol, ac un o’r rhain yw ei allu i gadw a meithrin talent ei weithlu. Yn ddiweddar buom yn dathlu ymddeoliad cydweithiwr y pontiodd ei gyrfa eithriadol bedwar degawd. Bydd ymddeoliadau eraill cyn bo hir, a byddwn felly’n gallu cynnig mwy o gyfleoedd nag erioed o’r blaen.
Oherwydd y cyfleoedd newydd hyn, rydym ni wedi penderfynu sefydlu tudalen newydd ar ein gwefan o’r enw ‘Manteision Gweithio i’r Comisiwn’. Cafodd y dudalen hon ei chreu i dynnu sylw at y manteision lu sydd ynghlwm wrth yrfa yn y Comisiwn, a’r lle canolog a roddir i iechyd a llesiant y staff.
Darganfu astudiaeth ymchwil fyd-eang gan y cwmni dadansoddeg ac ymgynghorol Gallup fod cyfuniad o bum elfen allwedd wrth wraidd bywyd llewyrchus:
- Llesiant gyrfa: Rydych chi’n hoffi beth rydych chi’n ei wneud bob dydd.
- Llesiant cymdeithasol: Mae gennych gyfeillgarwch ystyrlon yn eich bywyd.
- Llesiant ariannol: Rydych chi’n rheoli’ch arian yn dda.
- Llesiant corfforol: Mae gennych egni i wneud pethau.
- Llesiant cymunedol: Rydych chi’n hoffi lle rydych chi’n byw.
‘Wellness vs. Wellbeing: What’s the Difference?’ gan Ryan Pendell, Awdur Gwyddor Gweithle, Gallup https://www.gallup.com/workplace/340202/wellness-wellbeing-difference.aspx
Yn y Comisiwn fe gredwn yn gryf y gall gwaith chwarae rhan gadarnhaol ym mhob un o’r pum agwedd hyn ar fywyd a bod llesiant staff yn allweddol o ran hybu diddordeb, cynhyrchedd a pherfformiad. Gan gydnabod mai ein staff yw ein hadnodd mwyaf gwerthfawr, gwnawn ein gorau glas i sicrhau eu bod hwy’n gwybod hynny.
Gyrfa
Buddsoddwn yn ein staff drwy gefnogi datblygiad proffesiynol a phersonol. Cynigiwn gyfleoedd hyfforddiant a datblygu ardderchog i’n holl staff, yn amrywio o gyrsiau byr i raddau.
Bydd staff newydd yn derbyn hyfforddiant sefydlu cynhwysfawr sy’n eu cyflwyno i bob agwedd ar waith y Comisiwn a’i dimau.
Ar hyn o bryd fe gynigiwn ddosbarthiadau Cymraeg wythnosol yn ystod oriau gwaith i staff sy’n awyddus i wella eu sgiliau Cymraeg.
Mae staff yn gymwys i wneud cais am hyd at 5 diwrnod o absenoldeb gyda thâl y flwyddyn i ymgymryd â gweithgareddau gwirfoddoli.
‘Mae’r Comisiwn Brenhinol yn ariannu fy nghymhwyster ôl-radd mewn Gweinyddu Archifau ac yn gadael i mi fynychu gweithdai yn ystod oriau gwaith. Mae gallu cyfuno’r wybodaeth ddamcaniaethol rydw i’n ei dysgu wrth astudio â’r profiad ymarferol o weithio yn y Comisiwn wedi rhoi hyder i mi yn fy ngalluoedd fel archifydd, ac wedi fy ngwneud yn optimistaidd am fy ngyrfa.’
Megan Ryder, Cynorthwyydd Archifau
Cymdeithasol
Mae gennym undeb llafur gweithgar (Prospect) sy’n hybu ac yn gwarchod buddiannau ei aelodau. Mae’r berthynas rhyngom ni fel cyflogwr a’r undeb wedi’i seilio ar bartneriaeth gymdeithasol.
Rydym yn gryf o blaid cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd a grymuswn ein staff drwy gynnig cynllun oriau gwaith hyblyg a gwyliau blynyddol hael.
Buddsoddwn yn ein staff ac anogwn gydbwysedd rhwng gwaith a bywyd drwy gynnig polisïau teulu-gyfeillgar gan gynnwys cynlluniau absenoldeb mamolaeth, absenoldeb tadolaeth, absenoldeb ar y cyd i rieni ac absenoldeb mabwysiadu uwch.
‘Roedd y profiad o allu cymryd saib rhianta ar y cyd yn amhrisiadwy. Cefais y cyfle i wylio datblygiad fy mab, a chwarae rôl lawn amser yn ei fywyd cynnar, heb orfod poeni am brinder arian.’
James January-McCann, Swyddog Enwau Lleoedd
O dan amgylchiadau arferol bydd ein holl staff yn gweithio o’n swyddfa yn Aberystwyth. Ond ar hyn o bryd maent hwy’n cydymffurfio â chais Llywodraeth Cymru i weithio o bell pan allant er mwyn lleihau i’r eithaf y perygl oddi wrth y pandemig Covid. Rydym yn ystyried y posibilrwydd o newid ein trefniadau presennol i roi cyfle i staff wneud cais am ffordd fwy hyblyg o weithio. Gallai hyn fod ar ffurf ‘gweithio clyfar’, lle mae staff yn gweithio rhai oriau yn y swyddfa a rhai oriau o bell, neu ‘gweithio gartref’, lle mae staff yn treulio’r rhan fwyaf o’u horiau gwaith yn gweithio gartref.
Ariannol
Cynigiwn gyfle i ymgeiswyr llwyddiannus ymuno â threfniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Mae’r rhain yn cynnwys cyfraniadau hael gan y cyflogwr, cyfraddau cyfrannu sydd ymhlith y rhai isaf yn y sector cyhoeddus, a phensiwn gwrth-chwyddiant diogel am oes heb yr ansicrwydd sy’n gysylltiedig â buddsoddiadau.
Gall staff hawlio “amser yn lle cyflog” am waith a wnânt y tu allan i’r swyddfa (e.e. gwaith maes neu fynychu digwyddiadau), a thelir amser a hanner/amser dwbl am weithio ar y penwythnos.
Byddwn yn talu treuliau (teithio a chynhaliaeth) i staff am waith maes ac am fynychu digwyddiadau.
Ar gyfer rolau sy’n cynnwys gwaith maes, darparwn ddillad awyr agored/diogelwch.
Corfforol
Ein horiau gwaith wythnosol safonol yw 37 awr heb gynnwys amser cinio ond yn cynnwys “awr llesiant” (pro-rata yn achos staff rhan-amser) i’w threulio ar weithgaredd sy’n cyfrannu at iechyd a llesiant.
Cynigiwn hefyd nifer o fuddion iechyd, er enghraifft:
- Profion llygaid am ddim
- Cyfraniad hael tuag at sbectol newydd os oes angen sbectol arnoch i wneud eich gwaith
- Mynediad am ddim i’n Rhaglen Cynorthwyo Staff sy’n cynnwys gwasanaeth cynghori staff
- Yr hawl i fod yn aelod o Ganolfan Chwaraeon Aberystwyth am bris is
- Yr hawl i fod yn aelod o Gyngor Chwaraeon y Gwasanaeth Sifil (CSSC), sy’n cynnig chwaraeon, cynigion hamdden, buddion i aelodau, a disgowntiau mewn siopau
‘Mae’r “awr llesiant” yn rhoi i mi y cymhelliant sydd ei angen arna i fynd am dro neu i ddilyn cwrs Pilates yn fy awr ginio (yng Nghanolfan Chwaraeon Aberystwyth gerllaw cyn y cyfyngiadau Covid). Mae’n gwestiwn o’i defnyddio neu ei cholli! Oherwydd ein horiau gwaith hyblyg gallaf wneud y pethau hyn heb orfod aberthu cael seibiant iawn amser cinio. Mae’n golygu fy mod i’n dod yn ôl at fy nesg wedi cael ail wynt.’
Reina van der Wiel, Rheolwr Llywodraethu a Risg
Cymunedol
Mae swyddfa gynllun-agored y Comisiwn wedi’i lleoli yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Mae’n cynnig lleoliad ac amgylchedd gwaith ardderchog gan gynnwys:
- Parcio am ddim ar y safle
- Ffreutur cyhoeddus, wedi’i sybsideiddio
- Gostyngiad i staff yn siop y Llyfrgell Genedlaethol
Mae gennym ‘Grŵp Menywod’, wedi’i drefnu’n fewnol, sy’n gwahodd siaradwragedd o’r tu allan i roi cyflwyniadau i’r staff, yn cynnal digwyddiadau cymdeithasol, yn rhannu adnoddau gwerthfawr, ac yn cefnogi staff.
Mae ein staff yn cael eu denu i weithio yn y Comisiwn oherwydd ei werthoedd cryf a’i angerdd dros dreftadaeth. Mae penderfyniad a brwdfrydedd wrth galon popeth a wnawn, ac yn ein clymu wrth ein gilydd yn ein gwaith ac fel ffrindiau.
Os hoffech ymuno â’n tîm, ewch i: https://cbhc.gov.uk/amdanom-ni/gweithio-ir-comisiwn/swyddi-syn-wag-ar-hyn-o-bryd/
Swyddi gwag presennol –
Rheolwr Adnoddau Dynol
Swyddog Geomateg
Ymchwilydd (Adeiladau Hanesyddol)
Rheolwr Gwasanaethau Ar-lein
Swyddi gwag i ddod –
Swyddog Technoleg Gwybodaeth
Gan Marisa Morgan
02/18/2022