
Dewch i Wirfoddoli yn Llyfrgell Arbenigol y Comisiwn Brenhinol

Oes gennych chi ddiddordeb mewn archaeoleg, pensaernïaeth, archaeoleg arforol, hanes Cymru neu archaeoleg ddiwydiannol?
Ydych chi’n hoffi llyfrau?
Hoffech chi ddysgu medrau newydd i wella’ch CV?
Os felly, ac os oes gennych amser i’w sbario, dewch i wirfoddoli yn llyfrgell arbenigol y Comisiwn Brenhinol.
Mae gennym sawl lle ar gyfer gwirfoddolwyr ar hyn o bryd. Mae’r cyfleoedd yn cynnwys paratoi deunydd ar gyfer ei gatalogio, helpu i roi ein Bwletin CHCC misol wrth ei gilydd, gwella data, a chadwraeth llyfrau. Darperir hyfforddiant llawn.
Bydd cyfleoedd hefyd i gymryd rhan mewn digwyddiadau a gynhelir gan y Comisiwn Brenhinol.

Sut y byddwch chi’n elwa ar y profiad:
- Meithrin medrau newydd ac ennill profiad yn y sector treftadaeth
- Cyfarfod â ffrindiau newydd o gyffelyb bryd
- Cefnogi gwaith y Comisiwn Brenhinol
Dewch i ymuno â’n tîm cyfeillgar! Os hoffech gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Penny Icke, Rheolwr Gwasanaethau Gwybodaeth, Ffôn: 01970 621200 neu e-bost: penny.icke@cbhc.gov.uk
09/10/2019