
Dewch i ymuno â ni yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron, o 30 Gorffennaf i 6 Awst 2022
Rydym yn falch iawn o gael bod yn ôl ar y Maes yn yr Eisteddfod yn Nhregaron, Ceredigion eleni. Wythnos nesaf byddwn yn ymuno â Cadw, Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed a Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol i ddarparu rhaglen wythnos o hyd a fydd yn llawn o weithgareddau, digwyddiadau a gwybodaeth am dreftadaeth. Bydd y digwyddiadau’n cynnwys anerchiad gan ein harbenigwr ar enwau lleoedd hanesyddol, Dr James January-McCann, ym Mhabell y Cymdeithasau ddydd Llun 1 Awst am 4pm: Pum Mlynedd o’r Rhestr Enwau Lleoedd Hanesyddol; perfformiadau gan Mewn Cymeriad (y cwmni theatr sy’n llwyfannu cynyrchiadau am gymeriadau a straeon sy’n perthyn i hanes Cymru) ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Iau; a gweithdai gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a Cadw. Byddwn hefyd yn cynnig llwyth o weithgareddau i blant bob dydd, a fydd yn cynnwys cael profiad o fod yn Ystrad Fflur ac Abaty Tyndyrn drwy benset realiti rhithwir, gwneud teilsen glai debyg i’r teils canoloesol enwog yn Ystrad Fflur, dylunio ffenestr liw, gwneud bathodyn, adeiladu eich cofeb eich hun o Lego, yn ogystal â thaflenni lliwio a chwileiriau.
Ymunwch â ni ym mhen draw’r ‘Rhes Treftadaeth’ (rhes 500) wrth ymyl Amgueddfa Cymru. Byddwn yn cynnig ystod o lyfrau gyda gostyngiad arbennig ar gyfer wythnos yr Eisteddfod. Rydym hefyd wedi creu cyfres newydd o gardiau gwybodaeth rhad ac am ddim sy’n cynnwys delweddau trawiadol a manylion ein gwaith a’n prosiectau ar hyn o bryd.
Edrychwn ymlaen at eich gweld ac at ateb eich cwestiynau am dreftadaeth!





07/28/2022