Dewch i ymuno â ni yr wythnos nesaf yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023, 4 Awst i 12 Awst 2023

Rydyn ni wir yn edrych ymlaen at Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023 yr wythnos nesaf. Eleni mae’r Eisteddfod yn cael ei chynnal ym Moduan, Gwynedd, LL53 6DT, ger Garn Boduan, bryngaer amlwg o’r Oes Haearn sy’n gorchuddio 25 o erwau.

Yn ystod yr wythnos bydd sefydliadau treftadaeth eraill yn ymuno â ni ar ein stondin ar gyfer rhaglen wythnos o weithgareddau, digwyddiadau a gwybodaeth am dreftadaeth. Maent yn cynnwys y Cynllun Henebion Cludadwy, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, ac Addoldai Cymru (Ymddiriedolaeth Adeiladau Crefyddol Cymru); bydd Cadw yn darparu gwybodaeth hefyd. Ar brynhawn dydd Iau, 10 Awst, byddwn yn cynnal ‘Cymhorthfa Enwau Lleoedd’ lle gallwch gyfrannu eich enwau lleoedd i’r Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol er mwyn iddynt gael eu hamddiffyn, a rhoi eich cwestiynau am enwau lleoedd Cymru i’n harbenigwr, Dr James January-McCann. Bob dydd byddwn yn cynnig amrywiaeth gyffrous o weithgareddau i blant, gan gynnwys creu a dylunio eich potyn ‘stamp hwyaden’ eich hun fel oedd yn cael ei ddefnyddio ddwy fil o flynyddoedd yn ôl gan drigolion bryngaer Pendinas (Penparcau, Aberystwyth) yn yr Oes Haearn, ac adeiladu eich heneb Lego eich hun yn ogystal â thaflenni lliwio a chwileiriau. Rydym hefyd wedi creu ystod newydd o gardiau gwybodaeth am ddim gyda lluniau trawiadol a manylion gwaith a phrosiectau cyfredol gan gynnwys ein prosiect archaeoleg cymunedol partneriaeth sy’n cael ei gyllido gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ar fryngaer Pendinas. Yn ôl yr arfer, byddwn yn cynnig amrywiaeth o lyfrau gyda gostyngiadau arbennig ar gyfer yr Eisteddfod. Wrth ymweld â’n stondin, peidiwch ag anghofio rhoi cynnig ar ein cystadleuaeth a’r wobr fydd copi wedi’i lofnodi o Darganfod Tai Hanesyddol Eryri / Discovering the Historic Houses of Snowdonia.

Eleni bydd ein stondin ni (rhifau 425 a 426) yn Rhes 4 (Rhes Treftadaeth), ger Prifysgol Aberystwyth a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.    

Bydd ein harddangosfeydd yn cynnwys arddangosfa bartneriaeth gydag ‘Asiaid Uganda Prydain yn 50’ ar Wersyll Ailsefydlu Tonfanau. Dyma ddigwyddiad cyntaf ein prosiect newydd cyffrous yn cofnodi treftadaeth Asiaidd Gymreig: ‘Lleoedd rydw i’n eu cofio’. Bydd y prosiect hwn yn dathlu diwylliant Asiaidd Cymreig, yn enwedig hanes yr Asiaid o Uganda a ddiarddelwyd o Uganda yn 1972 gan Idi Amin ac a ymgartrefodd yn Nhonfanau yng Nghymru i ddechrau. Bydd yr arddangosfa yn cynnwys ffilm newyddion gyfoes o ddigwyddiadau 1972 sydd wedi’i rhannu yn garedig gan Archif Ddarlledu Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Digwyddiadau’r wythnos:

  • Dydd Llun 7 a Dydd Mawrth 8 Awst: Bydd David Howells o’r Cynllun Henebion Cludadwy ar gael i drafod ac adnabod darganfyddiadau.
  • Dydd Mercher 9 a Dydd Iau 10 Awst: Bydd staff o Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol wrth law i roi cyngor ar grantiau ar gyfer prosiectau treftadaeth.
  • Dydd Iau 10 Awst: Cymhorthfa Enwau Lleoedd gyda Dr James January McCann. Cyfrannwch eich enwau lleoedd i’r Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol er mwyn iddynt gael eu hamddiffyn, a rhowch eich cwestiynau am enwau lleoedd Cymru i’n harbennigwr, Dr James January-McCann.
  • Dydd Gwener 11 a dydd Sadwrn 12 Awst: Gwnewch Droellen Cogail gyda staff o Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd a darganfyddwch mwy am archeoleg yr ardal.

Beth am ddarganfod mwy am yr henebion hanesyddol ym Moduan ac ar Benrhyn Llŷn drwy chwilio yn Coflein a lawrlwytho Caernarvonshire Inventory, Volume III: West y Comisiwn, sydd am ddim i’w lawrlwytho o’n siop lyfrau ni ar-lein. Mae’r henebion sy’n agos at y Maes yn cynnwys Plas Boduan, plasty Georgaidd mawr yn agos at Eglwys Sant Buan, yr hen Swyddfa Bost o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, Porthordy Plas Boduan ac Efail Gledrydd, hen efail lle bu tair cenhedlaeth o’r teulu Jones yn gweithio nes ei chau yn 1952.

Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich gweld chi ac ateb eich cwestiynau treftadaeth!

Llun o’r awyr o fryngaer Garn Boduan a dynnwyd yn 2007 yn edrych i’r gogledd orllewin o Foduan.
Ffotograff o Barlwr Plas Boduan gan G. B. Mason yn 1952.
Ffotograff heb ddyddiad o’r efail brysur, Efail Gledrydd, tua’r 1920au – 30au.
Ffotograff o du allan yr hen efail, Efail Gledrydd, a dynnwyd yn 2010.

01/08/2023

Subscribe
Notify of
guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x