
Dewisiadau’r Staff: Hoff Luniau o’r Archif
Rydyn ni yn ddiweddar wedi bod yn dangos lluniau o’r archif a ddewiswyd gan staff y Comisiwn, a eglurodd hefyd pam yr oedd y delweddau’n bwysig iddynt. Dyma rai eraill:
Tŵr y Jiwbilî, Moel Fama, dewiswyd gan Stephen Bailey-John, Rheolwr Cyfleusterau

Dechreuwyd adeiladu Tŵr y Jiwbilî ar ben Moel Fama i goffáu Jiwbilî Aur Siôr III ym 1810, ond ni chafodd ei gwblhau erioed ac fe’i dinistriwyd i raddau helaeth gan storm ym 1862. Mae gwaelod y tŵr yn dal i sefyll ac mae’n gyfarwydd i drigolion gogledd Cymru fel lwmpyn sgwâr annodweddiadol ar orwel tonnog Bryniau Clwyd. Pan oeddwn i’n blentyn byddai fy mrawd a’m chwiorydd yn galw Moel Fama ‘y mynydd efo jeli ar ei ben’.
Mae rhai o’m hatgofion cynharaf o fod yn yr awyr agored yn gysylltiedig â Moel Fama – yn cael picnic a chwarae mig yn y grug, a hel llus i wneud gwin, tarten a chrymbl cartref. Un flwyddyn cawsom ein hargyhoeddi gan Dad fod y derwyddon yn aberthu dafad yng nghylch mewnol Tŵr y Jiwbilî adeg y Flwyddyn Newydd felly fe wnaethom ein gorau i’w dal nhw wrthi. Roedden ni ddiwrnod yn hwyr ond roedd yn syndod i ni serch hynny fod cyn lleied o waed yno! Pan oeddem yn ein harddegau byddem yn dringo i gopa Moel Fama i groesawu’r Flwyddyn Newydd. Ambell waith gallem weld y goleuadau a’r tân gwyllt yn Lerpwl a Gwastadedd Swydd Gaer, dro arall byddem yn ceisio cadw’n gynnes yng nghysgod y tŵr wrth i dymestl o law ruo heibio. Tŵr y Jiwbilî yw fy nhirnod pan fydda i yng ngogledd Cymru – rydw i’n gwybod yn reddfol ble rydw i mewn perthynas ag ef. A hyd yn oed ar ôl ugain mlynedd yn byw i ffwrdd, fe fydda i’n teimlo fy mod i gartref pan wela i Foel Fama am y tro cyntaf ar daith.
Tŵr y Jiwbilî, Moel Fama: https://coflein.gov.uk/cy/site/32694/details/jubilee-tower-moel-famau-llangynhafal
Capel y Tabernacl, dewiswyd gan Megan Ryder, Cynorthwyydd Archifau

Cafodd y ffotograff hwn o’r Tabernacl, Capel y Methodistiaid Calfinaidd Cymraeg, Stryd Powell, Aberystwyth, ei dynnu gan Arthur Chater ym mis Mawrth 1961. Mae’n un o’m hoff luniau am dri rheswm: 1 Yr hen gar yn y stryd. 2. Cofeb y Rhyfel Byd Cyntaf yn y fynedfa. Gafodd ei dylunio gan Mario Rutelli o Rufain, a grëodd Gofeb Ryfel eiconig (a beiddgar) tref Aberystwyth hefyd. 3. Mae’n gofnod o adeilad crefyddol mawreddog nad yw’n bodoli bellach. Cafodd ei adeiladu ym 1785 a’i ddinistrio gan dân yn 2008. Cliriwyd y safle yr un flwyddyn er mwyn codi tai.
Gallwch gael mwy o wybodaeth am y capel ar Stryd Powell yma: https://coflein.gov.uk/cy/site/7157/details/tabernacle-welsh-calvinistic-methodist-chapel-mill-street-and-powell-street-aberystwythcapel-y-groes
ac am gofeb y Rhyfel Byd Cyntaf yma: https://coflein.gov.uk/cy/site/32641/details/tabernacle-chapel-war-memorial
Sianeli cyfryngau cymdeithasol
Bydd lluniau eraill yn dilyn yn ystod yr wythnosau nesaf, ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol: Facebook a Twitter.
Beth am ychwanegu’ch hoff luniau chi o Gymru a rhannu’ch storïau gyda ni? I gael ysbrydoliaeth, chwiliwch ein harchif arlein Coflein. Mae cannoedd ar filoedd o ddelweddau i’w darganfod, felly mae digon o ddewis!
06/02/2020