
Dewisiadau’r Staff: Hoff Luniau o’r Archif: gwersyll cyrch Rhufeinig Killcrow

Dyma’r gwersyll cyrch Rhufeinig bach yn Killcrow Hill ger Caer-went yn Sir Fynwy ym mis Gorffennaf 2013. Cofiaf y darganfyddiad yn dda gan mai dim ond yr ail wersyll Rhufeinig i’w ddarganfod erioed yn ne-ddwyrain Cymru oedd hwn. Roedd yn ardal lle bu llwyth y Silwriaid yn ymladd yn erbyn y fyddin Rufeinig am 30 mlynedd yn sgil goresgyniad Prydain yn OC 43. Gwersylloedd dros dro i filwyr a oedd yn ceisio trechu’r brodorion gelyniaethus oedd gwersylloedd cyrch. Dyma adeg pan oedd de-ddwyrain Cymru yn lle hollol wahanol!
Mae gwersylloedd Rhufeinig yn eithriadol o brin yng Ngwent (ar hyn o bryd nid oes ond tri gwersyll y gwyddom amdanynt) ond gellir eu hadnabod ar unwaith gan i’r Rhufeiniaid eu hadeiladu yn ôl yr un cynllun, o ogledd Affrica i’r Alban. Mae’n siwr bod yna lawer mwy i’w darganfod. Ar 22 Gorffennaf 2013, ar ôl ychydig o oriau o hedfan yn chwilio am olion cnydau ar draws de Cymru, fe neidiodd lloc petryalog bach gyda chorneli crwn allan o gae lle roedd cnwd yn aeddfedu. Dyma’r math o ddarganfyddiad sy’n ‘talu am yr hediad’; roedd yn anodd canolbwyntio ar ddim byd arall wedyn! Pan hedfanwyd dros y safle wythnos yn ddiweddarach, roedd y cnwd wedi llwyr aeddfedu ac roedd olion y gwersyll wedi diflannu.
Manylion y Safle: https://coflein.gov.uk/cy/site/419220/details/killcrow-hill-roman-marching-camp
Gan Dr Toby Driver, Uwch Ymchwilydd (Arolygu o’r Awyr)
05/06/2020