Llangybi primary school

Dewisiadau’r Staff: Hoff Luniau o’r Archif

‘Dewisiadau’r Staff’   Yn ystod yr wythnosau nesaf fe fyddwn yn dangos nifer o luniau o’r archif a ddewiswyd gan staff y Comisiwn, a fydd hefyd yn esbonio pam mae’r delweddau’n bwysig iddynt. Dyma’r tri dewis cyntaf:

Llun o’r cerflun ‘Glöwr gyda’i deulu’, dewiswyd gan Lynne Moore, Swyddog Llyfrgell ac Ymholiadau

Cerflun y Glöwr gyda’i deulu, Llwynypia
Cerflun y Glöwr gyda’i deulu, Llwynypia

Cafodd y cerflun efydd, maintioli-llawn hwn o löwr, ei wraig a’u baban ei greu gan Robert Thomas a’i ddadorchuddio ym 1993. Fe’i comisiynwyd gan Gymdeithas Ddinesig Rhondda i goffáu’r llu o gymunedau glofaol yng Nghwm Rhondda.

Mae’r ffigurau – glöwr yn ei ddillad gwaith a’i wraig yn dal baban wedi’i lapio yn ei siôl Gymreig draddodiadol – yn edrych i ffwrdd, i lawr y cwm i gyfeiriad Rhondda Fawr.

Yr hyn sy’n fy nenu at y llun hwn yw’r safle anghysbell unig o fewn y dirwedd ehangach. Safant, wedi’u castio mewn efydd, wedi’u hamgylchynu gan goncrit, mewn byd o lo; safant yn uchel yn yr awyr las ar ôl oes (iddo ef) o weithio o dan y ddaear yn y düwch tywyll.

Mae yna hiraeth i mi yn y ddelwedd hon: am yr hen ffordd o fyw, gweithio a bod yn rhan o gymuned. Mae’n ein hatgoffa i gyd o fychander ein bywydau ni ein hunain yn y tirweddau sy’n siapio ein bywydau a’n bywoliaethau, ac yn ein gosod ni yn nhreigl anochel amser. Safant ar wahân i’n bywydau ni heddiw ond maen nhw hefyd yn rhan o ffabrig y gorffennol sy’n sylfaen i’r presennol yr ydym yn byw ein bywydau ni ynddo. Mae’n gymhariaeth â heddiw – neu’n wrthgyferbyniad – mae’n ein hatgoffa o’n hanes, ac mae’n symbol i’r dyfodol. Y bod/au dynol o fewn ein dynoliaeth dorfol.

Glöwr gyda’i deulu: https://coflein.gov.uk/cy/site/419265/details/coal-miner-and-his-family-sculpture-llwynypia

Rhandiroedd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac Ysgol Gynradd Llangybi, dewiswyd gan Helen Rowe, Swyddog Gwybodaeth

Daw fy hoff luniau o gasgliadau y bûm yn ddigon ffodus i’w catalogio – dau yn arbennig: ffotograffau’r Swyddfa Gwybodaeth Ganolog o’r 1940au i’r 1980au ac awyrluniau Aerofilms o 1919 i 1953. Ceir llawer o ddelweddau penigamp yn y casgliadau hyn sy’n adlewyrchu hanes cymdeithasol a hanes lleol, ond dyma fy ffefrynnau:

Rhandiroedd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Rhandiroedd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae’r awyrlun hwn o’r Llyfrgell Genedlaethol a dynnwyd ym 1932 yn gofnod arbennig iawn o gam cyntaf y gwaith adeiladu. Mae ei safle agored bryd hynny’n drawiadol, ond fel aelod o ardd gymunedol, yr hyn sydd o ddiddordeb mawr i mi yw’r rhandiroedd.

Pan ofynnais i bobl amdanynt, dywedasant eu bod ar gyfer staff y llyfrgell i dyfu llysiau yn eu hawr ginio, sy’n syniad hyfryd, ond mae mwy iddi na hynny.

Roedd John Ballinger, Llyfrgellydd cyntaf y Llyfrgell Genedlaethol, yn arddwr brwd – ef a ddarparodd y toriadau ar gyfer y gwelyau blodau cyntaf o amgylch yr adeilad ac roedd yn llywydd y Gymdeithas Cynhyrchu Bwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ar ôl gwneud ychydig o ymchwil, gan fanteisio ar y wefan ddi-dâl wych Papurau Newydd Cymru Arlein, cefais wybod i’r Llyfrgell drefnu i’r tir gael ei aredig mor gynnar â 1917 fel y gallai myfyrwyr y Brifysgol dyfu tatws yno, ac iddi gynnig y tir ar gyfer rhandiroedd ym 1918. Y rheswm am hynny oedd bod prinder bwyd oherwydd ymgyrch y llongau-U. O ganlyniad yr oedd tir yn cael ei aredig ar hyd a lled Prydain er mwyn tyfu mwy o gnydau. Ym mis Ebrill 1918, adroddodd The Cambrian News fod y Llyfrgell Genedlaethol yn cynnig lleiniau 200 llathen sgwâr ac ym mis Mai fe gawsant eu palu a’u plannu.

Mae llyfrau Cofnodion Cymdeithas Gerddi a Rhandiroedd Aberystwyth, y cynhaliwyd ei chyfarfodydd yn y Llyfrgell Genedlaethol ei hun, yn cynnwys llythyrau o 1934 sy’n ymwneud â rhandiroedd y Llyfrgell. Gallwn gymryd eu bod nhw’n parhau i gael eu defnyddio yn ystod yr Ail Ryfel Byd hefyd, ac yn ôl David Jenkins, wrth roi sylwadau ar y ffotograff ar wefan Prydain Oddi Fry, cafodd y tir ei ddefnyddio gan Fridfa Blanhigion Cymru ar gyfer gwneud arbrofion ym 1937.

Gydag adfywiad ‘tyfu’ch cnydau’ch hun’ a llai o geir ar y ffyrdd, yn ogystal â mwy o weithio gartref ac argaeledd llu o adnoddau ar-lein, a fyddwn ni’n gweld rhandiroedd yn dychwelyd i’r tir hwn sydd yn awr yn faes parcio, ac a fyddai John Ballinger yn cymeradwyo?

Casgliad Aerofilms: https://coflein.gov.uk/cy/archive/6200682/details/500

Ysgol Gynradd Llangybi
Ysgol Gynradd Llangybi

Dyma un o ddau ffotograff o amser chwarae yn ysgol gynradd Llangybi o Gasgliad y Swyddfa Gwybodaeth Ganolog, a dynnwyd ym 1970. Symudais gyda’m teulu i orllewin Cymru ym 1971 ac euthum i ysgol gynradd fach iawn debyg i hon. Roedd 20 disgybl yn fy ysgol i, mewn dwy ystafell ddosbarth – y ‘rhai mawr’ a’r ‘rhai bach’, yr un fath â theulu. Ar yr adeg honno roedd y merched yn dechrau gwisgo trowsusau (fflêr) a thorri eu gwallt yn fyrrach, ac roedd gan y bechgyn wallt hirach. Felly roedd llawer llai o wahaniaeth rhyngddynt. Rydw i’n hoffi bywiogrwydd brwd y chwarae – y symud i bob cyfeiriad, egni’n cael ei ryddhau.

Cafodd ffotograffau’r Swyddfa Gwybodaeth Ganolog, sy’n dyddio o 1946 i 1984, eu hachub gan y Cofnod Henebion Cenedlaethol (Lloegr). Cafodd 1000 a rhagor o luniau du a gwyn yn ymwneud â Chymru eu hanfon i CHCC. Yn ogystal ag ysgolion, maen nhw’n dangos tai a ffyrdd newydd eu hadeiladu, golygfeydd stryd, canolfannau siopa, mosgiau, a’r gwaith adeiladu ar safleoedd mawr fel atomfa Trawsfynydd a’r ‘Mynydd Gwefru’ yn Ninorwig. Sefydlwyd y Swyddfa Gwybodaeth Ganolog ym 1946 yn olynydd i’r Weinyddiaeth Gwybodaeth a weithredai yn ystod y rhyfel. Bu’n gweithio gydag adrannau Whitehall a chyrff cyhoeddus i gynhyrchu ymgyrchoedd gwybodaeth gyhoeddus ar faterion megis iechyd ac addysg. Adnodd unigryw a gwerthfawr yw’r ffotograffau hyn sy’n gofnod o’r ffyniant a’r newidiadau cymdeithasol a fu wedi’r Ail Ryfel Byd ac sydd, yr un pryd, yn cynnig i rai ohonom atgofion am ein plentyndod.

Ysgol Llangybi: https://coflein.gov.uk/cy/site/36967/details/graigwen-llangybi-school

Casgliad y Swyddfa Gwybodaeth Ganolog: https://coflein.gov.uk/cy/archive/6210974/details/501

Sianeli cyfryngau cymdeithasol

Bydd lluniau eraill yn dilyn yn ystod yr wythnosau nesaf, yma ar y blog ac ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol: Facebook a Twitter.

Beth am ychwanegu’ch hoff luniau chi o Gymru a rhannu’ch storïau gyda ni? I gael ysbrydoliaeth, chwiliwch ein harchif arlein Coflein. Mae cannoedd ar filoedd o ddelweddau i’w darganfod, felly mae digon o ddewis!

05/27/2020

guest
0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x