Dilyn ôl troed Owain Glyndŵr

Roedd un o arwyr cenedlaethol mwyaf adnabyddus Cymru, Owain Glyndŵr, yn byw rhwng c.1359 a c.1415. Roedd yn disgyn o dai brenhinol Powys a Deheubarth, roedd ganddo diroedd yng ngogledd-ddwyrain Cymru a dyffryn Teifi, a chafodd ei addysgu’n gyfreithiwr yn Llundain.

Yn 1400, arweiniodd wrthryfel yn erbyn Brenin Harri IV o Loegr a ymledodd trwy Gymru gyfan. Cafodd ei goroni’n Dywysog Cymru ym 1404. Roedd gweledigaeth Glyndŵr ar gyfer Cymru annibynnol yn cynnwys senedd a phrifysgol Gymreig. Yn y pen draw, methodd y gwrthryfel a diflannodd Glyndŵr. Ni chafodd ei weld eto ar ôl 1412. Ni chafodd ei fradychu gan ei ddilynwyr er y byddent wedi cael eu gwobrwyo’n hael gan goron Lloegr. Portreadwyd Owain Glyndŵr gan Shakespeare yn ei ddrama Harri IV Rhan 1 fel ffigur rhamantus ac mae ei stori yn dal yn fyw fel yr arweinydd brodorol olaf a lwyddodd i uno Cymru. Mae nifer o safleoedd yng Nghymru yn gysylltiedig â Glyndŵr, a gallwch fynd ar daith gerdded ar hyd Llwybr Glyndŵr, llwybr cenedlaethol 135 milltir o hyd trwy ganolbarth Cymru. Mae’r Comisiwn wedi cynnal arolwg o lawer o’r safleoedd hyn a dyma bum lle ar Coflein (www.coflein.gov.uk) y gallech ymweld â nhw wrth ddilyn ôl troed Owain Glyndŵr.

Cerflun Owain Glyndŵr, Corwen
Cerflun Owain Glyndŵr, Corwen

Llys Sycharth

Cyfansoddodd y bardd Iolo Goch gerdd am Sycharth, un o brif gartrefi Owain ac, yn ôl pob tebyg, gartref ei blentyndod. Yn y gerdd mae’n canmol y croeso a’r lletygarwch a gaed yno. Roedd y tŷ wedi’i leoli ar safle mwnt Normanaidd yn Llansilin, Sir Ddinbych, ger afon Cynllaith. Byddai llys Owain wedi bod yn adeilad o bren, gyda tho teils a ffos o’i amgylch. Yn ôl y gerdd, roedd yno naw neuadd, pedair ystafell wely, ac eglwys wedi’i gwyngalchu. Roedd pyllau pysgod, gwinllan, perllan, peunod, garanod, cwningod a cheirw yn darparu bwyd a diod o’r ansawdd gorau. Cafodd y llys ei losgi ym 1403 gan y Tywysog Hal, a ddaeth yn Harri V, a bellach y mwnt yn unig sydd ar ôl, er bod olion ffermio o’r oesoedd canol i’w gweld mewn caeau gerllaw. Fodd bynnag, mae cerdd Iolo yn cynnig cipolwg prin ar fywyd breintiedig a diwylliedig Owain a’i deulu cyn y gwrthryfel. Cloddiwyd safle Sycharth gan Douglas Hague, cyn aelod o staff y Comisiwn Frenhinol. Cyhoeddwyd ei adroddiad yn Archaeologia Cambrensis cyfrol 115 (1966).

Plas Sycharth, Powys
Llys Sycharth, Powys

Mwnt Glyndŵr

Mae’r mwnt hwn, gyda ffos ar wahân, wedi’i leoli ar safle cadarn yn edrych dros afon Dyfrdwy rhwng yr A5 a Rheilffordd Llangollen yng Nglyndyfrdwy, yn hen sir Feirionnydd. Er bod teithwyr oes Fictoria yn galw’r castell yn ‘Glyndŵr’s Mount’, mae’n debygol o fod yn safle castell cynharach a oedd yn gwarchod dyffryn Dyfrdwy. Mae’n debyg bod llys Owain Glyndŵr yn sefyll tua 180m i’r dwyrain o’r mwnt lle y ceir olion ffos. Yn y fan hyn, yn ôl un ffynhonnell Gymreig, ar 16 Medi 1400, yn dilyn ffrae chwerw gyda Reginald de Grey, Arglwydd Rhuthun dros dir, cyhoeddodd Owain ei fod yn Dywysog Gymru. Dyma gychwyn ei wrthryfel cenedlaethol yn erbyn coron Lloegr. Fel y digwyddodd yn Sycharth, llosgwyd y tŷ yn ulw ym 1403 gan y Tywysog Hal, Brenin Harri V wedi hynny.

Mwnt Owain Glyndwr, Mwnt a Ty gyda Ffos o’i amgylch, Sir Ddinbych
Mwnt Owain Glyndwr, Mwnt a Ty gyda Ffos o’i amgylch, Sir Ddinbych

Brwydr Hyddgen

Ym mis Mehefin 1401, roedd byddin Owain Glyndŵr o ryw 500 o filwyr yn wynebu byddin lawer mwy, yn cynnwys milwyr Cymreig o Sir Benfro, a oedd yn cefnogi brenin Lloegr. Er gwaethaf y gwahaniaeth mewn niferoedd, enillodd Glyndŵr fuddugoliaeth ysgubol. Nid yw union safle’r frwydr yn hysbys, ond yn ôl traddodiad roedd yn Hyddgen, man anghysbell i’r gorllewin o Bumlumon yng Ngheredigion. Tir mynyddig, corsiog iawn a geir yma, felly roedd yn lle addas ar gyfer strategaeth Owain o dynnu’r gelyn i diriogaeth anghyfarwydd cyn i’w saethwyr ymosod arnynt. Mae’n debyg bod ei wersyll yn Siambr Trawsfynydd gerllaw, y mae traddodiad yn ei gysylltu â Glyndŵr. Dywedir bod dwy garreg, a elwir yn  ‘Gerrig Cyfamod’ yn nodi safle’r frwydr, er nad oes tystiolaeth uniongyrchol o hynny. Dywedir i’r meirw gael eu claddu mewn lle a elwir yn Esgair y Ffordd. Dangosodd y fuddugoliaeth fod Owain bellach yn ŵr pwerus o bwys, ac yn sgil ei lwyddiant fe gynyddodd ei gefnogaeth trwy Gymru. Am wybodaeth bellach, gweler Rhestr o Feysydd Brwydro Hanesyddol yng Nghymru y Comisiwn Brenhinol.

Brwydr Hyddgen, Ceredigion
Brwydr Hyddgen, Ceredigion

Brwydr Bryn Glas (Pilleth)

Ar ôl ei lwyddiant ym mrwydr Hyddgen, cyfarfu Glyndŵr a’i gefnogwyr unwaith eto â byddin coron Lloegr o dan arweiniad Syr Edmund Mortimer. Digwyddodd hyn ym Mhyllalai, ger Llanandras yn yr hen sir Faesyfed, ar 22 Mehefin 1402. Fe’i gelwir yn Frwydr Bryn Glas. Unwaith eto, roedd byddin Owain yn llai o lawer, a cheisiodd Mortimer ei ddenu i ymladd. Er nad oes llawer o adroddiadau ar ôl, ymddengys i saethwyr Owain gael y gorau ar filwyr Mortimer a bod rhai saethwyr Cymreig ym myddin Lloegr wedi newid ochr er mwyn cefnogi Glyndŵr. Bu Owain yn cuddio’i filwyr wrth ochr y bryn cyn ymosod yn llwyddiannus ar fyddin Lloegr o’r tu ôl. Cipiwyd Mortimer ei hun yn y frwydr a gofynnodd Owain i’r Brenin Harri am bridwerth amdano, ond gwrthododd hwnnw ei dalu. Fe gythruddwyd Edmund Mortimer i’r fath raddau gan hyn nes iddo nid yn unig newid ochr, ond priodi â Catrin, merch Owain, gan greu cynghrair teuluol. Cryfhaodd y fuddugoliaeth wrthryfel Owain Glyndŵr, am gyfnod o leiaf. Dywedir bod bedd torfol ym Mryn Glas a gerllaw mae eglwys Normanaidd y Santes Fair a oedd yn sefyll adeg y frwydr.

Brwydr Pilleth, Powys
Brwydr Bryn Glas (Pilleth)

Senedd-dy Owain Glyndŵr, Machynlleth

Erbyn 1404, roedd Owain Glyndŵr wedi ennill cefnogaeth o bob rhan o Gymru a galwodd senedd gyntaf Cymru ym Machynlleth, Powys. Roedd gan lawer o Gymry gwynion yn erbyn tirfeddianwyr o Loegr a oedd wedi cipio tir a oedd gynt yn eiddo i deuluoedd Cymreig. Roedd y cyfarfod nid yn unig yn cynnwys cynrychiolwyr o gymunedau Cymreig ond hefyd cynrychiolwyr o’r Alban, Ffrainc a Chastîl yn Sbaen. Coronwyd ef yn Dywysog Cymru o flaen ei gefnogwyr, gan gynnwys Esgobion Bangor a Llanelwy. Ym 1404, roedd Machynlleth eisoes yn dref farchnad bwysig yng nghanolbarth Cymru. Yn ôl traddodiad lleol fe gynhaliwyd y seremoni goroni mewn adeilad canoloesol sy’n dal i sefyll ar Heol Maengwyn. Er bod coed to’r hen Senedd-dy yn dyddio i ychydig yn hwyrach, tua c.1470, mae’n debyg bod y safle ei hun yn hŷn, a gallai felly fod yn lleoliad senedd 1404. Ym 1912, adferwyd y neuadd ac ychwanegwyd canolfan ar gyfer y dref gan yr Arglwydd Davies, ŵyr i David Davies, y diwydiannwr cyfoethog o Landinam. Yn yr adeilad ceir cofeb i Owain Glyndŵr ar ffurf murlun mawr o frwydr Hyddgen gan Murray Urquhart – mae gan Glyndŵr wyneb yr Arglwydd Davies! Heddiw, mae arddangosfa hynod ddiddorol am Owain Glyndŵr yn y ganolfan ynghyd ag ystafelloedd cyfarfod a chaffi.

Senedd-dy Owain Glyndwr, Machynlleth, Powys
Senedd-dy Owain Glyndwr, Machynlleth, Powys

Dr Ywain Tomos, Cynorthwyydd Ymholiadau a Llyfrgell

08/17/2020

guest
0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x