
Diogelu’r Gorffennol… Cyfoethogi’r Dyfodol…
Mae Atlantic Geomatics yn cael eu croesawu’n ôl i Gorffennol Digidol ar ôl rhoi un o’r sgyrsiau ‘Sesiwn Anghynhadledd’ mwyaf poblogaidd erioed yn 2016.
Bydd Tim Viney, y Rheolwr Gyfarwyddwr, yn trafod eu System Rheoli Claddfeydd, sef system gynhwysfawr ar gyfer cofnodi a mapio claddfeydd gan ddefnyddio ffotogrametreg ddrôn soffistigedig a sganio laser daearol. Mae cyfuno canlyniadau mapio â chronfa ddata gynhwysfawr o wybodaeth, gan gynnwys arysgrifau ar gerrig beddi, dyddiadau, ffotograffau a chynlluniau hanesyddol, yn creu arf rheoli ac ymchwilio cyfoethog sydd o gymorth i ddeall a diogelu’r safleoedd hanesyddol pwysig hyn.
Ar y cyd â Sarah Perons, Swyddog Gofal Eglwysi, Esgobaeth Llandaf, trafodir manteision y system mewn perthynas â phrosiect peilot sy’n cael ei gynnal gan yr Eglwys yng Nghymru. Dangosir sut y bydd gwneud y data’n fwy hygyrch o fudd i’r rheiny sy’n rheoli addoldai, i ysgolion, ac i haneswyr, ymchwilwyr hanes teulu a’r cyhoedd.
Archebwch eich tocyn Gorffennol Digidol yn awr
Cynhadledd Gorffennol Digidol | Lleoliad | Cofrestru | Sylwadau | Blogs | Arddangosfeydd | Ein Noddwyr
30/01/2017