Diwedd Cyfnod: Cau Tollbyrth yr M4

Bydd tollbyrth adnabyddus yr M4 yn peidio â bodoli o Ddydd Llun 17 Rhagfyr 2018. Mae tollau wedi cael eu codi am 52 o flynyddoedd ar gerbydau modur sy’n defnyddio’r bont, ac ar Ddydd Llun bydd yn cael ei hailagor mewn seremoni ffurfiol a bydd ceir a lorïau’n gallu dod i mewn i Gymru (yn teithio i’r Gorllewin) ar hyd yr M4 heb orfod talu tollau.

Credir mai dyma’r tro cyntaf ers rhyw 400 o flynyddoedd y bydd yn bosibl croesi Môr Hafren heb dalu.

Tollbyrth yr M4

Tollbyrth yr M4

Tollbyrth yr M4

 

Croesfan Hafren

Agorodd Croesfan Hafren ar 8 Medi 1966.

Agorodd Croesfan Hafren ar 8 Medi 1966.

 

Cymerodd bum mlynedd i adeiladu Croesfan Gyntaf Hafren (1961-66), gan ddilyn cynlluniau Mott, Hay & Anderson a Freeman Fox & Partners. Cafodd Pont Hafren ei hadeiladu gan gonsortiwm o gontractwyr, yn cynnwys Sir William Arrol and Co Ltd (Glasgow), Cleveland Bridge and Engineering Co Ltd (Darlington), a Dorman Long Bridge and Engineering Ltd (Middlesbrough). Mae’n rhychwantu Afon Hafren ac Afon Gwy rhwng Aust, de Swydd Gaerloyw, a Chas-gwent, Sir Fynwy, a chymerodd le Fferi Aust.

Proffil: Hyd cyfan (gan gynnwys pont geblau Gwy): 2,992 m (9,816 tr); cost: £8 miliwn. Cafodd ei hagor ar 8 Medi 1966 gan y Frenhines Elizabeth II, ac ar 26 Tachwedd 1999 cafodd ei rhestru’n adeiladwaith Gradd I gan English Heritage. Mae’r rhan fwyaf o’r Porth i Gymru yn Swydd Gaerloyw.

Manylion y Safle: Croesfan Hafren

 

Ail Groesfan Hafren (Pont Tywysog Cymru)

Agorodd Ail Groesfan Hafren ar 5 Mehefin 1996.

Agorodd Ail Groesfan Hafren ar 5 Mehefin 1996.

 

Cymerodd bedair blynedd i adeiladu Ail Groesfan Hafren (o 26 Ebrill 1992 hyd 1996), gan ddilyn cynlluniau Sir William Halcrow & Partners, y peirianwyr sifil Ffrengig, SEEE, a’r pensaer Ronald Weeks o Bartneriaeth Percy Thomas a oedd yn ymgynghorwyr pensaernïol. Cafodd ei chodi gan John Laing Construction a’r cwmni adeiladu Ffrengig GTM-Entrepose. Mae’n fwy i’r de-orllewin na Phont Hafren, ar derfyn isaf Afon Hafren a dechrau Môr Hafren.

Proffil: Hyd cyfan‎: ‎5,128 m (16,824 tr) a rhyw 37 m (121 tr) uwchlaw’r dŵr; cost: £332 miliwn. Cafodd y bont grog ei hagor ar 5 Mehefin 1996 gan Dywysog Cymru.

Cafodd ei hailenwi’n Bont Tywysog Cymru mewn seremoni ar 2 Gorffennaf 2018.

Ffaith: Cododd y doll i geir o 2s 6d (£0.125) y car ar 5 Mehefin 1966 i £6.70 ar 1 Ionawr 2017. Roedd yn £5.60 o 8 January 2018.

Manylion y Safle: Ail Groesfan Hafren (Pont Tywysog Cymru)

Amcangyfrifwyd bod 25 miliwn o deithiau’r flwyddyn yn cael eu gwneud ar draws y pontydd ac mae tollbyrth yr M4 ar y ffordd i mewn i Gymru wedi dod yn olygfa gyfarwydd i gymudwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd wrth iddynt dalu ac aros i’r glwyd godi. Ond o Ddydd Llun 17 Rhagfyr fe fydd gyrwyr o Loegr yn gallu ymweld â Chymru heb dalu toll.

12/14/2018

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x