Map showing the cantrefs of Wales

Diweddariadau Technegol i’r Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol yng Nghymru

Rydym dal wrthi’n ddyfal yn ymateb i’r hyn a godwyd gan y cyhoedd yn yr holiadur a greusom ar gyfer Adroddiad Pum Mlynedd y Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol yng Nghymru. Yn ogystal â pharhau â’r gwaith o ychwanegu mwy o enwau, a tsecio trawsgrifiadau felly, rydym wedi gwneud ambell ddiweddariad technegol i’r wefan.

Y cyntaf, a’r mwyaf amlwg yw ein bod ni wedi ychwanegu ffiniau cymydau a chantrefi hanesyddol Cymru at y map. Dyma’r ffordd y rhannwyd y tir cyn creu’r siroedd hanesyddol yn sgil Deddf Uno 1536, gyda sawl cwmwd yn ffurfio cantref. Gallwch eu dewis i’w dangos ar y map yn yr un ffordd â ffiniau’r plwyfi a’r siroedd.

Mae staff y Comisiwn wrthi’n digideiddio a geo-leoli argraffiad cyntaf mapiau’r Arolwg Ordnans, gan ddechrau gydag Ynys Môn. Ymysg y pethau eraill y mae’r mapiau hyn yn eu dangos y mae ffiniau’r trefgorddau y tu mewn i’r plwyfi. Unwaith y mae’r gwaith hwn wedi’i gwblhau, y mae’n fwriad gennym ychwanegu’r mapiau fel haen arall ar y wefan, ac ychwanegu ffiniau’r trefgorddau i’r rhai dewisiadwy sydd gennym yn barod. Bydd hynny’n ein galluogi i sefydlu hierarchaeth o ffiniau o’r trefgorddau i fyny hyd at lefel sirol.


Mae’r Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol, fel y mae’r enw’n awgrymu, yn gasgliad o ffurfiau hanesyddol ar enwau. Mae hyn yn golygu ei bod yn cynnwys sillafiadau ansafonol ar enwau, a ffurfiau arnynt mewn ieithoedd eraill rhagor na’r Gymraeg. Rydym yn ymwybodol bod hyn wedi peri penbleth i’n defnyddwyr ers y cychwyn, oherwydd na fyddai teipio enw modern i mewn i’r blwch chwilio o’r rheidrwydd yn dod ag unrhyw ganlyniadau, er bod ffurfiau hanesyddol ar yr enw gennym yn y bas data. Rydym wedi datrys hyn trwy sicrhau bod y teclyn chwilio’n anwybyddu marciau diacritig a chyplysnodau wrth chwilio. Felly os chwiliwch am ‘Plas teg’, fe gewch ‘Plâs teg’, ‘Plas-teg’ a ‘Plas-têg’, er enghraifft.

Diweddariad i'r adnodd chwilio ar wefan y Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol

Rydym yn gobeithio y bydd hyn oll yn ei gwneud yn haws i ddarganfod yr enwau rydych yn chwilio amdanynt, ac yn rhoi enwau hanesyddol Cymru yn eu cyd-destun hanesyddol a daearyddol.

Dr James January-McCann, Swyddog Enwau Lleoedd

30/08/2023

Subscribe
Notify of
guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x