
Diwrnod Alzheimer’s y Byd: Adnoddau ar gyfer Hel Atgofion
Ar Ddiwrnod Alzheimer’s y Byd, hoffem ddweud wrthych am yr ychwanegiadau diweddaraf at yr Archif Cof a grëwyd gennym ar y cyd â Chasgliad y Werin Cymru. Adnodd di-dâl yw hwn a baratowyd yn benodol ar gyfer gwaith hel atgofion gyda phobl sy’n byw gyda dementia.
“Gall hel atgofion a gwaith hanes bywyd fod yn ffordd nerthol o gyfathrebu â rhywun sy’n byw gyda dementia. Gall fod yn sail ar gyfer treulio amser difyr gyda’ch gilydd a gall wneud i bobl deimlo’n dda amdanyn nhw eu hunain. Gall y canlyniadau fod yn llesol iawn i’r unigolyn.” Cymdeithas Alzheimer’s
Cyfres o gasgliadau wedi’u seilio ar wahanol themâu a roddwyd wrth ei gilydd gyda chymorth arbenigwyr ym maes gofal iechyd i ddarparu ffynhonnell gyfoethog o ddeunydd ar gyfer gweithgareddau hel atgofion yw’r Archif Cof. Ceir yn y casgliadau ffotograffau, clipiau fideo a recordiadau sain a all danio atgofion am fywyd yn y 1940au hyd at y 1980au. Mae’r holl ddeunydd yn gysylltiedig â Chymru a chafwyd cyfraniadau o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC) y Comisiwn Brenhinol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru–National Museum Wales, yn ogystal ag archifdai, llyfrgelloedd, amgueddfeydd, grwpiau cymunedol ac unigolion ar hyd a lled Cymru.
Rhai o’r casgliadau yr edrychwyd arnynt amlaf ers lansio’r adnodd yw ‘Ceginau’ (4,575 gwaith), ‘Gwaith’ (4,407 gwaith), a ‘Bywyd Ysgol’ (4,086 gwaith).
Yn ystod y misoedd diwethaf, rydym wedi cynnwys mwy o gasgliadau yn yr Archif Cof:

Ffotograffau o’r 1980au (i ehangu ein casgliadau presennol sy’n dyddio o’r 1940au i’r 1970au)
(Menywod yn gweithio yn ffatri Laura Ashley, 1980au, Archif Menywod Cymru).

Ffotograffau a recordiadau ar y thema ‘Morio’ (i ehangu ein casgliadau bywyd gwaith/diwydiannau).
(Dadlwytho bananas yn Nociau’r Barri, Llyfrgelloedd Bro Morgannwg).

Ffotograffau ar y thema ‘Prifysgol’ (i ehangu ein casgliad Ysgolion/Addysg).
(Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth mewn darlith, Jenkins12).

‘Balchder’ – casgliad LGBTQ+ gyda lluniau’n dyddio o’r 1970au ymlaen.
(Bathodynnau’n gwrthwynebu Adran 28, Amgueddfa Caerdydd).
Adnoddau defnyddiol eraill:

Cafodd Adnodd addysgu’r Archif Cof ei greu i godi ymwybyddiaeth pobl ifanc o ddementia ac i feithrin sgiliau bywyd gwerthfawr a fydd yn eu helpu i gefnogi pobl yn eu teuluoedd a’u cymunedau sy’n byw gyda dementia; defnyddir gweithgareddau fel y Goeden Gof (yn y llun), y gellir gosod delweddau ar ei changhennau sy’n cynrychioli atgofion pwysig ym mywyd yr unigolyn.

Fields of Play: The Sporting Heritage of Wales: llyfr llawn ffotograffau hanesyddol a chyfoes gwych sy’n ymdrin â’r amrywiaeth o gyfleusterau chwaraeon yng Nghymru o barciau cyhoeddus a phyllau nofio awyr-agored i feysydd lles, stadia, a rôl cefn gwlad fel maes chwarae cenedlaethol.
Os hoffech ddefnyddio’r cyhoeddiad hwn ar gyfer gwaith hel atgofion, cysylltwch â Marisa Morgan, marisa.morgan@rcahmw.gov.uk, i archebu copi am ddim (efallai y bydd angen talu costau pacio a phostio).
09/21/2021