CBHC / RCAHMW > Newyddion > Diwrnod Amgylchedd y Byd: Dim ond Un Ddaear

Diwrnod Amgylchedd y Byd: Dim ond Un Ddaear

Mae heddiw’n Ddiwrnod Amgylchedd y Byd. Dan y thema ‘Dim ond un ddaear’ rydym am rannu â chi’r daith y mae’r Comisiwn Brenhinol yn mynd arni er mwyn bod yn sefydliad mwy cynaliadwy a gwyrdd.

Yn ôl yn 2019, aethom ati i sefydlu ein Grŵp Cenedlaethau’r Dyfodol gyda chynrychiolwyr o bob rhan o’r sefydliad yn gweithredu fel hyrwyddwyr materion gwyrdd. Mae’r Grŵp wedi’i enwi ar ôl Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, sef deddfwriaeth flaengar sy’n pennu 7 o nodau llesiant (gweler y diagram isod) sydd gyda’i gilydd yn darparu gweledigaeth gyffredin ar gyfer gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. 

7 Nod Llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Fel yr eglura archaeolegydd y Comisiwn Brenhinol, Louise Barker, sy’n aelod o’r Grŵp Cenedlaethau’r Dyfodol:

‘mae’r Ddeddf yn cyflwyno ‘egwyddor datblygu cynaliadwy’ ac mae’n egwyddor yr ydym yn ymdrechu i’w dilyn. Yn syml, mae angen i unrhyw benderfyniad yr ydym yn ei wneud ystyried yr effaith ar bobl sy’n byw yng Nghymru yn awr ac yn y dyfodol.’

Un elfen bwysig o waith y Grŵp yw edrych ar ffyrdd o wella ein perfformiad amgylcheddol a’n cynaliadwyedd. Rydym yn deall bod ein gweithrediadau pob dydd yn cael effaith ar yr amgylchedd, sy’n codi’n bennaf o ddefnyddio adnoddau, teithio a chynhyrchu gwastraff. Rydym wedi ymrwymo i wella ein perfformiad amgylcheddol yn barhaus, lleihau ein hôl troed carbon a gweithio tuag at nodau datblygu cynaliadwy. I’r perwyl hwnnw, rydym wedi creu Cynllun Gweithredu Amgylcheddol a byddwn yn lleihau ein heffeithiau niweidiol ar yr amgylchedd drwy:

  1. Sicrhau cydymffurfiaeth â’r holl ddeddfwriaeth, yr holl safonau a’r holl rwymedigaethau cydymffurfio perthnasol eraill sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd;
  2. Rheoli gwastraff trwy leihau, ailddefnyddio a hyrwyddo ailgylchu;
  3. Lleihau effaith ein defnydd o ynni, dŵr a phapur ar yr amgylchedd;
  4. Lleihau ein defnydd o gynnyrch plastig untro os gellir osgoi ei ddefnyddio a gweithio tuag at sefyllfa lle nad yw cynnyrch plastig o’r fath yn cael ei ddefnyddio o gwbl;
  5. Hyrwyddo mentrau trafnidiaeth gynaliadwy ac annog y defnydd o gyfleusterau fideogynadledda a thelegynadledda;
  6. Ceisio cynnal a gwella bioamrywiaeth i’r graddau y mae hynny’n gyson â chyflawni ein swyddogaethau’n briodol, a hybu cydnerthedd ecosystemau wrth wneud hynny;
  7. Ymgorffori cynaliadwyedd yn ein gweithdrefnau caffael;
  8. Codi ymwybyddiaeth o’r newid yn yr hinsawdd a’r angen i addasu, gan gydweithio ac annog cydweithio a gweithredu ar draws y sector amgylchedd hanesyddol;
  9. Pennu amcanion a/neu dargedau amgylcheddol ac adrodd ynghylch cynnydd bob blwyddyn.

Mae rhai enghreifftiau diweddar o’r gwaith yr ydym yn ei wneud er mwyn ceisio cyflawni ein Cynllun Gweithredu Amgylcheddol yn cynnwys creu ein hadroddiad a’n cynllun gweithredu ynghylch Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau ar gyfer 2022-25, a pharhau i fod yn aelod o rwydweithiau megis Fit for the Future lle’r ydym wedi bod yn manteisio ar y gweithdai a’r hyfforddiant gwerthfawr sydd ar gael i sbarduno syniadau.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r sefyllfa o ran COVID-19 wedi golygu na chafodd sawl un o’r camau gweithredu arfaethedig yn ymwneud ag amgylchedd ein swyddfa eu rhoi ar waith, tra oeddem yn gweithio gartref. Fodd bynnag, rydym yn dychwelyd i’r swyddfa erbyn hyn, a thros y flwyddyn nesaf gallwn ganolbwyntio o’r newydd ar y camau gweithredu hynny. Rydym yn benderfynol o barhau â’r arferion mwy gwyrdd a ddeilliodd o’r pandemig, er enghraifft rydym yn teithio llai ac erbyn hyn yn cynnal y rhan fwyaf o’n cyfarfodydd gan ddefnyddio cyfleusterau fideogynadledda a thelegynadledda. Rydym hefyd yn argraffu llai, a hynny am nad oedd gennym fynediad mor hwylus i argraffwyr a llungopïwyr, ond hefyd o ganlyniad i’r ffaith bod ein prosesau a oedd yn defnyddio llawer o bapur bellach wedi’u symud ar-lein.

Un ychwanegiad newydd cyffrous i’r swyddfa yw e-feic, fel yr eglura ein Rheolwr Gweithrediadau a’n Hyrwyddwr Materion Gwyrdd, Stephen Bailey-John:

‘Mae’r beic yn galluogi pobl i wneud teithiau byr o amgylch y dref ar gyfer cyfarfodydd neu waith, neu fynd allan am awyr iach i hybu eu lles. Rydym yn darparu un neu ddwy helmed, siaced lachar, bagiau bach a chlo fel bod y cyfan mor ddefnyddiol a diogel ag sy’n bosibl a bod y staff yn ddiogel ac yn hawdd eu gweld tra byddant ar y beic. Rydym wedi prynu fersiwn o’r e-feic sy’n addas i ddechreuwyr fel bod modd i bawb ei ddefnyddio.’

Yr e-feic newydd a brynwyd yn rhan o’n menter feicio.

Mae gennym lawer mwy o ddatblygiadau ar y gweill a syniadau i fynd ar eu trywydd wrth i ni symud ymlaen ac rydym wedi ymrwymo i weithio i leihau’r argyfwng hinsawdd a chwarae ein rhan i gyrraedd sefyllfa sero net. 

Mae mwy o wybodaeth am ein Grŵp Cenedlaethau’r Dyfodol ar gael yma https://cbhc.gov.uk/amdanom-ni/gwybodaeth-gorfforaethol/cenedlaethaur-dyfodol/

Grŵp Cenedlaethau’r Dyfodol

05/06/2022

Subscribe
Notify of
guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x