Diwrnod Arforol y Byd 2021

Mae dydd Iau 30 Medi yn ‘Ddiwrnod Arforol y Byd’ 2021 y Sefydliad Arforol Rhyngwladol (IMO). Eu thema ar gyfer eleni yw ‘Morwyr: wrth galon dyfodol llongau’ a’r nod yw cynyddu’r sylw i’r dynion a’r merched sy’n rhan ganolog o’r diwydiant llongau byd-eang yr ydym ni i gyd yn dibynnu arno. Nod yr IMO yw tynnu sylw, yn gwbl briodol, at:

y rôl amhrisiadwy mae morwyr yn ei chwarae nawr, ac y byddant yn parhau i’w chwarae yn y dyfodol.

Mewn oes lle mae cymdeithas wedi dod yn gynyddol ‘ddall o ran y môr’ i’r rôl allweddol mae diwydiannau arforol yn ei chwarae yn ein bywydau – o deithio i gludo nwyddau a chynnyrch, a chynhyrchu ynni – mae meddwl am y bobl sy’n sail i lawer o’r hyn rydym yn ei gymryd yn ganiataol yn bwysig iawn. Gallwch ddarllen mwy am weledigaeth IMO yma.

Ond beth am forwyr y gorffennol? Ni wnaeth y llwybrau, y llongau, y technolegau, y cymunedau, y traddodiadau a’r ofergoelion sy’n bodoli heddiw ymddangos dros nos. Maent wedi cael eu darganfod, eu datblygu, eu mabwysiadu, eu hesgeuluso, a’u hailddarganfod hyd yn oed, dros gannoedd ac weithiau miloedd o flynyddoedd, ac maent wedi gosod y sylfeini i’r morwyr sydd heddiw’n gweithio ac yn byw ar hyd ein hafonydd a’n harfordiroedd, neu allan ar ein moroedd a’n cefnforoedd.

Cychod hwylio arfordirol yn harbwr mewnol Aberaeron, tua 1910, cyfeirnod: 6420587

Mae olion rhai o’r ymdrechion arforol hynny yn y gorffennol, yn llwyddiannus ac yn aflwyddiannus, i’w gweld o amgylch arfordiroedd ac afonydd Cymru ac yn rhan bwysig o Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (NMRW), y mae’r Comisiwn Brenhinol yn gyfrifol am ei gynnal a’i wella. Rydym yn aml yn meddwl am gategoreiddio, neu osod yr olion archaeolegol a’r cofnodion hanesyddol hyn mewn bocsys penodol, fel rhai ‘arforol’, yn hytrach na labeli tiriogaethol, adeilad, tirwedd, ac ati. Wrth ddefnyddio labeli o’r fath, mae’n hawdd anghofio weithiau bod y darnau ffisegol a dogfennol hyn o’r gorffennol wedi’u creu gan bobl ac, yn eu tro, gallant ein cludo at straeon y bobl hynny – eu bywydau bob dydd, swyddi, dyfeisgarwch, dyheadau, ac weithiau, yn anffodus, eu munudau olaf. Yn gyfochrog â thema IMO 2021, mae’r cofnod archaeolegol a hanesyddol amrywiol yn yr NMRW felly yn galluogi i ni dynnu sylw at y morwyr, a’r cymunedau morwrol, sydd wedi bod wrth galon gorffennol y diwydiant llongau drwy gydol hanes Cymru.

MMap o rai o’r cofnodion ‘Arforol’ mwy cyffredin yn NMRW: wedi’i leoli isod neu du hwnt i’r marc penllanw.

Mae lleoliad Cymru ar hyd ymyl orllewinol y rhan ganol o’r llwybr morol rhwng Prydain ac Iwerddon yn golygu ei bod wedi bod yn dyst i deithiau morol ar hyd ac ar draws Môr Iwerddon a’r Môr Celtaidd ers y cyfnod cynhanesyddol. Er yn destun trafodaeth academaidd ers dechrau’r 20fed ganrif, mae ymchwiliadau archaeolegol o’r newydd yn yr 21ain ganrif wedi tynnu sylw at y cysylltiadau gan forwyr ar hyd llwybrau morol gorllewinol Prydain mor bell yn ôl ag o leiaf 4000CC (edrychwch ar https://doi.org/10.5284/1016098 am fanylion), gan gynnwys tystiolaeth o siwrneiau hir iawn. Mae preswyliaeth gynhanesyddol ar ynysoedd fel Gwales wedi’i chofnodi drwy arolwg ar y tir, a hefyd archwiliadau o’r awyr, gan y Comisiwn Brenhinol.. Daeth darn Cymreig arall o’r pos hwn i’r amlwg yn ddiweddar, ym mis Mawrth 2021, yng nghanol cyfnod clo Covid-19, pan ddatgelwyd celfi carreg a darnau o grochenwaith gan gwningod yn tyllu ar ynys Skokholm, oddi ar arfordir Sir Benfro.. Mae’r holl ddarganfyddiadau hyn, a’r ynysoedd maent wedi dod ohonynt, yn ein hatgoffa ni o botensial ynysoedd gorllewinol Cymru fel mannau gorffwys, yn ogystal â gofod byw, ar gyfer morwyr cynhanesyddol a’u cymunedau.

Ymhellach allan, 15 milltir ar y môr o’r lan yn y Môr Celtaidd, mae’r rîff o’r enw The Smalls, lle mae rhagor o olion archaeolegol yn taflu goleuni ar forwyr y gorffennol, y peryglon roeddent yn eu hwynebu, a’r ymdrechion enfawr a wnaed i’w cynorthwyo. Ymhlith y safleoedd arforol mwyaf enigmatig yng Nghymru mae ‘llongddrylliad Smalls’ a’r unig dystiolaeth ar ei chyfer yw carn cleddyf addurnol a hardd o’r 11eg ganrif. Efallai bod yr arteffact yma wedi dod o long yn suddo, neu wedi’i ollwng dros ochr y bwrdd – yn ddamweiniol neu’n fwriadol – ond beth bynnag yw’r hanes, mae’n dyst i siwrneiau’r morwyr canoloesol enwocaf yn mynd heibio – y Llychlynwyr.

Carn wedi’i addurno’n fanwl ar gleddyf Llychlynnaidd o’r 11eg ganrif a ganfuwyd yn The Smalls gan ddeifiwr yn 1991 (cyfeirnod: 6205285)

Yn gorwedd ar y llecyn hwn o ddarganfyddiad canoloesol mae un o ddwsinau yn rhagor o longau modern sydd wedi’u cofnodi fel rhai wedi’u colli ar neu’n agos at The Smalls. Yn yr achos hwn, gweddilion clymog, wedi’u hachub i raddau helaeth, yr SS CAMBRO, a ddrylliwyd mewn niwl ym mis Mai 1913. Arweiniodd meddwl clir a gweithredu brys y morwyr ar fwrdd y llong at lansio a llenwi’r cychod achub oedd arni, gan arwain at y rhai ar y bwrdd yn goroesi’r suddo. Er hynny, drwy droeon ffawd, cafodd un cwch achub ei rwyfo 20 milltir i Aberdaugleddau, ond cafodd y llall ei godi gan long yn pasio a chyrraedd Weymouth oedd hanes y criw hwnnw yn y diwedd!

Mae posib gwerthfawrogi pa mor anghysbell yw The Smalls o’r awyr. I’w weld yma ar 9 Medi 2010 (Ref: 335767)

Mae rhyw eironi yn perthyn i golli’r SS CAMBRO gan fod yr holl niwl wedi golygu bod y llong wedi’i dryllio o fewn tafliad carreg i Oleudy The Smalls. Adeiladwyd y goleudy presennol rhwng 1858 a 1861 ond daeth y goleudy gwreiddiol yn weithredol yn 1775 ar gynllun gwahanol iawn, ac eithaf nodedig, a oedd yn galluogi i’r môr olchi drwy waelod y goleudy. Roedd y ffaith bod y lleoliad mor anghysbell yn golygu bod rhaid cludo deunyddiau bob dydd o Solfa, pellter o 20 milltir ar y môr, yn y dyddiau cyn i yriant stêm wneud teithiau o’r fath yn ddibynadwy bob dydd. Mae’n hawdd anghofio am y sgiliau morwrol oedd yn ofynnol i lanio ar y rîff ei hun, ynghyd â medrusrwydd peirianyddol dim ond er mwyn adeiladu Goleudy gwreiddiol The Smalls, ond mae’r ffaith bod y goleudy o’r 18fed ganrif yn dal i sefyll pan godwyd un newydd yn ei le yn 1861 yn dyst i’w gynllun, a sgiliau ei adeiladwyr – o ran adeiladwaith a’u gallu i drin cwch.

Ceir cofnod llawn am y ddau oleudy ar The Smalls, a goleudai eraill Cymru, yng ngwaith rhagorol Douglas B Hague, ‘Lighthouses of Wales: Their Architecture and Archaeology’, sydd ar gael fel eLyfr am ddim ond £2.99 ar ein gwefan ni.

Douglas B. Hague’s reconstruction of the original Smalls Lighthouse (Ref: 134072).

Felly, ar Ddiwrnod Arforol y Byd, gwrandewch ar yr IMO a threulio ychydig o amser yn meddwl am y morwyr yn gweithio ddydd a nos, mewn porthladdoedd ac ar gychod a llongau, gan sicrhau bod ein teithiau a’n masnach ar y dŵr yn gallu parhau. Wedyn, stopiwch i feddwl am forwyr y gorffennol, y mae eu straeon efallai yn llai cyfarwydd fyth, ond y gallwn eu cyrraedd yn gynyddol drwy’r dystiolaeth archaeolegol a hanesyddol maent wedi’i gadael ar ôl. A chofiwch ein bod ni yng Nghymru yn ffodus o fod â chofnod nodedig o’r gweithgarwch arforol hwnnw o’r gorffennol, a’r bobl a’i wnaeth yn bosib. Yn fwy na hynny, mae’r cofnod o’n cwmpas ym mhob man – ar draethau, mewn aberoedd, henebion ac adeiladau, nid dim ond o dan y dŵr neu ar ynysoedd anghysbell llwybrau morol gorllewinol Cymru.

Dr Julian Whitewright, Uwch Ymchwilydd (Arforol).


A full account of both the Smalls lighthouses, and Wales’ other lighthouses is given in Douglas B Hague’s excellent ‘Lighthouses of Wales’, published by the Royal Commission.  https://shop.rcahmw.gov.uk/collections/downloads/products/lighthouses-of-wales-their-architecture-and-archaeology-ebook-1

09/30/2021

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x