Diwrnod Arforol y Byd 2022

29 Medi yw ‘Diwrnod Arforol y Byd’ y Sefydliad Arforol Rhyngwladol. Y thema y mae’r Sefydliad wedi’i dewis yn 2022 yw “Technolegau Newydd ar gyfer Llongau Mwy Gwyrdd” fel ffordd o annog y diwydiant llongau byd-eang i fabwysiadu technoleg sy’n fwy gwyrdd. Mae gwaith arloesi o’r fath yn amrywio o bethau sy’n ymddangos yn amlwg, megis gosod paneli solar ar ddeciau llongau nwyddau, i bethau mwy cymhleth, megis defnyddio deallusrwydd artiffisial i optimeiddio gogwydd llong nwyddau (hynny yw, sut y mae’n eistedd yn y dŵr).

Mae rhywfaint o eironi’n perthyn i hyn o gofio bod y modd y caiff llongau eu gyrru, yn enwedig llongau nwyddau, wedi symud o’r hyn y byddem yn ei ddisgrifio’n awr fel rhywbeth ‘Gwyrdd’ neu rywbeth ‘Caredig i’r Amgylchedd’ i rywbeth sy’n ddwys iawn o ran carbon. Câi llongau nwyddau pellter canolig a phellter hir y byd cyn-ddiwydiannol, a hyd yn oed yn ystod llawer o’r 19eg ganrif, eu gyrru gan y gwynt a oedd yn eu hwyliau, nad oedd yn esgor ar fawr ddim allyriadau carbon na llygredd aer. Yn aml, ystyrir bod dychwelyd i oes y llongau nwyddau a gâi eu gyrru gan eu hwyliau’n ffantasi rhamantus neu’n ddatblygiad technolegol amhosibl. Ond mae sefydliadau megis Eco Clipper yn ceisio troi’r dyhead hwn yn realiti drwy ddefnyddio cyfuniad o dechnoleg fodern a gwybodaeth draddodiadol.

Y llongau hwylio pedwar mast Pamir a Passat – dwy long wych o ddiwedd oes y llongau hwylio, wedi’u hangori yn Nociau Penarth.

Dylem gofio hefyd y câi llawer o lwythi lleol yn y DU eu cludo tan yn gymharol ddiweddar ar ddŵr. Byddai armada o longau hwylio bach, gydag injan gynorthwyol wedi’i gosod arnynt yn aml yn ddiweddarach, yn cludo nwyddau o amgylch yr arfordir ac i fyny ac i lawr afonydd. Roedd llongau o’r fath mor gyffredin yn ystod y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif â’r lorïau a’r faniau sy’n cludo llwythi ar ein ffyrdd heddiw. Mae olion archaeolegol y llongau masnachu arfordirol hyn yn elfen bwysig o Henebion Cenedlaethol Cymru, ac maent yn cynnwys enghreifftiau sydd wedi cael statws Heneb Gofrestredig – megis y tair llong sydd yn afon Dyfi yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Ynys-las.

Llongddrylliad A Ynys-las (NPRN506769). Tynnwyd y ffotograff gan ddefnyddio drôn DJI Mini2, ar 12 Medi 2022.

Ar un adeg byddai’r llongau hyn yn teithio’n ôl ac ymlaen ar hyd Aber Afon Dyfi a’r arfordir cyfagos yn cario nwyddau, yn cludo pobl ac yn cynnig cysylltiadau rhwng lleoedd ar adeg pan oedd teithio ar y tir yn dal yn arafach ac yn ddrutach. Mae’r gwaith arolygu a wnaed gan y Comisiwn Brenhinol, ac sy’n parhau, wedi cynnwys ymweld â’r llongau hyn gyda Cadw, yn rhan o raglen y sefydliad ar gyfer monitro henebion cofrestredig. Mae hynny wedi’i gwneud yn bosibl creu cofnod 3D o’r llong sydd fwyaf yn y golwg o blith y tair, er mwyn ei ychwanegu at arolwg tebyg a gynhaliwyd yn 2015 a 2017 gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed. Gallwch archwilio’r model 3D a luniwyd yma: https://skfb.ly/oyrDv

Wrth gwrs, mae ar longau angen seilwaith ar y lan i’w helpu i ddadlwytho nwyddau, neu i’w gwneud yn bosibl i’r nwyddau gael eu prosesu. Mae ein porthladdoedd modern, megis y storfeydd olew a nwy yn Aberdaugleddau, yn enghreifftiau mawr o seilwaith o’r fath. Ond o gwmpas ein harfordir i gyd mae olion archaeolegol seilwaith arfordirol llai o faint a oedd yn gwasanaethu llongau megis y rhai o Ynys-las. Ymhlith yr olion mwyaf cyffredin yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru y mae odynau calch arfordirol, yn enwedig ar hyd glannau’r gorllewin. Mae’r strwythurau hyn i’w gweld ym mron bob bae bach neu gilfach, ac maent yn bethau gweledol sy’n ein hatgoffa am y llongau a oedd yn eu gwasanaethu ar un adeg. Fel yn achos y llongddrylliadau yn Ynys-las, mae gwaith gan y Comisiwn Brenhinol i gofnodi’r strwythurau hyn ar gyfer y dyfodol hefyd yn ei gwneud yn bosibl iddynt gael eu harchwilio’n ddigidol. Un enghraifft o’r fath yw’r odyn galch yng Nghwmtydu yng Ngheredigion. Mae dolen gyswllt ar ei chyfer i’w chael yma: https://skfb.ly/oxMC9

Llun o Gwmtydu, Ceredigion o’r awyr. Gellir gweld yr odyn galch yng nghanol y gilfach, ychydig i mewn i’r tir o’r maes parcio modern.

Mae’r ffocws cynyddol ar yr angen i fabwysiadu ffurfiau adnewyddadwy ar ynni, dyheadau i gyrraedd sero net a phrosiectau mwyfwy hyfyw i ailgyflwyno llongau nwyddau a yrrir gan eu hwyliau’n cynnig posibiliadau cyffrous. Hwyrach nad yw’n gofyn gormod i ni edrych ymlaen at adeg pan fydd llongau arfordirol a yrrir gan y gwynt, gydag injan drydan gynorthwyol efallai i sicrhau dibynadwyedd, yn darparu ffordd dawel a dilygredd unwaith eto o gludo nwyddau ar hyd yr arfordir ac i fyny afonydd. Byddai cael llai o draffig ar y ffyrdd o ganlyniad i hynny, a gweld ailfuddsoddi’n digwydd mewn seilwaith arfordirol llai o faint, yn fanteision pellach. Efallai fod ‘technolegau newydd’ y Sefydliad Arforol Rhyngwladol, mewn cyd-destun arforol yn sicr, wedi bod gyda ni ar hyd yr amser, er iddynt fynd yn angof braidd, ac efallai eu bod yn disgwyl am gyfle i gael eu hadfywio yn yr 21ain ganrif.

Dr Julian Whitewright, Uwch Ymchwilydd (Arforol)

09/29/2022

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x