Gweddillion llongddrylliad y GUIDING STAR /The wreck remains of the GUIDING STAR

Diwrnod Cefnforoedd y Byd

Mae cefnforoedd a moroedd yn hollbwysig i iechyd a lles popeth ar y Ddaear. Maent yn cyfrannu llawer o fioamrywiaeth i’r byd naturiol, maent yn gallu darparu cyfleoedd i ni gael bwyd ac ynni ac maent yn cynnig lle i hamddena. Cydnabyddir bod cael cefnforoedd iach yn bwysig tu hwnt i ni i gyd, waeth ble’r ydym yn byw. Eto i gyd, cydnabyddir yn eang hefyd bod angen gwneud mwy o ymdrech i sicrhau nad yw ein moroedd a’n cefnforoedd yn parhau i gael eu hecsbloetio’n ormodol, eu llygru a’u niweidio gan weithgarwch pobl. Mae 8 Mehefin wedi’i bennu yn Ddiwrnod Cefnforoedd y Byd er mwyn ein hatgoffa o’r pethau hynny a chynnig ffocws i’r ymdrechion i wella ein dulliau gweithredu a’n gwaith cadwraeth yng nghyswllt cefnforoedd y byd.

Mae Diwrnod Cefnforoedd y Byd yn ceisio codi ymwybyddiaeth o gyflwr cefnforoedd y byd ac annog dulliau gwell o’u gwarchod er budd pob un ohonom.

Mae newidiadau i’r amgylchedd morol yn ein cefnforoedd a’n moroedd yn gallu cael effaith ar safleoedd archaeolegol hefyd; dan y dŵr, yn y parth rhynglanwol, ar ynysoedd ac mewn ardaloedd arfordirol. Mae’n anochel bod treftadaeth ddiwylliannol o’r fath, lle bynnag y bo, yn fregus yn wyneb gerwinder y môr. Yn wahanol i lawer o elfennau’r byd naturiol, mae terfyn ar dreftadaeth ddiwylliannol ac nid yw’n gallu ei hadnewyddu na’i hail-greu ei hun; mae dinistrio safle archaeolegol, neu gyfres o safleoedd, yn golygu ei golli neu’u colli am byth. At hynny, mae’r safleoedd hyn i gyd yn unigryw ac yn adlewyrchu’r unigolion a’r cymdeithasau a’u creodd yn wreiddiol. Mae’n hanfodol felly, wrth i ni ymdrechu i wella ein stiwardiaeth o gefnforoedd y byd, ein bod hefyd yn ystyried y dreftadaeth ddiwylliannol fregus a chyfyngedig sy’n bodoli ynddynt.

Mae’r newid yn yr hinsawdd yn amlygu natur fregus y dreftadaeth ddiwylliannol hon ymhellach. Gall newidiadau i lefelau PH cefnforoedd, a lefelau asidedd yn benodol, beri i longddrylliadau haearn ddirywio’n gynt. Gall moroedd cynhesach hwyluso mudo gan fywyd morol sy’n peri i longddrylliadau pren bydru. Mae gan y cynnydd yn amlder a difrifoldeb stormydd y potensial amlwg i achosi niwed i safleoedd tanfor mewn moroedd mwy bas, ac i ddod â safleoedd i’r golwg yn y parth rhynglanwol. Gall newidiadau i ddosbarthiad gwaddodion o ganlyniad i stormydd neu newid yn lefel y môr gael effaith bellach, er bod gweld rhai safleoedd yn cael eu claddu gan waddodion sy’n symud yn rhywbeth i’w groesawu at ei gilydd oherwydd bod hynny’n gwarchod y safle rhag dirywio ymhellach.

Nid mater hawdd yw deall y berthynas rhwng y prosesau hyn, a phrosesau eraill nad ydynt wedi’u rhestru uchod, a’u heffaith gyfun ar dreftadaeth ddiwylliannol. I ryw raddau, mae’n hawdd iawn anghofio safleoedd ar y môr a safleoedd tanddwr sydd o’r golwg, megis llongddrylliadau, ac mae hyd yn oed casglu’r holl wybodaeth sylfaenol yn llawn yn gallu bod yn anodd gan fod llawer o longddrylliadau heb eu hadnabod o hyd. Yn nes i’r lan ac ar hyd y glannau eu hunain, ceir cyfoeth o wahanol fathau o safleoedd archaeolegol, o goedwigoedd tanfor i longddrylliadau a cheyrydd pentir, mewn ystod o leoliadau: traethau tywod, clogwyni sy’n erydu, aberoedd, ac ati. Felly, gall y dulliau gweithredu sy’n ofynnol er mwyn deall safle amrywio o’r naill safle i’r llall ac o’r naill le i’r llall.

Gweddillion coedwig danfor gynhanesyddol yn Niwgwl, Sir Benfro (NPRN 544148). Daeth y goeden hir hon, a oedd yn 5.5m o hyd, a’r mawn o’i hamgylch i’r golwg rhwng mis Medi a mis Tachwedd 2021, ond fe’u claddwyd eto wedi hynny ar ôl i waddodion symud unwaith yn rhagor. Orthomosäig yw’r llun, a gynhyrchwyd gan gwmwl pwyntiau 3D, a gofnodwyd yn rhan o arolwg ffotogrametreg.

Yng Nghymru, mae’r Comisiwn Brenhinol yn bartner mewn dau brosiect o bwys – UnPath’d Waters a CHERISH – sy’n ceisio gwella ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth gyffredinol o safleoedd archaeolegol morol ar y naill law (UnPath’d Waters) a’n galluogi i sylweddoli’n well beth yw effaith y newid yn yr hinsawdd ar y cofnod archaeolegol ar y llaw arall (CHERISH).

Mae prosiect CHERISH yn bartneriaeth rhwng sefydliadau yng Nghymru ac Iwerddon, ac fe’i sefydlwyd yn wreiddiol yn 2017. Mae wedi bod yn canolbwyntio ar wella ein dealltwriaeth o effaith y newid yn yr hinsawdd ar dreftadaeth arfordirol. Erbyn hyn, mae prif waith maes y prosiect ar safleoedd astudio yng Nghymru ac Iwerddon wedi’i gwblhau ac mae’r ffocws bellach ar gynhyrchu cyfres o ‘ganllawiau ymarfer’ a fydd ar gael fel adnodd ar-lein. Bydd hynny’n sicrhau bod modd ailddefnyddio droeon ar safleoedd tebyg eraill y dulliau a ddatblygwyd, a brofwyd ac a fireiniwyd yn ystod y prosiect. Mae gwaith prosiect CHERISH wedi gwella ein dealltwriaeth o lawer o safleoedd archaeolegol Cymru sydd ar yr arfordir, neu yn y môr yn agos i’r arfordir, ac effaith y newid yn yr hinsawdd arnynt. Gwaddol y prosiect fydd sicrhau ei bod yn bosibl i safleoedd tebyg gael eu trin yn yr un ffordd a bod modd i’n dealltwriaeth ohonynt, ac o’r newid yn yr hinsawdd, wella yn unol â hynny.

Llongddrylliad tybiedig y WALPAS (NPRN 271668), a suddwyd yn 1918, ac a arolygwyd gan brosiect SEACAMS Prifysgol Bangor yn rhan o brosiect Llongau-U y Comisiwn Brenhinol.

Yn y cyfamser, mae UnPath’d Waters yn brosiect sy’n gweithredu ar draws y DU ac sy’n ceisio dwyn ynghyd y gwahanol setiau data sydd gan wahanol sefydliadau ar draws y DU, sy’n gysylltiedig â threftadaeth forol. Er enghraifft, gallai gwybodaeth gyffredinol am safle llongddrylliad oddi ar arfordir Cymru fod yn cael ei chadw yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru neu yn Swyddfa Hydrograffeg y Deyrnas Unedig. At hynny, gallai arolygon manwl o safle’r llongddrylliad fod wedi’u cynnal trwy waith megis prosiect SEACAMS2 Prifysgol Bangor (gweler y llun uchod, a gellir darllen mwy am y Walpas yma) neu sefydliadau fel y Gymdeithas Archaeoleg Forol. Mewn cyferbyniad, gallai cofnodion hanesyddol sy’n rhoi manylion am y llong wreiddiol, a’r modd y cafodd ei hadeiladu, ei defnyddio a’i cholli, fod wedi’u cofnodi gyda sefydliadau tebyg i Gofrestr Lloyds, Amgueddfa Forol Genedlaethol y DU, Greenwich neu mewn adroddiadau papurau newydd lleol. Felly, ceir nifer o fannau gwahanol lle gellir dod o hyd i wybodaeth am un llong. Yn ystod y tair blynedd nesaf, bydd y prosiect yn ei gwneud yn haws cael mynediad i nifer o ffynonellau gwahanol wrth ymdrin â safleoedd unigol neu grwpiau o safleoedd. Bydd hynny, yn ei dro, yn gwella ein dealltwriaeth gyffredinol o’r safleoedd archaeolegol sydd wedi eu darganfod, neu sydd eto i’w darganfod, o amgylch arfordir Cymru ac yn y môr ymhellach o’r lan.

Mae prosiectau fel CHERISH neu UnPath’d Waters yn wahanol iawn o ran eu dulliau gweithredu ond bwriad y naill a’r llall yw gwella ein gwerthfawrogiad, ein dealltwriaeth a’n mwynhad o’n treftadaeth ddiwylliannol forol. Ar adeg pan fo llawer o’r dreftadaeth honno’n cael ei bygwth gan ein hinsawdd sy’n newid, mae’r ddau brosiect yn rhai sy’n adlewyrchu nodau cyffredinol Diwrnod Cefnforoedd y Byd, sef dathlu a pharchu’r un cefnfor sy’n gyffredin i ni i gyd ac sy’n ein cysylltu ni i gyd â’n gilydd.

Gweddillion llongddrylliad y GUIDING STAR NPRN273020.

Dr Julian Whitewright

06/08/2022

guest
0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x