
Diwrnod Crefydd y Byd: 16 Ionawr 2022
Caiff Diwrnod Crefydd y Byd ei ddathlu ar y trydydd Sul ym mis Ionawr bob blwyddyn ac mae’n ein hatgoffa o’r angen am gytgord a dealltwriaeth rhwng crefyddau a systemau ffydd. Mae’r diwrnod hwn yn rhoi cyfle i bobl o wahanol grefyddau ddod ynghyd, gwrando ar ei gilydd, a dathlu’r gwahaniaethau a’r tebygrwydd rhyngddynt.
Mae Diwrnod Crefydd y Byd yn ymwneud â dealltwriaeth a goddefgarwch crefyddol. Yng Nghymru fe enillodd Protestaniaid y tu allan i’r Eglwys Anglicanaidd y rhyddid i addoli pan basiwyd Deddf Goddefiad 1689. Cafodd y rhyddid hwn ei fynegi hefyd yn yr adeiladau a godwyd ganddynt, rhagflaenwyr y capeli anghydffurfiol a ystyrir gan lawer heddiw yn bensaernïaeth genedlaethol Cymru. O blith y capeli a adeiladwyd yn sgil y Ddeddf Goddefiad, yr un cynharaf sydd wedi goroesi yw Maesyronnen, Capel yr Annibynwyr, sy’n dathlu ei ben-blwydd yn 325 oed eleni. Gellir dyddio’r capel hwn yn Sir Faesyfed yn ôl i 1697, sef y dyddiad y cafodd ei gofrestru yn y brawdlys fel addoldy o dan delerau’r Ddeddf.
Adeilad gwerinol sylweddol nad yw’n tynnu sylw ato’i hun yw Maesyronnen. Fe’i codwyd mewn lle diarffordd yn rhannol gan fod yr Annibynwyr anghydffurfiol yn frawdoliaeth gaeëdig ond hefyd oherwydd bod cymaint o ragfarn yn erbyn aelodau’r enwad a oedd yn cael eu hystyried yn ‘lladdwyr y brenin’ ar ôl dienyddiad Siarl I. Roedd troi ffermdy Maesyronnen yn gapel yn enghraifft o agwedd ‘bodloni a thrwsio’ y cyfnod a olygai fod adeiladau’n cael eu haddasu yn hytrach na’u dymchwel er mwyn codi adeilad newydd. Cafodd yr hen ffermdy ei ailgynllunio drwy greu drws canolog a chafodd y beudy sydd ynghlwm ei ailadeiladu’n llwyr fel capel. Mae cwpl bongam canoloesol i’w weld o hyd yn sownd yng nghefn y simnai rhwng y tŷ a’r capel. Er nad yw’r tŷ cwrdd yn arbennig o rwysgfawr, mae llawer o gelfi ac arteffactau o grefftwriaeth dda y tu mewn iddo, er enghraifft, y ffenestri myliynog â thransom uchel, y pulpud, y seddau caeëdig, a bwrdd y cymun.
Mae Maesyronnen, a adeiladwyd ym 1697, yn enghraifft gynnar o ‘oddefiad’, ond mae llawer gwahanol fath o adeilad crefyddol yng Nghymru heddiw sy’n cyfoethogi ein diwylliant cyfoes. Efallai y bydd gan ein darllenwyr ddiddordeb mewn blogiau diweddar a ysgrifennwyd gan Christopher Catling, ein Hysgrifennydd/Prif Weithredwr, ar Deml Shri Swaminarayan, Caerdydd, un o demlau Hindŵaidd harddaf y DU, Mosg Noor-ul-Islam, Maria Street, Tre-biwt, sef y mosg cyntaf i gael ei adeiladu yng Nghymru, yn ogystal â blog gan Susan Fielding ar y Synagog restredig Gradd II ym Merthyr Tudful: Cofnodi’r Synagog Olaf yn y Cymoedd.
Delweddau
Mae’r oriel hon o luniau yn dangos yr amrywiaeth wych o addoldai yn y Gymru gyfoes.










Gan Nicola Roberts, Rheolwr Cyfathrebiadau
01/16/2022