CBHC / RCAHMW > Newyddion > Diwrnod Eiddo Deallusol y Byd: 26 Ebrill 2018

Diwrnod Eiddo Deallusol y Byd: 26 Ebrill 2018

Natur Amlweddog Hawliau Eiddo Deallusol yn y Comisiwn Brenhinol

Gwaith Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yw creu, defnyddio a lledaenu gwybodaeth am dreftadaeth archaeolegol, adeiledig ac arforol Cymru. Mae’n gyfrifol am greu deunydd drwy ei raglenni cofnodi, am guraduro’r deunydd hwnnw a chofnodion eraill a roddwyd i’r Comisiwn sy’n cael eu storio yn ei archifau helaeth, ac am wneud y deunydd yn hygyrch drwy ei gyhoeddiadau, ar-lein, drwy ei wasanaeth ymholiadau ac yn ei ystafell ymchwil cyhoeddus. Fel y cyfryw, mae angen i’r sefydliad fod yn hollol gyfarwydd â phob agwedd ar hawliau eiddo deallusol ac ymgorffori hyn ym mhopeth mae’n ei wneud.

Mae archif y Comisiwn Brenhinol, Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC), yn fan adneuo cydnabyddedig. Ceir yma y casgliad cenedlaethol o wybodaeth am amgylchedd hanesyddol Cymru o’r adegau cynharaf hyd heddiw a chasgliadau o fwy na 2 filiwn o ffotograffau a miloedd lawer o luniadau, arolygon, adroddiadau, awyrluniau a mapiau. Caiff ei ddefnyddio gan unigolion, corfforaethau, y rheiny mewn llywodraeth sy’n gwneud penderfyniadau, ymchwilwyr, cymdeithasau arbenigol a’r cyfryngau at amrywiaeth fawr o ddibenion, gan gynnwys hanes teulu, anghydfodau dros derfynau, cyhoeddiadau, briffiau gwylio a materion cynllunio.

 

GTJ25698 Castell Crugerydd, NPRN 306085

GTJ25698 Castell Crugerydd, NPRN 306085

 

Mae gan y cofnodion a ddelir yn CHCC lawer gwahanol fath o hawlfraint. Mae’r deunydd a gynhyrchir yn fewnol, fel rhan o’n rhaglenni cofnodi, wedi’i ddiogelu gan Hawlfraint y Goron. Yn gyffredinol, mae Hawlfraint y Goron yn para am 50 mlynedd os yw gwaith wedi’i gyhoeddi ac am 125 o flynyddoedd os nad yw wedi’i gyhoeddi. Mae gan y Comisiwn Brenhinol awdurdod dirprwyedig gan Reolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi i weinyddu hawlfraint ar gyfer y deunydd hwn ar ran y Goron. Mae hyn yn golygu ein bod ni’n gallu codi tâl am ailddefnyddio ein cofnodion archifol ac yn gallu defnyddio ein cytundebau trwydded ein hunain i adlewyrchu statws gwerth ychwanegol y deunydd hwn. Serch hynny, mae’r Comisiwn yn parhau i ddarparu gwybodaeth an-archifol drwy’r Drwydded Llywodraeth Agored safonol.

 

FHA01/190/02 Blaenau o Fanod, Casgliad Falcon Hildred.

FHA01/190/02 Blaenau o Fanod, Casgliad Falcon Hildred.

 

Mae llawer o’r deunydd yn CHCC yn dod o ffynonellau allanol, hynny yw, mae wedi’i gasglu neu ei roi gan drydydd partïon. Mae gofyn i bobl sy’n dymuno rhoi deunydd lenwi ffurflen adneuo lle gofynnir iddynt amlinellu statws hawlfraint yr eitemau maen nhw am eu rhoi a nodi a ydynt am gadw’r hawlfraint, aseinio’r hawliau i’r Comisiwn neu ofyn i’r Comisiwn weinyddu’r hawliau ar eu rhan. Caiff y wybodaeth hon ei chofnodi yn ein cofrestr derbyniadau ac mae’n effeithio ar sut, ac os, gallwn ryddhau’r deunydd i’w ailddefnyddio. Ond gall fod yn anodd olrhain peth deunydd hanesyddol. Mewn achosion o’r fath, mae gofyn i’r sawl sy’n dymuno defnyddio’r deunydd ddangos ei fod wedi gwneud chwiliad gan ddefnyddio diwydrwydd dyladwy. Os nad yw deiliad yr hawliau yn hysbys neu os nad oes modd dod o hyd iddo bydd yr eitem yn dod yn ‘waith amddifad’ a gellir ceisio caniatâd i’w chopïo drwy Gynllun Gweithiau Amddifad y Swyddfa Eiddo Deallusol (https://www.gov.uk/guidance/copyright-orphan-works).

 

GTJ63756 Llun yn dangos y seremoni gosod carreg sylfaen, Cynllun Dŵr Cwm Elan. Casgliad Edward Hubbard 1898, NPRN 96459

GTJ63756 Llun yn dangos y seremoni gosod carreg sylfaen, Cynllun Dŵr Cwm Elan. Casgliad Edward Hubbard 1898, NPRN 96459

 

Mae’r gyfraith ynghylch hawliau eiddo deallusol (HED) yn gymhleth iawn a chaiff ei diweddaru’n aml fel bod modd ei chymhwyso at allbynnau a gynhyrchir gan dechnolegau a fformatau newydd. Mae’r Comisiwn yn adnabyddus am ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i gofnodi safleoedd ar draws Cymru ac am ei waith gyda phartneriaid ar brosiectau mawr. Felly mae angen ystyried HED ym mhob cam o’r prosiect, er mwyn cofnodi pethau fel: pa setiau data a gyfunwyd i gynhyrchu’r cynnyrch terfynol; pa feddalwedd fasnachol a ddefnyddiwyd; a yw contractwyr trydydd parti wedi cadw eu hawliau neu wedi’u trosglwyddo i ni fel rhan o’u contract. Felly, yn yr oes ddigidol hon, mae rôl amlweddog y Comisiwn Brenhinol fel corff sy’n creu, yn defnyddio ac yn lledaenu gwybodaeth yn golygu bod yn rhaid iddo fod yn fwy trefnus a thrylwyr byth wrth gofnodi pob agwedd ar HED.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch HED yn y Comisiwn Brenhinol neu unrhyw agwedd arall ar ein gwaith, mae croeso i chi gysylltu â ni yn chc.cymru@cbhc.gov.uk neu drwy ffonio 01970 621200. Gallwch ddefnyddio Coflein (www.coflein.gov.uk), ein cronfa ddata a chatalog ar-lein o safleoedd, i gyrchu ein casgliadau. Yma gallwch weld deunydd digidol-anedig a deunydd wedi’i rag-ddigido ac archebu copïau yn ôl y gofyn. Fel arall, mae croeso i chi ymweld â’n hystafell ymchwil i weld deunyddiau gwreiddiol a chyrchu’r ystod lawn o gofnodion. Rydym ar agor o Ddydd Llun hyd Ddydd Gwener, rhwng 9:30am a 4pm, ac ar Ddydd Mercher rhwng 10:30am a 4:30pm. Rydym yn edrych ymlaen at glywed gennych.

26/04/2018

Subscribe
Notify of
guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x