
Diwrnod Gyrfaoedd Treftadaeth yn y Comisiwn Brenhinol
Ar Ddydd Iau, 12 Mawrth, daeth myfyrwyr archaeoleg, hanes, daearyddiaeth a threftadaeth yn gyffredinol o bob rhan o Gymru i Ddiwrnod Gyrfaoedd Treftadaeth y Comisiwn Brenhinol a gynhaliwyd ar y cyd â’r prosiect Prydain Oddi Fry. Cafodd y myfyrwyr gyfle i wrando ar sgyrsiau gan archifydd y Comisiwn Brenhinol, Gareth Edwards, ac ymchwilydd o’r awyr y Comisiwn, Dr Toby Driver – dwy alwedigaeth wahanol iawn yn y sector treftadaeth! Cafwyd cyflwyniadau ar amrywiaeth eang o yrfaoedd arbenigol ym maes treftadaeth: prosiect cymunedol Prydain Oddi Fry, arolygu technegol, archaeoleg forol, lleoliadau archaeoleg gymunedol Cyngor Archaeoleg Prydain, Casgliad y Werin Cymru, mapio GIS a chyhoeddiadau treftadaeth. Roedd yr ymwelwyr hefyd yn gallu gweld adnoddau’r Cofnod Henebion Cenedlaethol a siarad â’n staff Gwasanaethau Darllenwyr. Fel y gwelwch o’r ffotograffau a’r sylwadau adborth, ysgogodd y diwrnod lawer o frwdfrydedd a diddordeb!
“Wedi dysgu llawer iawn heddiw a chael dysgu mwy am ddatblygiad lle dwi yn byw.” (Learned a lot today and have learned more about the development of where I live.)
“Diwrnod diddorol, wedi gwneud i mi feddwl am y swyddi i mi gael yn y dyfodol.”
(Interesting day, made me think about the jobs available for me in the future.)
“Very informative – thank you. Careers advice useful. Hopefully I will progress in this Heritage Sector.”
“I haven’t used the Royal Commission to its full advantage. I will recommend their facilities to other Aberystwyth students.”
“Britain from Above website helped me with an assignment. Very good day, informative and useful.”
“Very informative, particularly on the specifics of Lidar. Thank you.”
“Very informative & engaging. Thank you for such a great opportunity. Talks v. good.”







03/17/2014