
Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd a San Silyn
Roedd San Silyn yn un o seintiau mwyaf poblogaidd yr Oesoedd Canol a chaiff ei ystyried yn nawddsant pobl sy’n wynebu heriau o ran eu hiechyd, gan gynnwys pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl. Mae hanes San Silyn yn dangos ei fod yn feudwy, ac mai ei unig gwmni oedd carw coch. Dilynodd helwyr y carw un diwrnod, ond wrth geisio saethu’r carw cafodd Silyn ei daro gan y saeth drwy gamgymeriad. Ers hynny, caiff ei ystyried yn nawddsant pobl sy’n wynebu anfanteision. Heddiw mae Ymddiriedolaeth San Silyn yn Llundain yn gwneud llawer i gynnig cefnogaeth a chymorth i’r sawl sy’n dioddef anfanteision o ran eu cartref a’u hiechyd.
Cafodd cwlt San Silyn ei ledaenu’n eang ar draws Ewrop yn ystod yr Oesoedd Canol. Yng Nghymru, mae eglwys dref odidocaf y wlad wedi’i chysegru i Silyn. Caiff tŵr Eglwys San Silyn yn Wrecsam ei alw’n un o saith rhyfeddod Cymru mewn pennill Saesneg enwog a ysgrifennwyd ddiwedd y 18fed ganrif neu ddechrau’r 19eg ganrif, mae’n debyg, gan ymwelydd â gogledd Cymru:
Pistyll Rhaeadr and Wrexham steeple,
Snowdon’s mountain without its people,
Overton yew trees, St Winefride wells,
Llangollen bridge and Gresford bells.
Mae Eglwys San Silyn wedi goresgyn sawl rhwystr. Yn ystod y 14eg ganrif a’r 15fed ganrif, dymchwelodd y tŵr a chafodd corff yr eglwys ei ddinistrio gan dân. Cafodd yr eglwys ei hailadeiladu tua’r flwyddyn 1500 a chaiff ei hystyried yn gampwaith. Roedd y tŵr yn brosiect arbennig o uchelgeisiol. Mae’n rhyw 135 troedfedd o uchder ac mae wedi’i addurno â llawer o gerfiadau, gan gynnwys rhai o saeth a charw San Silyn.
Llwyddodd yr eglwys i oroesi’r Diwygiad a Rhyfel Cartref ac mae’n dal yn lle bendigedig i fyfyrio ynddo. Mae gan yr eglwys gysylltiadau niferus â’r Oesoedd Canol ac mae ymwelwyr yn mynd yno i weld y to a’r portreadau enwog o gerddorion angylaidd, y murluniau a’r cerfiadau o garreg ac o bren. Dywedir bod y cerfiad hardd o’r fôr-forwyn â chrib a drych yn symbol o lwc dda. Bydd llawer o bobl yn dod, yn syml iawn, i fwynhau’r llonyddwch sydd yn yr adeilad bendigedig hwn sydd wedi goroesi llawer o helyntion.




10/10/2022