Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2018: Cyfarfod â’n Comisiynwyr benyw

I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched eleni, hoffem eich cyflwyno i’n Comisiynwyr benyw.

Penodir y Comisiynwyr i Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru gan Ei Mawrhydi y Frenhines ar sail cyngor Llywodraeth Cymru ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru o dan Warant Frenhinol a adnewyddwyd ddiwethaf yn 2000. Fe’u penodir am gyfnod o bum mlynedd, y gellir ei estyn (yn amodol ar adolygiad boddhaol) i gyfnod o 10 mlynedd ar y mwyaf.

Mae Comisiynwyr yn darparu arweiniad a dull llywodraethu i’r sefydliad, ac yn craffu ar bob un o weithgareddau’r Comisiwn Brenhinol, yn ogystal â herio’r gweithgareddau hynny’n adeiladol. Mae ganddynt brofiad helaeth yn yr amrywiol feysydd a gaiff sylw staff y Comisiwn Brenhinol, ac fe gynigiant arweiniad a chymorth arbenigol i’r staff hynny.

Mae Bwrdd y Comisiynwyr yn cynnwys Cadeirydd a hyd at ddeg Comisiynydd arall. Ar hyn o bryd y mae naw Comisiynydd (gan gynnwys y Cadeirydd), y mae traean ohonynt yn fenywod. Er nad yw hyn yn cyrraedd ein targed o 40% (yn unol â tharged Llywodraeth Cymru ar gyfer menywod mewn swyddi cyhoeddus), rhagwelwn y byddwn yn cyrraedd y targed hwn yn y ddwy rownd recriwtio nesaf.

 

Ms Catherine Hardman, BA, MA, FSA

 

Ms Catherine Hardman, BA, MA, FSA

Bu gan Catherine ddiddordeb mewn hanes ac archaeoleg erioed, felly ar ôl gyrfa gynnar yn y Gwasanaeth Sifil Cartref, yn gwasanaethu yn Whitehall gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn, ac yn Belfast gyda Swyddfa Gogledd Iwerddon, dychwelodd Catherine i’r brifysgol i astudio archaeoleg o ddifrif. Bu’r amser a dreuliodd Catherine yn astudio ym mhrifysgolion Bradford ac Efrog o gymorth i feithrin ei diddordeb mewn materion rheoli treftadaeth ac fe ymunodd â’r Gwasanaeth Data Archaeolegol, yn Adran Archaeoleg Prifysgol Efrog, yn 2001. Fel Dirprwy Gyfarwyddwr y Gwasanaeth, chwaraeodd ran flaenllaw mewn trafodaethau ar gyrchu archifau wedi’u gwarchod ac ar feithrin cysylltiadau â ffocws DU.

Dychwelodd Catherine i Whitehall yn 2015, ar ôl cael ei phenodi’n Bennaeth Cadwraeth a Mynediad yn yr Archifau Seneddol yn Nhŷ’r Arglwyddi, lle y bu’n gyfrifol am oruchwylio tîm sy’n rheoli cadwraeth ddigidol, gofalu am gasgliadau a chatalogio. Ar ôl tair blynedd hynod ddiddorol, dychwelodd yn 2018 i’r sector academaidd i weithio fel Rheolwr Datblygu Ymchwil Cyfadran y Celfyddydau a’r Dyniaethau ym Mhrifysgol Efrog.

Daeth Catherine yn Gomisiynydd ym mis Mai 2010 a hi yw’r Is-Gadeirydd. Mae’n aelod o’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ac yn Gadeirydd Pwyllgor Gwasanaethau Cyhoeddus y Comisiwn. Bydd hi’n gweithio gyda staff y Comisiwn i wella’r ddarpariaeth archifo digidol ar gyfer y sector yng Nghymru ac i dynnu sylw at weithgareddau a thueddiadau cyfredol ym maes cadwraeth ddigidol ar hyd a lled y DU a chyfleoedd i sicrhau cyllid ar gyfer gwaith ymchwil.

 

Mrs Caroline Crewe-Read, BA, MPhil, FRSA, MAPM

 

Mrs Caroline Crewe-Read, BA, MPhil, FRSA, MAPM

Darllenodd Caroline Hanes ym Mhrifysgol Bryste, gan arbenigo mewn crefyddau paganaidd Prydain Fore. Ar ôl gweithio am bum mlynedd i Accenture, cwmni blaenllaw o ymgynghorwyr rheoli, dychwelodd Caroline i’r byd academaidd, gan ennill Clod am ei M.Phil mewn Rheoli Treftadaeth Archaeolegol ym Mhrifysgol Caergrawnt. Dechreuodd ei gyrfa codi arian yn fuan wedyn, ac arweiniodd hyn yn y man at dderbyn swydd yng Nghomisiwn Adeiladau Hanesyddol a Henebion Lloegr, neu English Heritage fel y’i gelwid bryd hynny.

Yn ystod y pymtheng mlynedd ddiwethaf mae Caroline wedi gweithio mewn amrywiaeth o rolau ac wedi arwain nifer o brosiectau corfforaethol allweddol i’r sefydliad. Y prosiect mwyaf nodedig o blith y rhain oedd sefydlu’r ‘model newydd’ a rannodd y sefydliad yn ddwy: Historic England, y corff cyhoeddus sy’n gofalu am amgylchedd hanesyddol Lloegr, a’r English Heritage Trust, elusen newydd wedi’i thrwyddedu i ofalu am fwy na 400 o safleoedd hanesyddol a’u hagor i’r cyhoedd. Ers cwblhau’r rhannu mae Caroline wedi parhau i weithio i Historic England ac ar hyn o bryd mae hi’n arwain tîm bach sy’n canolbwyntio ar feithrin perthnasoedd gydag unigolion, ymddiriedolaethau, sefydliadau a chwmnïau er mwyn cael y gefnogaeth sydd ei hangen i alluogi’r sefydliad i gyflawni ei amcanion.

Cafodd Caroline ei phenodi’n Gomisiynydd yn 2016. Yn ogystal â record dda o gyflawni ym maes rheoli newid strategol a phroffil-uchel mae hi’n dod â chryn brofiad o godi arian a llywodraethu corfforaethol i’r Comisiwn. Mae hi’n byw yn Nhrefynwy.

 

Dr Louise Emanuel, MA, MSc, PhD, PGCODE

 

Dr Louise Emanuel, MA, MSc, PhD, PGCODE

Ar ôl graddio mewn Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Rhydychen, bu Louise yn astudio ar gyfer MSc mewn Datblygu Rhanbarthol ym Mhrifysgol Caerdydd. Thema gyffredin yn ei holl waith yw ei diddordeb mewn lleoedd, eu datblygiad hanesyddol, a’r ffordd y bydd unigolion a chymunedau yn ymgysylltu â’r mannau y maen nhw’n byw, gweithio a dysgu ynddyn nhw ac yn ymweld â nhw. Arweiniodd y diddordeb hwn mewn ‘lle’ at ei hymchwil ar gyfer ei PhD i’r berthynas rhwng canfyddiadau lle a datblygu economaidd.

Ar ddiwedd y 1990au bu Louise yn gweithio gyda chymunedau yn Sir Gâr, ei sir enedigol, i astudio a dehongli treftadaeth gymunedol. Ers 1999 bu’n ddarlithydd yn y sefydliad a elwir bellach yn Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant lle y mae hi wedi llunio rhaglenni ym meysydd treftadaeth, twristiaeth a busnes cynaliadwy, yn ogystal â datblygu a rheoli sawl prosiect treftadaeth a ariannwyd gan yr UE.

Cafodd Louise ei phenodi’n Gomisiynydd yn 2017.

#DiwrnodRhyngwladolyMerched

 

Byddwn cyn bo hir yn recriwtio dau Gomisiynydd newydd a Chadeirydd newydd. Os hoffech gael gwybod am ddatblygiadau pellach, anfonwch e-bost i chc.cymru@cbhc.gov.uk

03/08/2018

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x