Sarahjayne talking with community members about pictures in our archive.

Diwrnod Treftadaeth Cymunedol y Borth – Llwyddiant Ysgubol

Codwyd y llenni ar fywyd yn y gorffennol yn ystod diwrnod treftadaeth cymunedol y Borth yr wythnos ddiwethaf a drefnwyd gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

Sarahjayne yn sgwrsio ag aelodau’r gymuned am y lluniau yn ein harchif.
Sarahjayne yn sgwrsio ag aelodau’r gymuned am y lluniau yn ein harchif.

Roedd y trefnwyr, yr archaeolegwyr cymunedol Kimberly Briscoe a Sarahjayne Clements, yn eithriadol o falch bod y digwyddiad mor boblogaidd a bod cyfoeth o wybodaeth newydd wedi dod i’r golwg.

Meddai Sarahjayne, ‘Fe wnaethon ni ofyn i bobl ddod ag unrhyw ffotograffau, gwybodaeth neu atgofion oedd ganddyn nhw am y Borth. Hefyd fe roddwyd gwahoddiad i’r trigolion edrych ar y ffotograffau, mapiau a chofnodion sydd eisoes yn archif y Comisiwn, ac ysgogodd hyn nifer o atgofion. Fe ddaeth llawer o bobl i’r digwyddiad, ac roedd ganddyn nhw amrywiaeth o eitemau, o fedalau rhyfel i lun o Concorde yn hedfan dros y gofgolofn ryfel. Roedd ’na lawer o luniau teulu a rhai o adeiladau yn y Borth.’

Dywedodd Kimberly, ‘Fe ddaeth llawer o bobl i rannu eu hatgofion am orffennol y Borth. Roedden nhw wrth eu bodd yn dweud wrthyn ni am hanes y pentref, gan gynnwys lleoliadau siopau a banciau, sut beth oedd bywyd ysgol, a sut byddai teulu un wraig yn mynd â’u carpedi i’w sychu yn y neuadd ar ôl tywydd mawr.’

Dywedodd Kimberly a Sarahjayne yr hoffent ddiolch i’r holl drigolion a oedd wedi dod i rannu eu gwybodaeth. Defnyddir y wybodaeth newydd i ddiweddaru’r cofnodion ar Coflein (cronfa ddata ar-lein y Comisiwn Brenhinol) a chaiff ei hychwanegu at Gasgliad y Werin Cymru.

Bydd Kimberly a Sarahjayne yn cynnal rhagor o ddigwyddiadau hyd at fis Awst. Mae teithiau tywys wedi’u cynllunio eisoes ar gyfer mis Gorffennaf i gyd-fynd â Gŵyl Archaeoleg Prydain, a byddant yn dod i Garnifal y Borth ym mis Awst.

Os hoffech ymuno yn y digwyddiadau, neu os oes gennych wybodaeth i’w rhannu, gallwch gysylltu â hwy yn sarahjayne.clements@cbhc.gov.uk neu kimberly.briscoe@cbhc.gov.uk, neu gallwch chwilio am ‘The Coastal Heritage of Borth and Ynyslas’ ar Facebook.

Kimberly yn egluro am y cynlluniau cyrchfan a fethwyd yn Ynyslas.
Kimberly yn egluro am y cynlluniau cyrchfan a fethwyd yn Ynyslas.

02/28/2014

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x