
‘Diwrnod Treftadaeth Gymreig’ y Gymdeithas Fictoraidd
‘Diwrnod Treftadaeth Gymreig’ y Gymdeithas Fictoraidd
Neuadd y Ddinas, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3ND
3 Medi, 10am – 3.30pm

Yn rhy aml o lawer, nid yw treftadaeth Fictoraidd yn cael ei gwerthfawrogi ddigon ac mae’n mynd yn angof ac yn dirywio. Bydd y digwyddiad hwn yn dwyn ynghyd arbenigwyr ar gapeli, theatrau, sefydliadau glowyr, plastai, archaeoleg ddiwydiannol a mwy. Bydd yr anerchiadau’n cynnwys y canlynol:
- ‘Welsh Nonconformist Chapels: a national architecture at threat’ gan Susan Fielding o’r Comisiwn Brenhinol
- ‘Victorian Powerhouse: an introduction to industrial Wales and its architectural legacy’ gan Dr Peter Wakelin, cyn-ysgrifennydd y Comisiwn Brenhinol
- ‘Victorian and Edwardian Cardiff’ gan Matthew Williams
- ‘Theatres, miners’ institutes and performance places’ gan Rob Firman
- Griff Rhys Jones, yr hyrwyddwr treftadaeth, yn sgwrsio â Dr Greg Stevenson am ei siwrnai bersonol
- ‘Campaigning for Victorian and Edwardian architecture in Wales: recent casework’ gan Connor McNeill
- ‘Roofing the World: slate landscape of north-west Wales & UNESCO World Heritage Site’ gan Dr David Gwyn, awdur llyfr y Comisiwn Brenhinol, Llechi Cymru
- ‘Reimagining Cyfarthfa: a green vision for Merthyr Tydfil’ gan Geraint Talfan Davies
- ‘Saving “I’m a Celebrity” Gwrych Castle’ gan Mark Baker
Bydd y diwrnod yn cynnwys paneidiau a chinio, pan fydd modd i chi gwrdd â chynghorwyr cadwraeth y Gymdeithas Fictoraidd yng Nghymru, sef Connor McNeill a Tom Taylor. Byddant yn esbonio sut y gall y Gymdeithas Fictoraidd eich helpu i achub eich adeiladau lleol rhag cael eu dymchwel, eu hailddatblygu’n amhriodol neu hyd yn oed eu hesgeuluso. Bydd cyfle i chi grwydro o gwmpas stondinau sefydliadau treftadaeth a chwrdd â phobl eraill sy’n arbenigo ac yn gwirioni ar dreftadaeth a hanes Cymru.
Yn dilyn yr anerchiadau ysbrydoledig, bydd nifer gyfyngedig o leoedd ar gael ar daith gerdded i weld rhai o adeiladau Fictoraidd ac Edwardaidd gorau Caerdydd o 3.30 tan 5pm.
Tocynnau
Mae’r tocynnau yn costio £13.50 (mae’r pris yn cynnwys cinio a phaneidiau). I gael gwybod mwy a chadw eich lle, ewch i:
https://www.eventbrite.co.uk/e/welsh-heritage-day-tickets-349512440117
08/17/2022