Cerflun o Gyfiawnder yn y portico. / Sculpture of Justice within the portico.

Diwrnod Treftadaeth y Byd: Rhyfel a Heddwch

Mae heddiw’n Ddiwrnod Treftadaeth y Byd UNESCO. Mae hefyd yn wythfed wythnos y gwrthdaro yn Wcráin. Mewn rhyfel, mae treftadaeth yn cael ei difrodi ac weithiau’n cael ei dileu yn gyfan gwbl. Gellir tybio y bydd llawer o henebion hanesyddol Wcráin yn y mannau lle mae’r rhyfel yn digwydd wedi’u difrodi, ac na fydd modd eu hatgyweirio efallai, er enghraifft yn ninas Mariupol lle nad oes dim byd ond rwbel ar ôl. Gall colli henebion hanesyddol fod yn ergyd enfawr ond gall ailgodi adeiladau a ddifrodwyd fod yn ffordd o fynegi gobaith am heddwch a fydd yn parhau. Yn ninas Mostar yn Bosnia a Herzegovina, cafodd yr hen bont a oedd yn croesi’r afon rhwng dwy ran y ddinas ei dinistrio ar 9 Tachwedd 1993. Yn dilyn hynny cafodd prosiect ei lansio i’w hailadeiladu, a chafodd y bont a ailadeiladwyd ei hagor ar 23 Gorffennaf 2004 fel symbol o heddwch, gobaith a chymod.

1.	Tu mewn trawiadol neuadd y Deml Heddwch ac Iechyd.
Tu mewn trawiadol neuadd y Deml Heddwch ac Iechyd.

Yng Nghymru mae yna adeilad anghyfarwydd ond hyfryd sydd wedi’i gysegru i’r syniad o heddwch. Yr adeilad dan sylw yw’r Deml Heddwch ac Iechyd ym Mharc Cathays, Caerdydd. Roedd yr adeilad yn ffrwyth gweledigaeth yr Arglwydd Davies o Landinam, a oedd yn wleidydd, yn ddiwydiannwr ac yn filwr yn y Rhyfel Mawr. Cafodd y Deml ei chysegru i goffáu’r rheini a fu farw yn y Rhyfel Mawr, ond roedd ganddi ddiben ymarferol hefyd, sef hyrwyddo heddwch ac iechyd. 

Blaenlun y Deml Heddwch ac Iechyd a’r portico.
Blaenlun y Deml Heddwch ac Iechyd a’r portico.

Cafodd yr adeilad siâp T neo-Sioraidd ei ddylunio gan y pensaer o Gymru, Syr Percy Thomas, a chafodd ei gwblhau ar drothwy’r Ail Ryfel Byd. Mae portico, lle mae paneli cerfiedig sy’n cynrychioli llewyrch a chyfiawnder yn cael cysgod, yn arwain at y neuadd ganolog uchel sy’n olau iawn ac sy’n cynnwys pileri o farmor du a nenfwd lliw wedi’i rannu yn baneli. Dan y deml y mae’r crypt sy’n cofio mewn llyfr coffáu cenedlaethol am y rheini a fu farw mewn rhyfel. Bob ochr i’r neuadd mae yna swyddfeydd mewn esgyll sydd â mwy nag un llawr. Heddiw, Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru sy’n gofalu am yr adeilad ac mae’n gweithio gyda chymunedau yng Nghymru i hyrwyddo camau gweithredu a gwaith dysgu er mwyn sicrhau datblygiad a heddwch rhyngwladol.

Cerflun o Gyfiawnder yn y portico.
Cerflun o Gyfiawnder yn y portico.

https://coflein.gov.uk/cy/safle/11820/

Gan Richard Suggett, Uwch-ymchwilydd

04/18/2022

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x