
Diwrnod VE – lluniau arbennig o ddiwedd yr Ail Ryfel Byd
Ar 8 Mai 1945 fe ddaeth yr Ail Ryfel Byd i ben yn Ewrop. Amser ar gyfer dathlu oedd Diwrnod VE. Ers 1939 roedd Prydain wedi bod yn gaer rhag y gelyn. Mewn amser cymharol fyr, roedd wedi’i gweddnewid yn wersyll milwrol anferth i bob pwrpas. Yn awr roedd yn rhaid wynebu cyfnod arall o newid mawr. Dychwelodd llawer o’r dynion a menywod a oedd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog i’w bywydau bob dydd.
Ond roedd peirianwaith y rhyfel – awyrennau, llongau, meysydd awyr, gwersylloedd ac ati – yno o hyd, ac roedd angen gwneud rhywbeth am yr holl weddillion hyn.
Llongau nad oedd eu hangen mwyach ger Trwyn Pennar

Mae’r awyrlun hwn, a dynnwyd gan y Llu Awyr Brenhinol uwchben Trwyn Pennar, Sir Benfro yn SM9402 (NPRN: 90546), yn dangos bron 40 o longau nad oedd eu hangen mwyach a gawsai eu rhedeg yn fwriadol i’r lan. Gellir gweld dŵr a oedd yn llifo o Goldborough Pill yn ymddolennu ar waelod y llun. Mae olion sgriwiau gyrru a llywiau’r llongau i’w gweld, a hefyd y mannau lle roedd y llongau wedi suddo ar y llaid adeg llanw isel. Mae’n ymddangos iddynt gael eu sgrapio yn Nociau’r Barri.
Awyrennau nad oedd eu hangen mwyach yn RAF Llandow

Yn y llun hwn o RAF Llandow a dynnwyd gan y Llu Awyr Brenhinol fe welwch amrywiaeth o awyrennau dros ben yn aros i gael eu dinistrio. Mae Nash Manor ar ben y ffrâm yn y canol.
Awyrennau yn RAF Valley yn aros i ddychwelyd i UDA

Yn ogystal â’i rôl weithredol yn yr Ail Ryfel Byd, câi maes awyr RAF Valley, Môn, ei ddefnyddio’n ganolfan ar gyfer anfon awyrennau bomio yn ôl i UDA. Mae’r llun hwn o 1945 yn dangos rhai o’r 2,600 o awyrennau a baratowyd ar gyfer eu taith yn ôl.
Amddiffynfeydd rhag y gelyn yn Rhydlewis
1. Amddiffynfeydd rhag y gelyn yn Rhydlewis 2. Amddiffynfeydd rhag y gelyn yn Rhydlewis
Ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd, pan ymddangosai’n anochel y byddai’r gelyn yn ceisio goresgyn Prydain, cafodd cyfresi o linellau-atal, wedi’u cefnogi gan gaerau tanddaearol a ffosydd, eu hadeiladu ar draws Prydain. Ar ôl i’r bygythiad ddiflannu, cawsant eu hôl-lenwi, ac roedd yn llawer haws eu gweld o’r awyr. Dangosir yma ran o’r llinell rhwng Rhos a Llangeler, ychydig i’r gogledd o Rydlewis. Os yw’r amodau tywydd yn iawn, gellir gweld yr olion heddiw.
Gwersyll Carcharorion Rhyfel Island Farm

Ar ôl y rhyfel fe roddwyd bywyd newydd i hen sefydliadau milwrol drwy eu troi’n ystadau diwydiannol neu gyfleusterau hamdden; daeth rhai o feysydd awyr y Llu Awyr Brenhinol yn feysydd awyr sifil. Mae’r ffotograff yn dangos Island Farm ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Cawsai ei hadeiladu’n wreiddiol i ddarparu llety ar gyfer y gweithwyr ar y safle ROF yn Waterton gerllaw. Ond roedd yr amodau yno’n wael. Cafodd y safle ei feddiannu gan fyddin yr Unol Daleithiau nes iddynt adael i gymryd rhan yn y glaniadau D-Day. Yna fe drowyd Island Farm yn wersyll ar gyfer carcharorion rhyfel – Gwersyll 198. Ym mis Mawrth 1945 fe ddihangodd 66 o ddynion drwy ddau dwnnel. Cawsant i gyd eu dal yn weddol gyflym. Mae’r safle wedi’i ddymchwel, heblaw am Gwt 9 lle cafodd y twneli eu cloddio.
Medwyn Parry
05/07/2020