
Dod o hyd i fedd John Myers, llongwr o Orllewin Affrica, 105 mlynedd ar ôl ei farwolaeth
Dod o hyd i fedd John Myers, llongwr o Orllewin Affrica, 105 mlynedd ar ôl ei farwolaeth
Mae Simon Hancock, curadur Amgueddfa y Dref, Hwlffordd (un o bartneriaid Prosiect Llongau-U y Rhyfel Byd Cyntaf a arweiniwyd gan y Comisiwn Brenhinol) wedi cysylltu â ni i roi’r newyddion syfrdanol ei fod wedi dod o hyd i fedd coll John Myers (neu Meyers), llongwr o Nigeria a foddwyd pan suddwyd yr SS Falaba oddi ar arfordir Penfro ym mis Mawrth 1915.

Criwiau o longwyr croenddu a suddo’r Falaba
Yn 2016 ysgrifenasom flog yn disgrifio suddo’r deithlong SS Falaba ym 1915 pan gollwyd 104 o fywydau. Ymchwiliwyd i’r ffaith led anhysbys fod llawer o aelodau’r criwiau ar longau masnach yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn ddu eu croen ac yn dod o drefedigaethau Prydain bryd hynny. Gan fod y rhan fwyaf ohonynt yn gweithio yn ystafelloedd injan y llongau, sef y man mwyaf peryglus pe bai llong yn cael ei tharo gan dorpido, fe gafodd llawer ohonynt eu lladd.

Y cwêst
Yn y cwêst i’r marwolaethau yn dilyn suddo’r Falaba, cafodd corff John Myers ei adnabod gan John Thomas, cyd-aelod o’r criw a oedd hefyd yn hanu o Nigeria, a chafodd ei gladdu ym mynwent Aberdaugleddau.
Er chwilio’n ddyfal am ei fedd, methodd y tîm llongau-U â dod o hyd iddo.
Yn y ffotograff isod dangosir yr aelodau criw a oedd wedi goroesi ar ôl i deithlong arall, yr SS Apapa, gael ei suddo gan long-U ddwy flynedd yn ddiweddarach. Fe foddodd John Thomas, y llongwr a oedd wedi goroesi suddo’r Falaba ac wedi adnabod corff John Myers, ar y llong hon ac mae wedi’i gladdu mewn mynwent ym Mangor. Gosododd Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad garreg fedd i nodi ei fan gorffwys.



Apêl i godi cofeb i John Myers
‘Gobeithir codi digon o arian i brynu carreg fedd a’r tir lle mae’r bedd. Os bydd unrhyw arian ar ôl fe’i defnyddir i adnabod pobl groenddu eraill sydd â chysylltiad â sir Benfro ac i ymchwilio i’w bywydau.’
Mae Simon Hancock, a ddaeth o hyd i’r man lle claddwyd John Myers (gweler y llun), ac sydd wedi gwneud ymchwil i longwyr croenddu a llongwyr ethnig lleiafrifol ar y llongau a ddeuai i Gymru, wedi dechrau tudalen Just Giving i geisio rhoddion. Dywed Simon: ‘Gobeithir codi digon o arian i brynu carreg fedd a’r tir lle mae’r bedd. Os bydd unrhyw arian ar ôl fe’i defnyddir i adnabod pobl groenddu eraill sydd â chysylltiad â sir Benfro ac i ymchwilio i’w bywydau.’
Rhai ffeithiau
- Y colledion: yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf fe gollodd cwmni Elder Dempster 42 long i ymosodiadau gan longau-U yr Almaen a lladdwyd 420 o’u gweithwyr; llongwyr croenddu oedd tua thraean (140) o’r rhain. Cofnodwyd eu henwau ar restr gwroniaid Elder Dempster.
- Terfysgoedd hil: dechreuodd porthladdoeddd Lerpwl a Chaerdydd ddirywio ar ôl y rhyfel a chynyddodd diweithdra ymhlith y morwyr, gan arwain at derfysgoedd hil. Cafodd tua 2,000 o longwyr croenddu eu hanfon yn ôl i’w gwledydd rhwng 1919 a’r 1920au cynnar mewn ymdrech i dawelu’r gwrthdaro, er i lawer o rai eraill a oedd yn magu teuluoedd aros ym Mhrydain.
- Llongwyr croenddu: Nid oedd llongwyr masnach o Affrica a fu’n gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn cael eu cydnabod yn ddinasyddion Prydeinig ac nid oedd eu teuluoedd yn gallu hawlio iawndal pe caent eu lladd. Collwyd cryn nifer ohonynt, a’r unig gydnabyddiaeth a gafodd y mwyafrif oedd enw ar Gofeb Tower Hill sy’n coffáu dynion a menywod y Llynges Fasnach a’r Llyngesau Pysgota a fu farw yn y ddau Ryfel Byd ac nad oes ganddynt fedd ond y môr.
- Blodau ar y bedd: mewn adroddiad papur newydd ar ddathliadau’r Ymerodraeth ym Mangor ym mis Mai 1919, nodir i aelodau eglwys y Santes Fair roi blodau ar feddau dau ddyn croenddu o Upper Warwick street, Lerpwl, a laddwyd pan suddwyd yr Apapa.
- Dirgelwch y canŵ: yr eitem fwyaf yn Amgueddfa Forwrol Llŷn yn Nefyn yw ceufad wedi’i wneud o foncyff. Yn sgil gwaith ymchwil diweddar, daethpwyd i’r casgliad ei fod yn dyddio o ddechrau’r ugeinfed ganrif a’i fod o bosibl yn un o’r canŵs a ddefnyddid gan longwyr o Orllewin Affrica i fynd ar fwrdd llongau Elder Dempster a oedd yn aros oddi ar arfordir Gorllewin Affrica. Byddid yn mynd â’r canŵs hyn ar fwrdd y llong ac yna’n eu taflu dros yr ochr cyn docio yn Lerpwl. Daethpwyd o hyd i ganŵ Nefyn yng Nghaernarfon ac mae ei hanes wedi bod yn ddirgelwch hyd yma.
Darganfyddwch fwy:
- Darllenwch stori Jabez Massaquoi, un o oroeswyr y Falaba, a oedd hefyd yn hanu o Orllewin Affrica, a ymgartrefodd yn Stoke ac a holwyd yno ym 1967.
- Dropping Anchor, Setting Sail: Geographies of Race in Black Liverpool gan Jacqueline Nassy Brown
- Black Salt: Seafarers of African Descent on British Ships gan Ray Costello
- Black Poppies: Britain’s Black Community and the Great War gan Stephen Bourne
- Pecyn offer wedi ei greu gan y Prosiect Llongau-U i helpu pobl i ymchwilio i’r rheiny a fu’n gwasanaethu ar longau yn y Rhyfel Byd Cyntaf
- Llongwyr CALlE/BAME yng Nghymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ar wefan Casgliad y Werin Cymru
MisHanesPoblGroenddu: Coffáu Llongwyr Masnach o Orllewin Affrica yn y Rhyfel Byd Cyntaf
Helen Rowe, Swyddog Gwybodaeth
21/10/2020