
Drôn y Prosiect CHERISH yn esgyn i’r entrychion!

Dan yn yr Academi Awyrennau Di-beilot, 2017.
Hoffem longyfarch Dan Hunt, ein Hymchwilydd CHERISH yng Nghomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, ar ennill caniatâd i gynnal gweithrediadau drôn masnachol (PfCO) gan yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) yn ddiweddar. Mae hyn yn caniatáu i Dan hedfan drôn CHERISH (drôn DJI Phantom 4 pro) yn gyfreithlon ac yn ddiogel o dan Orchymyn Llywio Awyr 2016, ac i gynnal arolygon o safleoedd blaenoriaethol ar hyd yr arfordir.
Mae yna nifer o leoliadau a safleoedd ar hyd arfordir Cymru na ellir defnyddio drôn i’w harolygu oni bai bod gan y peilot PfCO ac yswiriant dilys. Yn awr bod Dan wedi ennill y cymhwyster hwn, gall drôn CHERISH gael ei ddefnyddio i gynnal arolygon ffotogrametrig dwys o safleoedd treftadaeth arfordirol sy’n erydu. Gellir defnyddio’r arolygon hyn wedyn i adeiladu modelau 3D, a fydd yn sail ar gyfer monitro newidiadau yn y tymor hir. Bydd modd defnyddio’r drôn hefyd i dynnu lluniau o rannau o safleoedd sy’n erydu a all fod yn rhy beryglus i fynd atynt ar droed, neu hyd yn oed i arolygu staciau alltraeth anhygyrch – ar yr amod nad yw hyn yn amharu ar fywyd gwyllt ac adar sy’n nythu.
Mae cael caniatâd y CAA yn dipyn o gamp. Cwblhaodd Dan ysgol 2 ddiwrnod gyda’r Academi Awyrennau Di-beilot ym Maes Awyr Cotswold ac yna pasiodd brawf hedfan trylwyr ar fore barugog ym mis Ionawr mewn cae yn Swydd Wilts a oedd yn cynnwys rheolaeth yn yr awyr, gweithdrefnau argyfwng a chwestiynu caled ar y Llawlyfr Gweithrediadau. Da iawn Dan!

Dan yn pasio ei arholiad ymarferol ar ddefnyddio dronau, gyda Jan, arholwr yr Academi Awyrennau Di-beilot, 2018.

Arholiad ymarferol Dan ar ddefnyddio dronau, ar fore barugog ym mis Ionawr 2018 yn Swydd Wilts.

Dan yn llywio drôn CHERISH ym Mhen Dinas, Aberystwyth.

Awyrlun o Gofeb Wellington, Pen Dinas, Aberystwyth a dynnwyd gan ddrôn CHERISH.
Cysylltau:
Gellir gweld lluniau trawiadol a dynnwyd gan ddrôn CHERISH o fryngaer Pen Dinas yn Aberystwyth, ac o Gofeb Wellington a godwyd ar ei chopa yn y 19eg ganrif, drwy fynd i:
- http://www.coflein.gov.uk/en/site/92236/details/pendinas-hillfort-aberystwyth
- http://www.coflein.gov.uk/en/site/32637/details/the-wellington-monument-on-pen-dinas
Cysylltau’r Prosiect:
- www.cherishproject.eu
- Facebook: www.facebook.com/CherishProject
- Twitter: @CherishProj
04/05/2018