
Drysau Agored 2022: Archwilio Treftadaeth Adeiledig Cymru
Mae’n braf gweld yr ŵyl Drysau Agored yn ei hôl fis Medi eleni, sef cyfraniad blynyddol Cymru i’r fenter Diwrnodau Treftadaeth Ewropeaidd, sy’n gwahodd sefydliadau treftadaeth, perchnogion preifat, awdurdodau lleol ac eraill i agor eu drysau i adeiladau hanesyddol neu gynnig gweithgareddau am ddim yn ystod mis Medi.
Caiff yr ŵyl boblogaidd hon ei hariannu a’i threfnu gan Cadw, ac mae’n cynnwys sawl un o safleoedd llai cyfarwydd Cymru – y mae rhai ohonynt fel rheol ar gau i’r cyhoedd – yn ogystal â thirnodau mwy eiconig megis Eglwys Gadeiriol Tyddewi, Castell Cas-gwent a llawer o safleoedd Cadw a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Yn ystod y mis bydd dros 200 o safleoedd, tirnodau a thrysorau cudd hanesyddol Cymru yn cynnig mynediad, digwyddiadau neu deithiau tywysedig rhad ac am ddim i ymwelwyr.
Bydd y mannau hynny’n cynnwys y canlynol:

Tŷ Mawr, Wybrnant, Penmachno, lle ganwyd yr Esgob William Morgan a gyfieithodd y Beibl cyfan i’r Gymraeg am y tro cyntaf. Cafodd y Beibl hwnnw ei gyhoeddi yn 1588. Yn dilyn gwaith gan y Comisiwn Brenhinol i ddyddio cylchoedd coed, gwelwyd bod y tŷ presennol wedi’i ailadeiladu tua diwedd yr 16eg ganrif yn ystod oes yr Esgob Morgan. Bydd mynediad am ddim ar gael rhwng 10am a 4pm ddydd Sadwrn 17 Medi.

Llys Insole, sef plasty Fictoraidd rhagorol yn Llandaf, a adeiladwyd yn 1855 gan W.G. ac E. Habershon ar gyfer y diwydiannwr lleol, J.H. Insole. Aeth y tŷ â’i ben iddo ar ôl yr Ail Ryfel Byd ond cafodd ei achub ar gyfer y gymuned, ei adfer gan Ymddiriedolaeth Llys Insole a’i ailagor yn 2016. Mae nifer o deithiau gwib 30 munud, rhad ac am ddim ar gael ddydd Sadwrn 24 Medi a dydd Sul 25 Medi. I gael rhagor o fanylion, ewch i: https://cadw.llyw.cymru/drysau-agored-llys-insole

Yr Ysgwrn, Trawsfynydd, Gwynedd, sef cartref Hedd Wyn (1887? –1917) a ddaeth yn enwog am ennill y gadair am ei gerdd `Yr Arwr’ yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw ar 6 Medi 1917, a hynny wedi iddo farw ar 31 Gorffennaf ym mrwydr Cefn Pilkem. Ddydd Sadwrn 24 Medi, bydd teithiau tywysedig am ddim o amgylch y ffermdy’n cael eu cynnig (dim ond drwy eu harchebu ymlaen llaw y byddant ar gael) a bydd sesiynau crefft am ddim ar gael hefyd drwy gydol y dydd i blant a phobl ifanc.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: https://cadw.llyw.cymru/drysau-agored-yr-ysgwrn

Bydd nifer o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal yn ystod y penwythnos Drysau Agored ar 24 a 25 Medi, ac ar 29 Medi yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi, sef un o adeiladau canoloesol mwyaf nodedig Prydain. Bydd teithiau o amgylch yr Eglwys Gadeiriol yn cynnwys ardaloedd nad ydynt fel rheol yn agored i’r cyhoedd, yn enwedig y pwlpitwm (sgrîn) a’i furluniau o’r 14eg. Mae’r lluniau yn cynnwys y dylluan (doethineb = y clerigwyr) y mae pïod (ffolineb = y gynulleidfa) yn ymosod arni, sydd uwchben y drws sy’n mynd i mewn i gorff yr Eglwys. Caiff y murluniau eu trafod yn Temlau Peintiedig: Murluniau a Chroglenni yn Eglwysi Cymru, 1200–1800 gan Richard Suggett.
Mae calendr sy’n dangos pa safleoedd sydd ar agor a phryd i’w gael ar wefan Cadw:
https://cadw.llyw.cymru/ymweld/be-syn-digwydd/open-doors-events
Mae’r cyfnod presennol o alaru cenedlaethol yn golygu efallai na fydd rhai digwyddiadau’n mynd yn eu blaen yn awr. Dylech gadarnhau gyda’r lleoliad cyn ymweld.
09/13/2022