Drysau Agored yn y Comisiwn Brenhinol, Medi 2017 – a mwy!

Mae gan y Comisiwn Brenhinol raglen brysur o weithgareddau yn ystod yr Hydref/Gaeaf eleni, gan gynnwys digwyddiadau Drysau Agored a sgyrsiau am hanes a phensaernïaeth.

Yn gyntaf fe gaiff digwyddiad Drysau Agored o’r enw Yn y Cefndir ac yn y Ffrâm yn y Llyfrgell Genedlaethol a’r Comisiwn Brenhinol ei gynnal ar y cyd â Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar Ddydd Mercher, 20 Medi. Arddangosir deunydd archifol a gweithiau celf gwreiddiol o’r ddau sefydliad ar y dydd. Fe fydd pedair taith dywys (dwy yn Saesneg, sydd wedi gwerthu allan yn anffodus, a dwy yn Gymraeg – mae rhai lleoedd yn dal ar gael) sy’n mynd â’r ymwelydd y tu ôl i’r llenni i storfeydd y Llyfrgell i weld gwaith Syr Kyffin Williams, ac i archifau’r Comisiwn Brenhinol i weld gwaith Falcon Hildred, yr arlunydd tirluniau diwydiannol, a Herbert North, y pensaer Celf a Chrefft. Cynhelir y teithiau Cymraeg am 10.00am a 2.00pm ac maen nhw am ddim drwy docyn. I gael tocynnau neu wybodaeth bellach, ffoniwch: 01970 632548 neu ewch i: https://www.llgc.org.uk/index.php?id=6801

Yn ogystal â’r teithiau tywys, fe fydd arddangosfa o waith celf gwreiddiol Falcon Hildred a Herbert North yn Llyfrgell ac Ystafell Ymchwil y Comisiwn Brenhinol, yn ogystal ag arlunwaith gwreiddiol o Restri y Comisiwn, murluniau o’n Casgliad Murluniau a lluniadau hanesyddol o Ysgol Pensaernïaeth Cymru. Bydd modd gweld y deunydd drwy gydol y dydd a bydd staff wrth law i ateb cwestiynau a sgwrsio’n anffurfiol.

Ar 22 Medi, fe fydd Richard Suggett, hanesydd pensaernïol, yn ymuno â digwyddiad Drysau Agored Treftadaeth Dinbych am 7pm yn Theatr Twm o’r Nant, Ffordd yr Orsaf, Dinbych i roi sgwrs ar Searching for the Oldest Houses in Wales. Bydd Richard yn sôn am ymchwil diweddar a wnaed i dai canoloesol yng ngogledd Cymru gan y Comisiwn Brenhinol mewn partneriaeth â’r Grŵp Dyddio Hen Dai Cymreig. I gael mwy o fanylion ac i drefnu’ch lle, cysylltwch â Llyfrgell Dinbych, ffôn: 01745 816313; e-bost: denbigh.library@denbighshire.gov.uk

Rhai o’r sgyrsiau Hydref a Gaeaf a roddir gan staff y Comisiwn yw:

21 Medi, Cymdeithas Hanes Llandinam, 7.30pm. Sgwrs gan Dr James January-McCann ar gasglu enwau lleoedd Cymreig. Cynhelir y sgwrs yn Neuadd y Pentref, School Lane, Llandinam SY17 5BY.

28 Medi, Clwb Cyfeillgarwch Dre-fach, 2pm, Neuadd Gymunedol Eglwys y Drindod Sanctaidd, Lôn yr Eglwys, Castellnewydd Emlyn SA38 9AB. Sgwrs gan Medwyn Parry ar Twentieth-century Military Remains in Wales.

9 Hydref, Cymdeithas Ddinesig Y Fenni a’r Cylch, 7.30pm. Sgwrs gan Richard Suggett ar Medieval Wallpaintings. Rhoddir y sgwrs yn yr Eglwys Fethodistaidd, Stryd y Castell, Y Fenni, NP7 5EE. Tâl mynediad o £2 os nad ydych yn aelod.

11 Hydref, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sgwrs amser cinio gan Scott Lloyd ar The Arthurian Place Names of Wales. Mae enwau lleoedd sy’n gysylltiedig â’r Brenin Arthur yn gyffredin ar hyd a lled Cymru ac yn y sgwrs hon ystyrir tarddiad a datblygiad yr enwau hyn a’u cysylltiadau, gwirioneddol neu fel arall, â’r chwedl Arthuraidd ehangach. Scott Lloyd yw awdur The Arthurian Place Names of Wales a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Wasg Prifysgol Cymru. Rhoddir y sgwrs am 1.15pm yn y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mynediad di-dâl drwy docyn. I gael tocynnau a gwybodaeth bellach, cysylltwch â: https://www.ticketsource.co.uk/llgcnlw

15 Hydref, Diwrnod Treftadaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Theatr Brycheiniog, Glanfa’r Gamlas, Aberhonddu, Powys, LD3 7EW. Thema’r diwrnod fydd Dod â’n Treftadaeth yn Fyw a bydd yn dathlu pen-blwydd y Parc Cenedlaethol yn 60 oed. Am 10.35 y bore, bydd Tom Pert, Rheolwr Datblygu Ar-lein y Comisiwn Brenhinol, yn ymuno â Suzanna Jones o APC Bannau Brycheiniog i roi sgwrs am dechnolegau digidol a threftadaeth. Bydd nifer o sgyrsiau eraill ar brosiectau treftadaeth allweddol, gan gynnwys Gwaith Powdr Gwn Glyn-nedd, Amgueddfa Brycheiniog a Chastell y Gelli. Digwyddiad di-dâl drwy docyn yn unig yw hwn. I gael gwybodaeth bellach, ewch i: www.theatrbrycheiniog.co.uk

31 Hydref, Grŵp Hanes Lleol Sarn, 7.30pm. Sgwrs gan Medwyn Parry ar Someone’s Watching You: A History of Aerial Photography over Wales. Cynhelir y sgwrs yn Neuadd Pentref Sarn, Sarn, Y Drenewydd, Powys SY16 4EJ. Mynediad £2 os nad ydych yn aelod.

1 Tachwedd, Grŵp Archaeoleg Llanelwy, 7.30pm. Sgwrs gan Medwyn Parry, Someone’s Watching You: A History of Aerial Photography over Wales. Cynhelir y sgwrs yng Nghlwb Criced Llanelwy, Llanelwy LL17 0LU.

15 Tachwedd, Grŵp Hanes Lleol Coastlands, 7.30pm. Sgwrs gan Louise Barker ar Climate, Heritage and Environments of Reefs, Islands and Headlands in the Coastlands Area. Rhoddir y sgwrs yn Neuadd y Pentref, Marloes, Sir Benfro SA62 3AZ.

15 Tachwedd, Llyfrgell Doc Penfro, 7pm. Sgwrs gan Medwyn Parry ar Someone’s Watching You: a History of Aerial Photography over Wales. Rhoddir y sgwrs yn Llyfrgell Doc Penfro, Stryd y Dŵr, Doc Penfro SA72 6DW.

15 Tachwedd, Archwiliwch eich Archifau: diwrnod llawn o ddigwyddiadau i ddathlu ein harchifau a’n casgliadau mewn partneriaeth â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 10am – 3.30pm. Am 1.15pm, mewn sgwrs amser cinio, Locating the Legends: Archaeological Tales from the Royal Commission’s Archives, fe fydd Scott Lloyd yn trafod mythau, chwedlau ac archaeoleg, gan gyfeirio at enghreifftiau o fwy na chanrif o waith casglu archifau gan y Comisiwn Brenhinol. Mynediad am ddim drwy docyn. Mae digwyddiadau eraill yn cynnwys teithiau tywys ac arddangosfeydd o ddeunydd o archifau’r Comisiwn Brenhinol a’r Llyfrgell Genedlaethol. I gael mwy o wybodaeth a thocyn ewch i: https://www.ticketsource.co.uk/llgcnlw/

23 Tachwedd, Sefydliad Brenhinol De Cymru, 7.30pm. Sgwrs gan Dr Toby Driver ar Revealing the Archaeology of Swansea and South Wales from the Air: from Prehistory to the World Wars. Rhoddir y sgwrs yn Amgueddfa Abertawe, Victoria Road, Abertawe SA1 1SN. I gael mwy o wybodaeth, ewch i: http://www.risw.org/

2 Rhagfyr, Cymdeithas Hanes Ceredigion, 2.30pm. Sgwrs gan Dr Toby Driver, The Hillforts of Cardigan Bay yn Siambr y Cyngor, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. Croeso i aelodau newydd.

6 Rhagfyr, Darlith Nadolig y Comisiwn Brenhinol: A View From Above – A Century of Historical Aerial Photographs of Wales – gan Medwyn Parry, 6pm, Y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mynediad am ddim drwy docyn.

I archebu tocynnau ar-lein ewch i: http://digwyddiadau.cbhc.gov.uk/digital-past/nadolig-y-comisiwn-brenhinol-a-view-from-above-a-century-of-historical-aerial-photographs-of-wales

Unwaith eto, cynhelir Darlith Nadolig y Comisiwn Brenhinol ar y cyd â Noswaith Siopa Hwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 4.30pm ─ 7.30pm. Bydd adloniant, lluniaeth tymhorol a stondinau sy’n gwerthu nwyddau o safon ar gael.

Mae croeso i bawb yn yr holl ddigwyddiadau hyn. I gael manylion digwyddiadau pellach, ewch i dudalen Digwyddiadau ein gwefan neu cysylltwch â Nicola Roberts nicola.roberts@cbhc.gov.uk; ffôn: 01970 621248.

09/13/2017

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x