CBHC / RCAHMW > Newyddion > Drysau tu fewn Cartrefi Cymru

Drysau tu fewn Cartrefi Cymru

Mae drysau yn nodweddion pwysig mewn cartref sy’n rhannu tai a gofodau sy’n rhoi trefn ar ein mannau byw yn gorfforol ac yn ideolegol.

Y drws yw’r fynedfa i’r cartref.  Amlygir ei arwyddocâd gan y traddodiadau gwerin faith sy’n gysylltiedig ag ef ledled Prydain.  Yn draddodiadol, bydd gŵr yn codi ei briodferch newydd dros riniog y tŷ ac yn aml gosodir pedolau ar brif fynedfa’r tŷ, neu uwch ei phen, i ddod â lwc a chadw ysbrydion drwg neu faleisus draw.  Ar lefel ymarferol, mae drysau yn rhwystrau cadarn rhwng tu mewn a thu allan y cartref ac yn rheoli mynediad i’r ystafelloedd unigol o’i fewn.  Mae drysau hefyd yn rheoli awyrgylch ffisegol y cartref drwy reoli llif yr aer ynddo, maent yn fodd i gynhesu neu oeri’r ystafelloedd yn fwy effeithlon yn ogystal â bod yn ffordd bwysig o reoli tân yn y cartref. 

Mae drysau hefyd un rhwystr rhag gweld neu glywed golygfeydd, aroglau a seiniau annifyr; cuddiant ystafelloedd blêr o’r golwg, rhwystrant aroglau coginio rhag ymledu, ac maent yn mygu sŵn.  Ond byddant hefyd yn rhwystrau i bobl yn y cartref am eu bod yn sicrhau neu’n agor mynediad i’r gwahanol fannau ac ystafelloedd yn y cartref yn ôl yr agweddau ar y pryd at breifatrwydd a dosbarth cymdeithasol, a’r syniadau ynghylch pa fathau o bobl y dylid gadael iddynt fynd i mewn i fathau penodol o ystafelloedd.

Mae drysau’n nodweddion ymarferol yn y cartref.  Hwy sy’n rheoli mynediad i’r wahanol ofodau yno ac maent yn rhwystrau diogel rhwng yr ystafelloedd.  Ond gall drysau fod yn hynod o addurniadol hefyd.  Yn Rhyd-y-gors yng Nghaerfyrddin, roedd bwa pigfain yn yr arddull gothig yn cynyddu apêl y drws mewnol hwn yn unol â chynllun gothig y cyfan o’r tu mewn yn null dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Gall golwg a chynllun drysau fod o gymorth wrth ddyddio eiddo.  Mae addurn yn rhoi cliwiau pwysig yn hynny o beth.  Gall yr addurno ar ddrysau mewnol, a’r driniaeth a gânt, gyfleu syniadau ac agweddau preswylwyr olynol at y cartref ac at yr ystafelloedd a’r gofodau penodol y maent yn darparu mynediad iddynt. 

Er mai prin yw’r sylw a gaiff drysau, cynteddau a grisiau fel gofodau yn y cartref, maent yn elfennau hanfodol yn fframwaith ein tai.  Yng Nghymryd Isaf yn Henryd, Sir Gaernarfon, mae pared postyn-a-phanel yn gwahanu’r ystafelloedd ar lawr gwaelod tŷ neuadd Gymreig o’r bymtheg ganrif.

Yn ystod y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif, daeth drysau’n arwyddion allweddol o ddosbarth cymdeithasol.  Trefnwyd bod gan y teulu a’r gweision yn y plasty mawr  fannau tramwy ar wahân, ac felly llwyddwyd i gyfleu a chadarnhau’r gwahanu cynyddol arnynt.  Mynnai perchnogion cyfoethog cartrefi bod eu staff domestig yn dod i mewn i’r adeilad drwy fynedfa’r gwasanaethyddion a bod honno’n un na ellid ei gweld o’r brif fynedfa a ddefnyddiwyd gan aelodau’r teulu. 

Roedd bobl gyfoethog yn cynllunio ac yn defnyddio drysau ym mhrif ran eu tai i wneud argraff.  Mae’r drws mewnol yma ym Mhlasty Trawsgoed, ger Aberystwyth ac yn amlwg yn ddrws a oedd yn fynedfa a gysylltai rhai o brif ystafelloedd y tŷ.  Diben maint y drws, safon y pren a’r cerfio cywrain arno oedd cyfleu cyfoeth a steil perchnogion y cartref.
Nid drwy’r prif ddrws yn nhu blaen y tŷ, byddai’r gweision a’r morynion mewn cartrefi dosbarth uchaf yn defnyddio, ond yn hytrach drwy’r ystafelloedd gwasanaethu yng nghefn y tŷ neu ddrws ochr cudd.  Roedd y drysau hyn yn llai cywrain na’r drws ffrynt a fyddai’n cael ei ddefnyddio gan y teulu, a byddai drysau’r gweision yn agor i gynteddau neu ofodau llai trawiadol.  Mae’r enghraifft hyn o yn Nhrewyn, Crucornau yn dangos mynedfa fwy nodweddiadol ar gyfer y gweision, sef drws pren plaen sy’n agor i gyntedd plaen gyda llawr cerrig. Mae’r rhes o glychau a ddefnyddiwyd i alw staff i wahanol rannau o’r tŷ i’w gweld uwchben y drws.
Mae’r ddelwedd yma yn dangos y grisiau yn Hen Neuadd y Penrhyn yn Llandudno gyda ffrâm y drws a arferai gysylltu dwy ystafell ar lefelau gwahanol.  Gyda thynnu’r drws oddi wrth y ffrâm crëwyd llwybr parhaol rhwng y ddwy ystafell.  Mae’r ffrâm yn ymarferol a phlaen ond yn is o dipyn o ran uchder  na’r mwyafrif o fframiau drysau mewn cartrefi modern.

Mewn ystadau gwledig fel Llanerchaeron ger Aberaeron, nod penseiri fel John Nash oedd bod ei gynlluniau pensaernïol yn cuddio’r ystafelloedd gwasanaethu mawr yng nghefn yr eiddo o olwg y teulu a’r gwesteion, a fyddent yn defnyddio’r brif fynedfa, ac mewn tai tref gosodwyd mynedfeydd o’r fath ar yr islawr o dan lefel y stryd.  Yn y tai hynny, defnyddiwyd beias gwyrdd i reoli symudiadau’r gweithwyr o amgylch y tŷ ac i ddangos y gwahaniaeth a’r pellter cymdeithasol rhwng y gweision o’r dosbarth gweithiol a’u cyflogwyr o’r dosbarth uwch. Math o liain yw beias, a defnyddiwyd y stydiau pres i’w osod ar ddrws er mwyn iddo fygu sŵn ac aflonyddu llai ar y bobl y naill ochr a’r llall iddo.

Ar dai ystâd rhoddwyd cloeon ar lawer o’r drysau mewnol er mwyn cyfyngu mynediad i’r ystafelloedd y tu hwnt iddynt i’r rhai yn unig a oedd ym meddiant allwedd.  Fel rheol, roedd drysau cloadwy i ystafelloedd y gweision, a chedwid yr allweddi gan yr howsgiper.  Roedd hyn yn ffordd arall o ddynodi’r ffiniau dosbarth a rheoli symudiadau gwahanol y gweision a’r teulu.  Roedd cynnwys gwerthfawr a chludadwy’r tŷ hefyd yn cael ei gadw o dan glo; y drefn arferol oedd cadw’r llestri arian a’r crochenwaith dan glo ym mharlwr y bwtler am fod llai o berygl iddynt gael eu cam-drin a’u dwyn.

Darllenwch mwy am ddrysau yn y llyfrau canlynol gan y Comisiwn: Y Tu Mewn i Gartrefi Cymru (2012), Rachael Barnwell & Richard Suggett gyda chyfraniadau oddi wrth Helen Rowe a Y Bwthyn Cymreig (2010) gan Eurwyn Wiliam.

25/06/2024

Subscribe
Notify of
guest

Security code *Time limit exceeded. Please complete the captcha once again.

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x