CBHC / RCAHMW > Newyddion > Dydd Santes Dwynwen Hapus!
Delwedd o Oleudy Ynys Llanddwyn a dynnwyd gan Douglas Hague, awdur yr e-lyfr, Lighthouses of Wales (1994).

Dydd Santes Dwynwen Hapus!

Ionawr 25 yw Diwrnod Santes Dwynwen sef y diwrnod pan fo pobl yng Nghymru yn dathlu eu cyfeillgarwch a’u cariad i’w gilydd ac yn aml cyfeirir ato fel y San Ffolant Cymreig.  Serch hynny, er mai Dwynwen yw nawdd sant cariadon Cymru ac mae’n ddiwrnod pan fo anrhegion a chardiau yn cael eu cyfnewid i ddangos cariad pobl tuag at ei gilydd, mae’r stori bersonol sydd wedi ysbrydoli’r dathliadau yn drasig.

Ffotograff o oleudy, tŷ’r peilot ac Eglwys Dwynwen ar Ynys Llanddwyn gan y Comisiwn Brenhinol yn 2015.
Ffotograff o oleudy, tŷ’r peilot ac Eglwys Dwynwen ar Ynys Llanddwyn gan y Comisiwn Brenhinol yn 2015.

Roedd Dwynwen yn dywysoges o Gymru a oedd yn byw yn y 5ed ganrif ac yn un o ferched niferus Brychan Brycheiniog, rheolwr Brycheiniog.  Yn ôl yr hanes a chwedloniaeth, sydd wedi ei etifeddu a’i drosglwyddo dros y canrifoedd, roedd Dwynwen wedi cwympo mewn cariad gyda Maelon Dafodrill a aeth yn gandryll grac pan glywodd bod tad Dwynwen wedi addo ei phriodi i ddarpar ŵr o’i ddewis ef.  Yn anffodus, roedd Brychan yn anghytuno gyda dewis ei ferch ac yn ei gwewyr ffodd Dwynwen i’r goedwig lle droiodd mewn gweddi at Dduw am gyngor ynghylch beth ddylai wneud.  Ymwelodd angel iddi yn ei chwsg yn cludo hylif hudol ac yfodd Dwynwen yr hylif gan wneud iddi anghofio am Maelon.  Ar unwaith trowyd Maelon yn dalpyn o iâ a chynigiwyd tri dymuniad i Dwynwen gan Dduw, sef dadmer Maelon, sicrhau bod dymuniadau cariadon y dyfodol yn cael eu cyflawni ac yn olaf, na fyddai Dwynwen ei hunan byth yn priodi.  Gwireddwyd y tri dymuniad a phenderfynodd Dwynwen y byddai fel ffordd o ddangos ei gwerthfawrogiad i Dduw, yn byw gweddill ei hoes fel lleian ac ymsefydlodd cwfaint ar Ynys Môn, yn Llanddwyn.

Mae Ynys Llanddwyn ei hun yn benrhyn bach sy’n ymestyn allan oddi ar arfordir de-orllewin Ynys Môn, ger Niwbwrch ac mae angen i ymwelwyr fod yn ofalus wrth ymweld â’r ardal oherwydd gall llanw a thrai’r môr ddatgysylltu’r penrhyn gyda phrif dir yr ynys.  Atyniad arall i ymwelwyr yw’r goleudy enwog sydd wedi ei leoli yn ddramatig ar graig ar begwn deheuol yr ynys.  Fflachiodd y golau cyntaf o’r goleudy, a oedd yn debyg o ran siâp i felinau gwynt enwog sir Fôn, yn 1846.  Mae’r Bythynnod Peilot wedi eu lleoli gerllaw hefyd. 

Mae’r ardal wedi bod yn bwysig iawn mewn cyfnodau gwahanol yn hanes Cymru gyda chanolfan weinyddol tywysogion Gwynedd, wedi ei leoli yn Rhosyr, ger Niwbwrch a sefydlwyd bwrdeidref Niwbwrch ar ddiwedd y 13eg ganrif fel ardal i ble erlidiwyd y Cymry o ardal Llanfaes ym Miwmares gan Edward I ar ôl ei goncwest.  Mae enwau lleoedd Ynys Môn yn rhoi cipolwg inni ar agweddau gwahanol o hanes yr ynys â’i threftadaeth ddiwylliannol gyda llawer ohonynt wedi eu cofnodi ar Restr Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru. Mae hanes Cristnogaeth yng Nghymru yn frith o hanesion a straeon am y seintiau ac mae Eglwys Dwynwen yn esiampl o leiafrif pwysig o eglwysi, sydd wedi eu cysegru i ferch fel Melangell, Mair, Tudful, Non, Gwenfrewi, Gwyryfon a Ffraid.  Ystyr ‘Llanddwyn’ ydy ‘eglwys Dwynwen’, https://enwaulleoeddhanesyddol.cbhc.gov.uk/enwaulleoedd/prifenw/305af386-a568-4286-97b7-0a7d5ba0f80c a sefydlwyd Eglwys Santes Dwynwen yn y 16eg ganrif ar sail gweddillion cwfaint gwreiddiol Dwynwen, lle yn ôl yr hanes mae Dwynwen wedi ei chladdu. Trodd yr eglwys yn adfail ar ôl y Diwygiad Protestannaidd ond goroesodd digon o’r adeilad i’r Comisiwn Brenhinol fedru gofnodi yn Rhestr Môn (1937), t.119, sydd yn medru cael ei lawrlwytho am ddim oddi ar ein siop     ar-lein : Anglesey: An Inventory of the Ancient Monuments in the County . Mae ymwelwyr i Eglwys Santes Dwynwen yn parhau hyd heddiw  i adael rhoddion yn adfeilion yr eglwys ddi-do. Map – Enwau Lleoedd Hanesyddol (cbhc.gov.uk) / Gwddw Llanddwyn – Enw a Gofnodwyd – Enwau Lleoedd Hanesyddol (cbhc.gov.uk)

Mae Ynys Llanddwyn ar hyd yr oesoedd wedi dod yn gyrchfan i bererinion rhamantus gyda ffynonellau fel Merddyn-cûl (Merlin’s Well), Ffynnon y Sais a Ffynnon Dafaden, sydd yn honni i feddu pwerau gwyrthiol i fedru iacháu dafadau ar y corff.  Ffynnon Dwynwen sydd yn bwysig i’r cariadon oherwydd credir bod y llyswennod yn y ffynnon yn medru darogan os yw eu perthynas yn mynd i oroesi neu chwalu.

Gellir olrhain hanes diddorol Ynys Môn ar draws y canrifoedd drwy gael cipolwg ar adnoddau mapaiu y Comisiwn https://historical-atlas-of-anglesey-rcahmw.hub.arcgis.com/ sydd yn y broses o gael eu treialu a’u datblygu.

Does dim amheuaeth bod Dydd Santes Dwynwen wedi dod yn ddyddiad pwysig yng nghalendr Cymru ac mae stori Dwynwen wedi ennyn sylw beirdd fel Dafydd Trefor (c.1460-c.1528) a Dafydd ap Gwilym (tua 1320-tua 1380) a’r hanes sut ddaeth i gael ei chydnabod fel nawddsant Cymru wedi ei adrodd gan Iolo Morganwg.  Yn ogystal â’r llwyau caru, sy’n dyddio nôl i’r 17eg ganrif ac yn cael eu rhoi fel anrhegion poblogaidd ar ddiwrnod Santes Dwynwen, mae’r arferion a hanesion hynafol hyn wedi wedi datblygu i fod yn elfennau annatod o hunaniaeth ac eidentiti modern diwylliant Cymru.

Bethan Hopkins-Williams, Swyddog Ymgysylltu â’r Cyhoedd,  a Nicola Roberts, Rheolwr Cyfathrebiadau.

Golygfa yn dangos Eglwys Dwynwen gyda’i faes amgaeëdig yn dangos cynllun croes yr eglwys. Casgliad Paul R. Davis (2020).
Golygfa yn dangos Eglwys Dwynwen gyda’i faes amgaeëdig yn dangos cynllun croes yr eglwys. Casgliad Paul R. Davis (2020).
Rhoddion wedi eu gadael yn Eglwys Dwynwen, Tachwedd 2023.
Rhoddion wedi eu gadael yn Eglwys Dwynwen, Tachwedd 2023.
Ffynnon Dafaden, ffynnon sanctaidd sydd yn ôl yr hanes  yn medru iacháu defaid ar y corff.  Mae’r nant yn llifo fewn i fasn naturiol.  Casgliad Paul R. Davis (2020).
Ffynnon Dafaden, ffynnon sanctaidd sydd yn ôl yr hanes yn medru iacháu defaid ar y corff. Mae’r nant yn llifo fewn i fasn naturiol. Casgliad Paul R. Davis (2020).
Delwedd o Oleudy Ynys Llanddwyn a dynnwyd gan Douglas Hague, awdur yr e-lyfr, Lighthouses of Wales (1994).
Delwedd o Oleudy Ynys Llanddwyn a dynnwyd gan Douglas Hague, awdur yr e-lyfr, Lighthouses of Wales (1994).
Priordy Llanddwyn wedi ei engrafio gan Metcalfe yn ôl print gan y Brodyr Buck (1742).
Priordy Llanddwyn wedi ei engrafio gan Metcalfe yn ôl print gan y Brodyr Buck (1742).
Ynys Llanddwyn wedi ei ddylunio mewn map chwech modfedd, Archwiliad Ordnans, 2il argraffiad, gyda’r dyddiad 1901, sy’n dangos llawer o gofebau ac enwau lleoedd pwysig yr ynys.
Ynys Llanddwyn wedi ei ddylunio mewn map chwech modfedd, Archwiliad Ordnans, 2il argraffiad, gyda’r dyddiad 1901, sy’n dangos llawer o gofebau ac enwau lleoedd pwysig yr ynys.

Llyfryddiaeth

  • Wales on this day, 366 facts you probably didn’t know, Huw Rees & Sian Kilcoyne (2022).
  • The Welsh Almanac, T.D. Breverton (2002).
  • The Welsh island dedicated to love’, The Welsh island dedicated to love – BBC Travel
  • Gwyddoniadur Cymru Yr Academi Gymreig, John Davies, Nigel Jenkins, Menna Baines and Peredur Lynch (2008).
  • Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, Meic Stephens (1997).

25/01/2024

Subscribe
Notify of
guest

Security code *Time limit exceeded. Please complete the captcha once again.

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x