
Dydd y Cofio – Cofeb Ryfel Genedlaethol Cymru
Heddiw yw Dydd y Cofio, 11 Tachwedd. Mae’n ddiwrnod arbennig a roddwyd o’r neilltu i gofio’r holl ddynion a menywod a laddwyd yn ystod dau Ryfel Byd ac ymladdfeydd eraill. Câi ei alw’n Ddydd y Cadoediad cyn newid yr enw i Ddydd y Cofio ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Mae unfed awr ar ddeg yr unfed diwrnod ar ddeg yr unfed mis ar ddeg yn nodi arwyddo’r Cadoediad, ar 11 Tachwedd 1918, a ddaeth â’r Rhyfel Byd Cyntaf i ben.
Codwyd Cofeb Ryfel Genedlaethol Cymru, a ddyluniwyd gan Syr Ninian Comper, ym Mharc Cathays ym 1928. Mae ar ffurf colofnres gron o golofnau Corinthaidd anffliwtiog gyda thri phortico petryalog yn ymestyn ohoni. Mae arni arysgrif yn y Saesneg (ar y tu allan), ac yn y Gymraeg (ar y tu mewn).
11/11/2018