
Dyddio Hen Dai Cymreig

Uwchlaw’r-coed, NPRN: 28881, y tŷ hynaf yn Eryri sydd wedi’i ddyddio yn ôl arysgrif.
Yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf bu’r Comisiwn Brenhinol yn gweithio mewn partneriaeth â’r Grŵp Dyddio Hen Dai Cymreig yng Ngogledd-Orllewin Cymru. Dan arweiniad Margaret Dunn, mae grŵp mawr o wirfoddolwyr wedi darganfod a dyddio oddeutu deg a thrigain o dai cynnar gyda chymorth Richard Suggett, hanesydd pensaernïol y Comisiwn Brenhinol. Y tŷ hynaf yn Eryri yn ôl y dyddiad sydd wedi’i arysgrifio arno yw Uwchlaw’r-coed, Llanenddwyn, Meirionnydd, sydd wedi’i ddyddio’n 1585.

Yr arysgrif 1585 yn Uwchlaw’r–coed.
Ond mae dyddio ar sail blwyddgylchau bellach yn mynd â hanes tai Eryri yn ôl i ddechrau’r unfed ganrif ar bymtheg ar ôl darganfod i Ddugoed ym Mhenmachno gael ei godi ym 1516/17.

Dugoed, NPRN: 26415, drwy astudio blwyddgylchau dyddiwyd y tŷ i 1516/17.
Mae llawer o dai eraill wedi’u dyddio ac mae’r canlyniadau i’w gweld ar Coflein erbyn hyn. Yn yr hydref 2014 bydd y Comisiwn Brenhinol yn cyhoeddi dadansoddiad o’r canlyniadau hyn, gan Richard Suggett ac aelodau o’r Grŵp Dyddio Hen Dai Cymreig, yng nghyd-destun newidiadau economaidd a chymdeithasol yr unfed ganrif ar bymtheg.
Gan Richard Suggett, Uwch Ymchwilydd Adeiladau Hanesyddol
05/02/2013