CBHC / RCAHMW > Newyddion > Dynion wedi’u hanafu’n cael eu hiechyd yn ôl? – glowyr yn Nhalygarn

Dynion wedi’u hanafu’n cael eu hiechyd yn ôl? – glowyr yn Nhalygarn

Ar Ddiwrnod Coffa Cenedlaethol y Gweithwyr #IWMD21 a Diwrnod Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith y Byd, darganfyddwch fwy am Dalygarn – y ganolfan gwella ac adsefydlu i lowyr a oedd wedi dioddef anafiadau ym mhyllau De Cymru.


Roedd y glowyr yn gweithio mewn diwydiant hynod o beryglus a châi llawer ohonynt eu hanafu a rhai eu lladd mewn damweiniau, er enghraifft, wrth i do gwympo neu i nwy ffrwydro. O ganlyniad i afiechydon cronig fel clefyd y llwch a chryd cymalau, ac anafiadau fel torri’r meingefn, torri aelodau i ffwrdd, sioc, a straen meddwl, cafodd miloedd o lowyr o byllau De Cymru eu hanfon i blasty a thiroedd Talygarn i wella yn y 1920au a’r 1930au, ac i dderbyn triniaeth adsefydlu fwy strwythuredig o 1943 ymlaen.

Talygarn – y tŷ a’r tiroedd

“Roedd Talygarn yn lle crand bryd hynny, wedi’i adeiladu a’i gynnal mewn modd a ystyrid yn angenrheidiol ar gyfer cartref un o’n diwydianwyr mawr. Roedd clwyfedigion diwydiant wedi dod yno i orffwys eu meddyliau ac adfer eu hiechyd, ac roedd digonedd o le i grwydro mewn lle a fuasai’n gartref i un dyn.” Bertie Louis Coombes, Glöwr o Gwm Nedd”.

Bertie Louis Coombes, Bertie Louis Coombes, Glöwr o Gwm Nedd, Neath Guardian , Medi 1945

Cafodd y rhan fwyaf o dŷ Talygarn, maenordy gwledig mawr ger Pont-y-clun, ei adeiladu rhwng 1879 a 1882 i George Thomas Clark, llawfeddyg, peiriannydd a meistr haearn cyfoethog iawn.

G.T. Clark gan Arthur Vivian, 1854

Roedd paneli pren Eidalaidd a phaneli paentiedig yn addurno tu mewn y tŷ ac ar y 180 erw o dir o gwmpas y plasty yr oedd tŵr Eidalaidd pedwar-llawr, ystafell wydr, gardd suddedig ffurfiol fawr, gardd derasog ffurfiol, ac ardal o laswellt lle roedd coed sbesimen o wahanol rywogaethau wedi’u plannu. Garddwriaethwr oedd Clark, ac yn Nhalygarn fe dyfodd goed a phlanhigion o hadau a bylbiau o Dde Affrica a Japan, a bananas hyd yn oed. Mae’r tŷ a’r ardd wedi’u rhestru’n radd II*.

Cronfa Les Glowyr De Cymru yn prynu Talygarn

[Clark] made it a perfect gem of the beautiful in art, which will always be a memorial to his exquisite tastes and cannot fail to be a source of infinite pleasure to the future inmates who will be temporary occupants for rest of mind and body in this human paradise”.

Merthyr Express, 20 Hydref 1923

Oherwydd y chwalfa ariannol a ddilynodd y Rhyfel Byd Cyntaf, fe werthodd ŵyr Clark, Wyndham Damar Clark, y tŷ a’r tir i Bwyllgor Lles Glowyr De Cymru ym 1922, a chafodd Talygarn ei agor fel cartref gwella i lowyr flwyddyn yn ddiweddarach. Rhwng 1923 a 1939 fe dderbyniodd fwy na 41,000 o gleifion. Fel rheol byddai tua 100 o gleifion, rhwng 16 a 70 oed, yn derbyn triniaeth yn y cartref ar unrhyw un adeg.

Fel cartref gwella, roedd y pwyslais yn Nhalygarn ar ddarparu lle gorffwys ac adfer i lowyr a gawsai eu hanafu, yn hytrach na gofal meddygol.

Gorffwys, bwyd da, gweithgareddau ysgafn ac awyr iach oedd y prif ddulliau a ddefnyddid i helpu’r glowyr sâl i adennill eu nerth, er na fyddai llawer o’r cleifion byth yn dychwelyd i waith trwm ar ôl eu harhosiad pythefnos o hyd gan fod eu hanafiadau mor ddifrifol.

Roedd y gweithgareddau ysgafn yn cynnwys pysgota yn y pwll brithyllod, bowls, teithiau i gemau pêl-droed, biliards a cheilys. Roedd yno lyfrgell, defnyddid gerddi’r gaeaf yn lolfa, ac roedd y cleifion yn gallu crwydro’r tiroedd helaeth fel y mynnent.

Byddai cyngherddau, dramâu ac eisteddfodau yn cael eu cynnal yn rheolaidd. Câi pob claf daith am ddim i’r sinema unwaith yr wythnos yn ogystal â pheint o gwrw am ddim bob nos. Rhoddid tocynnau rheilffordd am ddim i’r cleifion hynny a oedd yn ddigon ffit i fynd adref dros y penwythnos.

Adsefydlu ar gyfer yr ymdrech ryfel a’r GIG

Cafodd mwy o driniaethau meddygol eu cyflwyno o’r 1930au, ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd fe ddechreuwyd defnyddio triniaethau adsefydlu uwch a mwy systematig yn Nhalygarn ac mewn canolfannau adsefydlu eraill ledled y Deyrnas Unedig.

Ym 1942, er mwyn sicrhau bod gan y pyllau glo ddigon o lowyr ar adeg pan oedd llafur yn brin oherwydd y rhyfel, argymhellodd y Papur Gwyn ar y Diwydiant Glo roi grantiau o 50% i ganolfannau adsefydlu, ac ym 1943 fe ofynnodd y Weinyddiaeth Tanwydd a Phŵer i Gomisiwn Lles y Glowyr drefnu gwasanaeth adsefydlu i lowyr a oedd wedi’u hanafu i’w cael yn ôl i’r gwaith.

Roedd y driniaeth yn cynnwys ymarfer yn y gampfa, ffisiotherapi, gemau tîm, gwaith crefft, a gwaith yn yr awyr agored. Yn Nhalygarn, darparwyd un gampfa fawr a dwy gampfa lai o faint, adran radiotherapi a thylino corff, ystafell blastr, ac ystafell belydr X.

I wella iechyd y dynion a’u galluogi i ddychwelyd i’r glofeydd, darparwyd gweithdy gwaith coed lle bu’r cleifion yn llifio boncyffion ac yn gwneud gwaith coed mwy arbenigol. Roedd grisiau bach a beiciau statig ar gael i ymarfer cyhyrau segur ac adeiladwyd replica o ‘ffas lo’ hyd yn oed i asesu gallu’r dynion i ddychwelyd i waith o dan y ddaear.

Erbyn diwedd 1949 roedd Talygarn wedi trin 2,209 o gleifion ac roedd 91.3% o’r rhain wedi dychwelyd i’r pyllau.

Mae rhai’n dadlau bod y model meddygol hwn ar gyfer trin glowyr a gawsai eu hanafu yn anwybyddu’r ffactorau a oedd wedi achosi eu hanableddau yn y lle cyntaf, sef yr amodau gwaith peryglus yn y pyllau glo. Prif bwrpas adsefydlu oedd gwella gweithwyr er mwyn eu hanfon yn ôl i amgylchedd lle gallent gael eu hanafu eto.

Cymerwyd Talygarn drosodd gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ym 1955 pan gynhwyswyd cyfamod yn nhrawsgludiad yr eiddo y dylai gael ei defnyddio’n bennaf yn ganolfan adsefydlu ar gyfer gweithwyr a oedd wedi’u hanafu mewn pyllau glo ac na ddylai gael ei defnyddio at unrhyw ddiben arall nes bod cyfleusterau eraill a oedd yr un mor ddigonol ar gael iddynt.

Talygarn heddiw

Gyda chau’r glofeydd ar raddfa eang yn y 1980au, bu gostyngiad sylweddol yn nifer y cleifion yn Nhalygarn. Ym 1996, dim ond un glöwr a saith cyn-löwr a dderbyniodd driniaeth. Ym 1999 fe gafodd y gwasanaethau yn Nhalygarn eu trosglwyddo i Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

Er gwaethaf ymgyrch ar ddiwedd y 1990au o dan y slogan ‘Talygarn Belongs to Wales’ i achub Talygarn fel canolfan adsefydlu, fe werthwyd yr adeilad gan Awdurdod Iechyd Bro Taf ac yn 2008 fe drodd Cowbridge Developments Ltd yr hen ganolfan adsefydlu yn fflatiau preifat.

Mae pwll â tho wythonglog a cherflun o grëyr glas mewn gardd ar y safle, a grëwyd ym 1981 fel rhan o brosiect ‘Gardd i Bobl Anabl’.


Darllen pellach:

Ein cofnod ar gyfer Talygarn.

Ffotograffau’n dangos cleifion yn Nhalygarn, o Gasgliadau Amgueddfa Cymru-National Museum Wales.

A time to Heal, ffilm a wnaed ym 1963.

They Live Again!’: ffilm a wnaed ym 1944 yn dangos glöwr ag anaf i’w feingefn yn cael ei anfon i Dalygarn i wneud adferiad llawn.

Disability in industrial Britain – A cultural and literary history of impairment in the coal industry, 1880–1948, gan Kirsti Bohata, Alexandra Jones, Mike Mantin, a Steven Thompson, 2020.

Rehabilitating the Disabled Miner, gan Mike Mantin, 2014.

G. T. Clark: Ironmaster in the Victorian Age gan Brian Ll James (University of Wales Press, 1998).

Helen Rowe, Swyddog Gwybodaeth

28/04/2021

Subscribe
Notify of
guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x