
Dysgu Gydol Oes yn y Comisiwn Brenhinol
Mae gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru enw da iawn am wybodaeth ac arbenigedd ei staff ac am helaethrwydd ei gasgliadau sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd adeiledig, pensaernïaeth, archaeoleg a hanes morwrol Cymru. Fel corff gwybodaeth gyhoeddus, mae’r Comisiwn yn gweithio i rannu’r cyfoeth hwn o wybodaeth â’r cyhoedd trwy redeg llyfrgell gyhoeddus, archif a gwasanaeth ymholiadau a thrwy gynnig adnoddau eraill yn ogystal ag anerchiadau a digwyddiadau.
Bob blwyddyn, bydd y Tîm Llyfrgell ac Ymholiadau yn croesawu grwpiau, ysgolion a chymdeithasau sydd am ddarganfod mwy am ein gwaith ac archwilio’r casgliadau helaeth sydd yn ein harchif. Mae’r ymweliadau hyn yn addas i grwpiau o bob oed a lefel addysgol, o blant ysgol gynradd i fyfyrwyr ôl-raddedig a dosbarthiadau oedolion a dysgu gydol oes.
Rydym yn teilwra sesiynau i ddiddordebau a lefel pob grŵp. Er enghraifft, gall y sesiynau fod yn rhai eithaf ymarferol gyda llawer o ddeunydd o’r archif i ennyn diddordeb, a gweithgareddau a thaith o amgylch yr archif. Fel arall, gallant fod yn fwy ‘ffurfiol’ gydag anerchiadau gan aelodau o staff am feysydd gwaith arbenigol megis ein gwaith arolygu a’n gweithgarwch ymchwilio, a’r prosiectau sydd gennym ar y gweill, sy’n cynnwys ein Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol. Gallwn gynnal ymweliadau drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg, neu’n ddwyieithog. Rydym hefyd wedi croesawu grwpiau o ddysgwyr Cymraeg sydd am wella eu sgiliau Cymraeg.
Nid dim ond ar gyfer grwpiau o ardal Aberystwyth y mae’r ymweliadau hyn chwaith. Rydym yn archif genedlaethol ac mae gennym ddeunydd sy’n berthnasol i bob rhan o Gymru. Os na allwch alw draw yn bersonol, rydym bellach yn cynnig ‘ymweliadau rhithiol’ ar-lein sydd fel rheol yn cynnwys anerchiad am ein gwaith a’n hadnoddau yn ogystal ag ystod o fideos a gweithgareddau.
Mae dysgu’n bwysig, yn ddiddorol ac yn hwyl i bobl o unrhyw oed neu ar unrhyw lefel. Felly, os oes gennych ddiddordeb mewn hanes, pensaernïaeth neu archaeoleg neu os ydych yn chwilfrydig ynghylch treftadaeth Cymru a gwaith y Comisiwn Brenhinol, cysylltwch â ni i drefnu ymweliad. Os byddai’n well gennych ddod i ymweld â ni ar eich pen eich hun, galwch heibio i’n llyfrgell o ddydd Llun i ddydd Iau. Byddem yn falch iawn o’ch gweld!

06/10/2022