
Efydd, Gwydr ac Aur: Trysorau Cynhanesyddol a Rhufeinig o Geredigion
Bydd y sgwrs hon yn rhoi sylw i ddarganfyddiadau cynhanesyddol a Rhufeinig prin ac arbennig o sir Ceredigion yng Nghymru, y mae nifer ohonynt o bwys cenedlaethol i Gymru ac i’r DU gyfan.
O ‘ddisg haul’ aur cynhanesyddol bach a ddarganfuwyd yng Nghwmystwyth i darian Rhos Rydd o’r Oes Efydd Ddiweddar o Flaenplwyf, llwyau Penbryn o’r Oes Haearn o Gastell Nadolig a ddefnyddid i broffwydo’r dyfodol, a phowlen wydr-nadd Rufeinig unigryw o fila Rufeinig Abermagwr, fe fydd y sgwrs yn trafod y rhan a chwaraewyd gan lwc a siawns yn y darganfyddiadau archaeolegol. Gellir gweld llawer o’r gwrthrychau a grybwyllir yn y sgwrs yn Oriel Bowen, Amgueddfa Ceredigion, Aberystwyth.
Efydd, Gwydr ac Aur: Trysorau Cynhanesyddol a Rhufeinig o Geredigion
gan Dr Toby Driver
Dyma gyfle arall i weld darlith ar-lein y Comisiwn Brenhinol ac Amgueddfa Ceredigion ar gyfer Gŵyl Archaeoleg 2020 a draddodwyd gyntaf yn gynharach yr wythnos hon ar Facebook.
Dr Toby Driver yw Uwch Ymchwilydd (Arolygu o’r Awyr) y Comisiwn Brenhinol ac awdur sawl cyhoeddiad, yn eu plith Pembrokeshire: Historic Landscapes from the Air (CBHC, 2007), Cymru Hanesyddol o’r Awyr/Historic Wales from the Air (CBHC, 2012), a The Hillforts of Cardigan Bay (2017).
07/16/2020